Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 06 Ionawr 2023
Yr Wythnos Gyda Rob - 06 Ionawr 2023
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r neges hon drwy ddymuno Blwyddyn Newydd Dda iawn i chi i gyd.
Gobeithio y cawsoch chi i gyd seibiant pleserus ac ymlaciol gyda'ch teuluoedd ac wedi dychwelyd i'r gwaith wedi'ch adnewyddu ar ddechrau 2023.
Wrth gwrs, nid pawb oedd wedi cael cyfnod estynedig i ffwrdd o'r gwaith, a hoffwn unwaith eto dalu teyrnged i'r rhai a weithiodd gydol yr ŵyl i gynnal ein gwasanaethau rheng flaen hanfodol. Diolch yn fawr iawn.
Fel yr wyf wedi sôn o'r blaen, bydd eleni'n creu heriau wrth i ni weithio i reoli rhywfaint o bwysau cyllidebol sylweddol.
Fodd bynnag, rwy'n hyderus bod y rhain yn rhwystrau y gallwn eu goresgyn a byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ar gyfer preswylwyr Bro Morgannwg.

Wrth i ni ddechrau mis Ionawr, bydd llawer ohonom yn ceisio gwneud newidiadau cadarnhaol i wella ein hiechyd a’n lles.
Gyda hynny mewn golwg, hoffwn gynnig ein hatgoffa bod cynllun Cylch i'r Gwaith y Cyngor yn parhau ar agor tan ddiwedd y mis.
Mae'r cynllun wedi ei anelu at unigolion sy'n awyddus i gymryd rhan mewn beicio fel math cynaliadwy o deithio, ynghyd â'r rhai sy'n feicwyr brwd yn barod. Mae'n cynnig cyfle i staff brynu beic trwy ddidyniadau misol o'u cyflogau a chael budd-daliadau treth ac Yswiriant Gwladol.
Mae amrywiaeth o feiciau ac ategolion ar gael trwy Cycle Solutions, gyda gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y cynllun ar Staffnet+.

Mae Hyrwyddwyr Lles y Cyngor hefyd yn trefnu sesiynau pellach ym mharciau gwledig Cosmeston a Phorthceri.
Wedi i’r rhai a fynychodd ym mis Tachwedd fod yn rhan o'r gwaith o glirio coed, y tro hwn bydd cyfle i blannu coed.
Mae digwyddiadau fel y rhain yn brofiadau dysgu a bondio gwych ac yn helpu i gefnogi mannau gwyrdd lleol.
Maen nhw hefyd yn rhoi cipolwg ar y gwaith caled a wnaed gan geidwaid y parc i gadw ein lleoliadau awyr agored mewn cyflwr mor wych.

Cynhelir y sesiwn yn Cosmeston ddydd Iau, 12 Ionawr rhwng 10am a hanner dydd, gyda'r rhai sy'n mynychu gofyn i gwrdd y tu allan i'r dderbynfa.
Dydd Gwener, 27 Ionawr yw dyddiad y digwyddiad ym Mhorthceri, a gynhelir rhwng 10am a 2pm.
Bydd gwirfoddolwyr yn cwrdd y tu allan i'r caffi yn y maes parcio lle byddant yn derbyn talebau parcio.
Gellir e-bostio’r Tîm Lles am fwy o wybodaeth.
Efallai y bydd gan gydweithwyr ddiddordeb hefyd mewn ymrwymo i brofiad arall sy'n cyfoethogi, un a all wneud gwahaniaeth enfawr i rywun mewn angen.
Os yw maethu yn apelio atoch chi, rwy'n argymell darllen Stori Muriel ar Staffnet, sy'n rhoi cipolwg ar ba mor werthfawr y gall fod.
Mae Maethu Cymru wastad yn chwilio am ofalwyr newydd i ddod ymlaen, ac mae modd cysylltu â nhw am sgwrs anffurfiol os yw hyn o ddiddordeb.
Mae cyfle hefyd i gymryd rhan yn y Rhwydwaith Anabledd Staff newydd.
Cyfarfu'r grŵp hwn am y tro cyntaf fis diwethaf ac fe fydd yn dod at ei gilydd eto ymhen ychydig wythnosau.
Anogir cydweithwyr sydd â phrofiad o anabledd, afiechyd meddwl a niwroamrywiaeth i fynychu i rannu eu syniadau ar sut y gall yr Awdurdod ddarparu ar gyfer eu hanghenion yn well.
Efallai y bydd gan bobl syniadau ar sut y gellid gwella'r gweithle fel bod pawb yn teimlo eu bod wedi'u cynnwys a'u cefnogi'n llawn.
Mae sefydlu'r grŵp hwn yn dilyn sefydlu GLAM, rhwydwaith ar gyfer staff a chynghreiriaid LHDTC+, a Diverse, sy'n cynrychioli cydweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Bydd yn cwrdd am yr eildro ar ddydd Mawrth 24 Ionawr am 1pm yn Ystafell Bwyllgor 2 (a elwir bellach yn Ystafell Cosmeston) yn y Swyddfeydd Dinesig.
Rwyf i a fy uwch gydweithwyr yn y Tîm Arwain wedi ymrwymo i wneud y Cyngor yn amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fynychu.
Gofynnir i'r rhai sydd â chwestiynau neu anghenion mynediad gysylltu â'r trefnydd Colin Davies.
Yn olaf, roeddwn i eisiau tynnu eich sylw at yn 2023/24 at y Cynllun Prynu Gwyliau Blynyddol.
Mae hyn yn cynnig cyfle i staff brynu naill ai un wythnos neu bythefnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro rata i'r rhai sy'n gweithio'n rhan amser).
Telir amdano mewn rhandaliadau cyfartal dros y misoedd sy'n weddill, rhwng 01 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.
Unwaith eto, gadewch i mi roi fy nymuniadau cynhesaf i bob un ohonoch ar ddechrau'r flwyddyn newydd. Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
Diolch eto am eich ymdrechion parhaus.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.