Staffnet+ >
iExpenses yn cau cyn lansio Oracle Fusion
iExpenses yn cau cyn lansio Oracle Fusion
Un o’r gwasanaethau mewnol cyntaf i drosglwyddo i Oracle Fusion fydd hawliadau treuliau.
O ganlyniad, bydd y system Oracle iExpenses bresennol yn cael ei dileu ar 1 Mawrth 2023.
Peidiwch â chyflwyno unrhyw hawliadau treuliau ar iExpenses ar ôl 1 Mawrth nes bod y system Oracle Fusion newydd ar waith ym mis Ebrill.
Pan fydd y system newydd yn fyw ym mis Ebrill, bydd pob aelod o staff yn gallu cyflwyno hawliadau treuliau’n ddigidol gyda llwyfan newydd, hawdd ei ddefnyddio, sef Oracle Fusion. Bydd pob hawliad treuliau’n cael ei brosesu'n ddigidol o'r dyddiad hwn ymlaen.
Dylid hefyd ddal hawliadau costau ar ffurflen nad ydynt yn cael eu cyflwyno cyn dyddiad cau'r gyflogres ar 1 Mawrth yn ôl a’u rhoi ar y system iExpenses newydd ym mis Ebrill. Gellir gwneud hyn gan ddefnyddio iExpenses ar eich dyfais gorfforaethol neu bersonol.
Ar ôl lansio Oracle Fusion ym mis Ebrill, bydd treuliau yn cael eu talu ar wahân i'ch cyfrif banc gan y tîm Cyfrifon Taladwy yn hytrach nag fel rhan o'ch cyflog yn fisol.
Bydd gwybodaeth, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i hawlio treuliau drwy Fusion, yn cael ei hychwanegu at hyb Oracle Fusion ac IDev wrth i ni agosáu at lansio Oracle Fusion.
Os hoffech wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi yna cysylltwch â thîm prosiect Fusion.
Cysylltwch â'r tîm drwy’r ddolen isod os oes gennych unrhyw bryderon.
Cysylltu â’r tîm