Yr Wythnos Gyda Rob

20 Ionawr 2023

Annwyl Gydweithwyr,

Gobeithio eich bod chi gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.

Y gyllideb sy'n parhau ar frig agenda'r Cyngor wrth i ni weithio i gwblhau ein cynlluniau ariannol ar gyfer 2023/24. Hoffwn unwaith eto fynegi fy ngwerthfawrogiad i Matt Bowmer, Gemma Jones a'r holl gydweithwyr cyllid am eu hymdrechion yn y maes hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghydweithwyr UDA am y modd y maent wedi delio ag amgylchiadau heriol iawn ac am y ffordd y maent wedi gweithio fel tîm i ystyried yr holl opsiynau posibl wrth osod cyllideb ddrafft.  Diolch i chi i gyd.

Mae ein cynigion ar gyfer y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys cynnydd posib o 4.9 y cant o'r Dreth Gyngor - mae hyn yn gymharol fach o'i gymharu â'r hyn y mae'n ymddangos bod Awdurdodau Lleol eraill Cymru yn ei ystyried.

Cafodd yr adroddiad ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 ei adrodd i'r Cabinet ddydd Iau ac mae nawr yn barod i fynd o flaen pwyllgorau craffu cyn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet ddiwedd Chwefror a'r Cyngor Llawn ddechrau Mawrth. O ystyried y sefyllfa gyda phwysau cost sylweddol, yn arbennig o amgylch chwyddiant, mae'r adroddiad yn cynnig arbedion sylweddol a'r defnydd gofalus o gronfeydd wrth gefn i ddelio â bwlch cyllid o tua £9 miliwn.

Mae gan drigolion y Fro hefyd gyfle i rannu eu syniadau am y cynlluniau hyn trwy gwblhau arolwg a lansiwyd ar wefan y Cyngor yn ddiweddar.

Bydd hefyd yn bosib i bobl rannu eu meddyliau dros y ffôn neu mewn nifer o ddigwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb. Bydd yr holl ymatebion yn llywio unrhyw newidiadau i'r gyllideb ddrafft cyn iddo gael ei gwblhau ymhen ychydig fisoedd.

Barry Docks Interchange

Nesaf, hoffwn dynnu eich sylw at waith sydd wedi dechrau ar brosiect Cyngor mawr.

Mae'r contractwyr Jones Bros Civic Engineering UK ar y safle ger Swyddfa'r Dociau lle bydd Cyfnewidfa Drafnidiaeth Doc y Barri wedi'i lleoli.

Rwy'n siŵr y bydd nifer ohonoch wedi sylwi ar bresenoldeb gweithwyr, ffensys a pheiriannau yn y maes parcio.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y gyfnewidfa yn dod yn bwynt cyfarfod ar gyfer gwahanol fathau o drafnidiaeth, gan greu canolbwynt ar gyfer mathau cynaliadwy o deithio.

Yn ffinio ag adeilad Swyddfa'r Dociau, mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (P-RC) a Llywodraeth Cymru.

Interchange image Dec22

Bydd yn cysylltu gwasanaethau trenau, bws, beicio a thacsis yn ogystal â chynnig cyfleusterau parcio a theithio gerllaw. 

Y nod yw gwneud teithio cynaliadwy yn fwy cyfforddus, cyfleus, ac apelgar. Dylai cysylltu gwahanol ddulliau o drafnidiaeth gyhoeddus gyda'i gilydd fel hyn gynnig dewis deniadol, ecogyfeillgar arall yn lle teithio mewn car

Mae'r cynllun hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n Prosiect Sero menter i wneud yr Awdurdod yn garbon niwtral erbyn 2030, gyda disgwyl i'r gwaith ar gam un gael ei gwblhau ym mis Mai.

Hoffwn ddiolch i Emma Reed, Kyle Phillips, Craig Howell a’r Tîm Priffyrdd ehangach am eu gwaith ar y prosiect hwn, sy'n enghraifft wych o sut gallwn ni gyflawni'r agenda werdd.

Gall hefyd gefnogi datblygiad economaidd y Barri a Dinas-ranbarth Caerdydd, gan helpu'r rhai sy'n ceisio mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg.

Crawshay Court Community Garden Greenhouse

Gan aros gyda Phrosiect Sero, mae gwirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol Llys Crawshay yn Llanilltud Fawr yn gofyn am roddion poteli plastig dwy litr ar gyfer eu tŷ gwydr wedi'i ailgylchu.

