Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro Hanner Ffordd drwy Taith Gerdded Elusennol 

yos team

Os darllenoch chi’r stori newyddion hon ym mis Ionawr, byddwch chi’n gwybod bod Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid y Fro wedi gosod her i'w hunain i gwblhau 2,000,000 cam rhwng 13-26 Chwefror.

Maen nhw’n cerdded y llwybr 1000 milltir yn rhithwir o Lands End i John O'Groats, gyda’r gobaith o godi £1,000 - £1 am bob milltir!

Mae'r tîm wedi cyrraedd hanner ffordd ac wedi cwblhau 1,107,581 o gamau ac ar y trywydd cywir i gwblhau'r 2,000,000 llawn - rhagorol.

Fe wnaethon nhw gyfarfod ddydd Sul diwethaf yn Llynnoedd Cosmeston i ddod at ei gilydd a chwblhau camau ychwanegol dros y penwythnos.

Mae'r tîm yn codi arian ac ymwybyddiaeth o Ymddiriedolaeth Trussell sy'n cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd, yn darparu bwyd a chefnogaeth frys i bobl mewn argyfwng, ac yn ymgyrchu dros newid i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd.

Mae GTI y Fro’n codi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Trussell (justgiving.com)

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen Staffnet+.