Arggangosfa Diwrnod Cofio'r Holocost yn Oriel Gelg Canolog

 

David Green ArtworkYr wythnos hon, ymwelodd Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd, Lis Burnett a'r Prif Weithredwr Rob Thomas ag Oriel Celf Ganolog yn y Barri i edrych ar arddangosfa Diwrnod Cofio'r Holocost o'r enw 'Tanddaearol - Pobl Gyffredin'.

Mae Oriel Gelf Ganolog yn cynnal arddangosfa i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2023 ar 27 Ionawr. Mae'r Diwrnod Rhyngwladol Cofio hwn yn coffáu rhyddhau Auschwitz-Birkenau. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi'r diwrnod hwn bob blwyddyn ers 2007, gan anrhydeddu'r miliynau o ddioddefwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r hil-laddiadau dilynol a fu mewn gwledydd eraill. Mae thema eleni, Pobl gyffredin, yn cael ei gosod gan Ymddiriedolaeth Goffa'r Holocost, ein partneriaid hirdymor ar gyfer y digwyddiad hwn.

Ddydd Sadwrn 28 Ionawr am 12:00 canol dydd yn Oriel Celf Ganolog, bydd digwyddiad i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost 2023.