Staffnet+ >
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol – Diwrnod 5
Wythnos Cydraddoldeb Hiliol – Diwrnod 5

Fyddwch chi'n ymuno â miliynau o bobl eraill heddiw i droi geiriau a meddyliau'n weithredoedd?
Diwrnod yr Addewid Mawr
Dros y pedwar diwrnod diwethaf, rydym wedi archwilio ambell fater allweddol sy’n codi bob dydd sydd yn peri loes a niwed i’ch cydweithwyr, ffrindiau cymunedol, a theuluoedd ethnig amrywiol, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod wedi eu hymylu (ac rydym yn sylweddoli y gallai llawer ohonoch chi fod wedi ei brofi'n uniongyrchol eich hunain).
Ydyn ni'n camu'n ôl, cerdded i ffwrdd, anwybyddu, neu weithredu?
Yr unig ffordd i sicrhau tegwch a chydraddoldeb i bawb yw i bob un ohonom weithredu
#MaenFaterIBawb
Drwy gyfrwng cyfweliadau un wrth un a gweithdai grŵp gyda chymuned Race Equality Matters, a thrwy gydweithio â'r fforwm llywodraethu a Dr Karl George MBE, rydyn ni wedi nodi addewidion sy'n fesuradwy, yn atebol, ac yn dryloyw ac a fydd yn creu newid ystyrlon. Roedd hyn yn cynnwys adolygu 15 siarter hil a chyfanswm o 200 a mwy o ymrwymiadau ac addewidion. Yr enw ar y rhain yw’r Addewid Mawr.
Gwna'ch Addewid/ion Mawr heddiw!
Er mwyn eich helpu i wneud yr ymrwymiad hwnnw, rydym wedi nodi casgliadau pwrpasol o saith addewid ar gyfer:
- Byrddau, Pwyllgorau Gweithredol a Rheolwyr Gweithredol
- Uwch Arweinwyr
- Cynghreiriaid
- Cydweithwyr ethnig amrywiol
Mae'r casgliadau o saith addewid wedi eu datblygu'n benodol fel y bydd pob un yn cael effaith wirioneddol ar gydraddoldeb hil yn y gweithle.



Gallwch ddechrau newid y byd heddiw drwy wneud eich Addewid Mawr nawr: ewch i Declyn yr Addewid Mawr
Mae pob addewid wedi cael ei bennu gan y rhai sydd â phrofiad byw o anghydraddoldeb hiliol. Hynny yw, pobl sydd wedi wynebu heriau'n gysylltiedig â hil yn y gweithle (ac mewn cymdeithas) mewn amrywiaeth o amgylchiadau.
Mae'r heriau hyn yn cynnwys hiliaeth a meicroymosodiadau a rhwystrau i gynnydd mewn gyrfa yn ogystal â arferion recriwtio, datblygu, a chynnydd gwahaniaethol ac anghyfartal.
Rydym yn clywed eu straeon bob dydd, ac rydym am i sefydliadau a'u gweithwyr wrando ar yr hyn a ddywedwyd a gweithredu er mwyn i ni wella'r profiad byw i bobl, nawr ac yn y dyfodol.