Cyfrannwch eich poteli plastig!

Mae gwirfoddolwyr yng Ngardd Gymunedol Crawshay Court yn galw ar y gymuned i roi poteli plastig dau litr ar gyfer eu tŷ gwydr wedi'i ailgylchu. Maen nhw wedi amcangyfrif bod angen 500 potel arall i gwblhau'r prosiect.
Wedi’i lleoli yng Nghynllun Tai Gwarchod Crawshay Court, nod yr ardd gymunedol yw lleihau unigrwydd, gwella lles, a chefnogi tenantiaid a'r gymuned drwy'r argyfwng costau byw.
Mae gwirfoddolwyr o Vale Plus Extra, Ysgol Gynradd y Ddraig, tenantiaid Crawshay Court a gwirfoddolwyr cymunedol lleol yn cydweithio i ofalu am yr ardd a thyfu ffrwythau a llysiau i'r gymuned eu mwynhau.
Os oes gennych boteli i'w sbario, dewch â nhw i Orsaf Gwasanaethau Brys Llanilltud Fawr, Llanmaes Rd, Llanilltud Fawr CF61 2XD, at sylw SCCH Rhiannon Cummings.