Cydweithwyr o’r Cyngor yn mynychu Bŵt-camp INFUSE

Infuse 

Yn ddiweddar, cymerodd cydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor ran yng ngharfan tri y Bŵt-camp INFUSE yng Nghaerdydd.

Daethpwyd â'r cyfranogwyr at ei gilydd dros ddeuddydd i ddechrau sgyrsiau, meithrin perthynas ac yn anad dim tanio eu dyhead i arloesi.

Mae'r Bŵt-camp Infuse yn gyfle i gymdeithion gwrdd â thîm Infuse ac i ddod at ei gilydd, datblygu perthnasoedd ar draws y gwahanol awdurdodau lleol a darganfod beth fydd y 6 mis nesaf o Infuse yn ei olygu.

Dros y 6 mis nesaf, bydd y garfan yn mynd i'r afael gyda’i gilydd â rhai o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r rhanbarth.

Mae rhaglen Infuse yn rhoi cyfle i weision cyhoeddus ddysgu am offer a dulliau newydd a’u cymhwyso i helpu i gyflwyno datblygiadau arloesol a phrofi gwasanaethau cyhoeddus llwyddiannus a gynlluniwyd i helpu i fynd i'r afael â heriau ar themâu Cyflymu Datgarboneiddio a Chymunedau Cefnogol.

Dywedodd Nicola Sumner-Smith, un o Bencampwyr Infuse y Fro: "Mae rhaglen INFUSE wedi bod yn brofiad dwys ond sy’n cyfoethogi. Roedd y rhaglen yn gymysgedd amrywiol o ddarlithoedd, gweithdai, trafodaethau, gwaith grŵp, ac un-i-un, ac roedd yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ac offer ond y cyfan o fewn dwy thema pwnc Cymunedau a Datgarboneiddio, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau uniongyrchol â rôl pawb o fewn y Cyngor, felly does dim ots os nad yw'r themâu hynny'n ymddangos yn berthnasol ar y dechrau.

"Yn bersonol, rydw i wedi cymryd gwerth mawr o gwrdd ac ymgysylltu â swyddogion eraill o'r holl awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae llawer o gyfleoedd i drafod heriau go iawn rydym ni i gyd yn eu hwynebu, a thrafod atebion posib yn seiliedig ar brofiadau a syniadau pobl. Yn ogystal, mae gan y siaradwyr a'r hwyluswyr brofiad helaeth i fanteisio arno. O'r herwydd, mae gen i ddiddordeb mawr i glywed am ardaloedd eraill yn y DU a thu hwnt a sut maen nhw'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn y Fro hefyd.

Ar y cyfan mae'r rhaglen wedi bod yn heriol yn ddeallusol, yn ysgogol yn broffesiynol ac wedi rhoi boddhad personol. Ni ddylid tanbrisio'r buddsoddiad amser, ond rwyf hefyd yn ystyried y bydd yr amser a dreulir yn y rhaglen yn fuddsoddiad da i mi a'r Cyngor yn gyffredinol."

Mae Carfan Tri yn cynnwys pump unigolyn o Gyngor Bro Morgannwg – Alec Shand, Arabella Calder, Gaynor Jones, Penny Fuller a Steve Davies. Ymunodd y pump â staff o Gynghorau eraill ar draws de Cymru gan gynnwys Blaenau Gwent, Sir Fynwy a Chaerdydd yn ogystal â staff o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru. a Cyfoeth Naturiol Cymru.