Mae’r trefnwyr yn amcangyfrif bod angen 500 potel arall i gwblhau'r prosiect.

Mae'r ardd gymunedol, sydd wedi'i lleoli ar safle cynllun tai cysgodol, yn anelu at leihau arwahanrwydd, gwella lles a chefnogi tenantiaid drwy'r argyfwng costau byw.

Mae gwirfoddolwyr o Vale Plus Extra, Ysgol Gynradd y Ddraig, trigolion Crawshay Court a gwirfoddolwyr cymunedol lleol yn cydweithio i ofalu am yr ardd a thyfu ffrwythau a llysiau i bobl eu mwynhau.

Os oes gennych boteli i'w sbario, cysylltwch â Sian Clemett-Davies i drefnu mynd â nhw i’r Swyddfa Ddinesig.

Neu, dewch â nhw i Orsaf Gwasanaethau Brys Llanilltud Fawr, Llanmaes Rd, Llanilltud Fawr CF61 2XD, at sylw’r SCCH Rhiannon Cummings.

Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar greu Strategaeth Ddigidol a Map newydd ar gyfer y sefydliad.

Ein gwasanaeth TGCh yw un o rannau pwysicaf y sefydliad, ffaith sydd wedi cael ei dangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn arbennig.

Gan adeiladu ar y gwaith Aeddfedrwydd Digidol y gwnaeth partneriaid CGI helpu gyda nhw yn ystod y pandemig, rydym nawr yn ceisio cynhyrchu glasbrint newydd ar gyfer dyfodol digidol y Cyngor.

Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd tu ôl i'r llenni ar hyn ac rwy'n gwybod bod rhai cydweithwyr yn cwrdd yr wythnos nesaf i helpu i ddatblygu cynlluniau ymhellach.

Y nod yw cyrraedd strategaeth a fydd yn sail i'n hamcanion corfforaethol a gwasanaeth, gan ein helpu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd rhagorol sy'n cefnogi ein holl gydweithwyr ac, yn bwysicaf oll, ein trigolion.

Mae rhan o'r Strategaeth Ddigidol, Prosiect Cyflogres Oracle Fusion wedi helpu i symleiddio ein proses gyflogres Adnoddau Dynol a'i halinio'n well â meysydd eraill y sefydliad, fel Cyllid.

Mae Sarah Jeanes wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwnnw i helpu i sicrhau bod y system mor gadarn â phosibl.

Mae’r cyfraniad hwnnw wedi’i gydnabod, gydag Oracle yn awyddus i dynnu sylw at fewnbwn gwerthfawr Sarah.

Mae Sarah wedi dangos enghraifft wych o sut y gellir gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth, gan gymryd rhan mewn grwpiau cynghori allanol a rhannu'r holl ddysgu gyda chydweithwyr.

Diolch yn fawr iawn am yr ymroddiad hwnnw, Sarah.

Yn olaf, roeddwn i eisiau cyfeirio at Phil Chappell a'i Dîm Adfywio am y gwaith sylweddol a wnaed ganddynt yn ein Cais Codi’r Gwastad.

Linear Park View (The Mole) Site Photo

Fe wnaeth y Cyngor gyflwyno cais cryf iawn am arian a fyddai wedi cael ei ddefnyddio i adfywio Dociau'r Barri a'r glannau cyfagos.

Roedd yn cynnwys creu marina newydd a chanolfan wedi'i dylunio i dyfu busnesau newydd arloesol, gan helpu i gynhyrchu swyddi lleol.

Fel y dywedais, roedd hwn yn gynnig grymus ac uchelgeisiol a wnaeth argraff fawr arnaf, ymhlith eraill.

Yn anffodus, ni lwyddwyd i gael cyllid, ond yn sicr nid yw hynny'n adlewyrchiad o'r ymdrech enfawr aeth i mewn i'r cais.

Rwy'n siŵr, fel fi, y bydd y tîm dan sylw yn siomedig, ond derbyniwch fy niolch diffuant am yr holl waith caled rydych a wnaethoch yn y broses ymgeisio.  Mae'r gwaith hwnnw'n parhau i fod yn hynod berthnasol ac yn ddilys a bydd yn ein gosod ar dir da pan fyddwn yn ystyried ein camau nesaf a'n dewisiadau yn y dyfodol.

Fel bob amser, diolch yn fawr am eich cyfraniad yr wythnos hon – mae'n parhau i gael ei werthfawrogi'n fawr.

Gobeithio y cewch benwythnos braf a hamddenol.

Diolch yn fawr,

Rob