Wythnos Cydraddoldeb Hiliol – Diwrnod 4

 

Race Equality Week

Efallai nad ydych chi'n hiliol, ond ydych chi'n wrth-hiliol? Mae gwahaniaeth mawr!

Fel gyda Diwrnodau 2 a 3, mae gennych gwestiwn Agor eich Llygaid heddiw, ynghyd â fideo byr i'w wylio, a chamau gweithredu i'w hystyried.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhan o Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliol Cymru, sy'n gosod gweledigaeth erbyn 2030 o Gymru sy'n wrth-hiliol mewn cymdeithas, llywodraethiant, a sefydliadau, ar sail gwerthoedd sydd yn agored, yn seiliedig ar hawliau, ac sy’n rhoi profiad byw wrth galon popeth a wnânt.

Mae'r Cyngor yn falch o fod yn cynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth hil i staff, gan ddechrau gyda rhai gwasanaethau rheng flaen cyn eu cyflwyno i adrannau eraill.  Rydym hefyd yn annog staff i ddefnyddio rhai o'r cyrsiau perthnasol ar iDev megis Cydraddoldeb ac Amrywiaeth - Cynyddu Ymwybyddiaeth, Mae Cydraddoldeb o Bwys, a Beth yw Gwahaniaethu.

Ystyriwch hyn – os nad ydych chi’n rhan o'r ateb, rydych chi’n  rhan o'r broblem. 

  • Cwestiwn

    Os ydych chi’n clywed rhywun yn dweud rhywbeth hiliol neu rywbeth a allai fod yn dramgwyddus i rywun arall, ydych chi’n

     

    -        Siarad yn ddiweddarach â'r person a allai fod wedi ei dramgwyddo?

    -        Siarad yn ddiweddarach â'r person a ddywedodd y peth tramgwyddus?

    -        Codi llais ar y pryd?

    -        Siarad â chydweithwyr eraill yn ddiweddarach, a holi eu barn ar yr hyn ddigwyddodd?

    -        Ei anwybyddu?

     

    Nid yw peidio â bod yn hiliol, peidio â gwneud unrhyw beth neu anwybyddu enghraifft o hiliaeth yn ein gwneud ni'n wrth-hiliol. Felly ni fydd yn newid anghydraddoldeb hil.

    "Weithiau, rydyn ni'n eistedd, ac yn edrych o'n cwmpas, ac yn  meddwl, 'sut yn y byd y galla i newid hyn?' Ac weithiau allwch chi ddim. Ond fe allwch sicrhau bod pobl yn gwybod lle rydych chi'n sefyll ym mha le bynnag y byddwch. Maen nhw'n gwybod eich bod chi'n wrth-hiliol. Rydych chi’n goleuo’r ffordd felly. Rydych chi'n dod yn rhywun sy'n gwneud i bobl eraill eisiau bod yn wrth-hiliol hefyd. Mae gennych chi offer ar gael i chi."

    John Amaechi, seicolegydd, awdur New York Times a chyn-chwaraewr pêl-fasged NBA.

  • Fideo 

    Felly, beth yw'r gwahaniaeth rhwng 'peidio â bod yn hiliol' a 'bod yn wrth-hiliol', a beth yw'r effaith?

     

     

    Gwyliwch y fideo yma i ddeall mwy:

    www.bbc.co.uk/bitesize/articles/zs9n2v4

     

    Ffynhonnell: John Amaechi, BBC

     

    Dywedodd 52% o dros 1,400 o weithwyr a holwyd gan y seicolegwyr busnes, Pearn Kandola, eu bod wedi gweld gweithred hiliol yn y gwaith. Dywedodd un o bob tri ohonyn nhw nad oedden nhw wedi rhoi gwybod i'w cyflogwr. 

  • Cam Gweithredu

    Beth gallech chi ei wneud i fod yn wrth-hiliol? Syniadau:

     

    • Cynlluniwch o flaen llaw – paratowch ambell beth i’w dweud i fynd i'r afael â sylwadau hiliol
    • Ymarferwch eu dweud nhw nes iddo deimlo'n gyfforddus
    • Y tro nesaf y byddwch yn clywed sylw amhriodol, neu rywbeth a allai dramgwyddo rhywun, ceisiwch beidio ag aros yn dawel neu gerdded i ffwrdd, ond yn bwyllog ac yn barchus dywedwch "Mae'n ddrwg gen i ond dyw hynny ddim yn dderbyniol"
    • Dysgwch, darllenwch, a siaradwch â'r rhai sydd â phrofiad byw a chrëwch eich pecyn cymorth gwrth-hiliol personol, fel eich bod yn  teimlo'n hyderus wrth godi llais. 

     

    Pa gamau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith?

     

     

     

  • Adnoddau Ychwanegol

      1. https://www.linkedin.com/posts/ashanimfuko_education-diversityequityinclusion-antiracism-activity6980271433264328704-nwe-/  
      2. https://www.ted.com/talks/ibram_x_kendi_the_difference_between_being_not_racist_and_antiracist?language=en
      3. https://mashable.com/article/how-to-be-antiracist
      4. https://www.theguardian.com/world/video/2020/jun/26/how-white-fragility-obstructs-the-fight-against-racism-video-explainer 
      5. https://www.youtube.com/watch?v=TnybJZRWipg