Wythnos Cydraddoldeb Hiliol – Diwrnod 2

 

Race Equality Week

Allech chi fod yn dweud pethau (‘banter’ neu wamalu), allai frifo pobl eraill mewn neu wneud iddyn nhw deimlo nad oes croeso iddynt?

Heddiw, dim ond un cwestiwn Agor eich Llygaid sydd i chi ei ystyried ac un fideo byr i’w wylio cyn ystyried pa gamau gweithredu y gallech ymrwymo iddynt.

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn statws Awdurdod Arloesi Race Equality Matters (REM) i gydnabod ei waith yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy greu Mannau Diogel. 

Mae Mannau Diogel yn fenter gan Race Equality Matters, sy'n darparu amgylchedd diogel lle gall pobl a allai fod yn rhy anghyfforddus fel arall gael sgyrsiau gonest am y pwnc. 

Cynhaliwyd ail gyfarfod Mannau Diogel ym mis Rhagfyr a chyn bo hir bydd cynllun gweithredu'n cael ei rannu i sicrhau bod y gwaith da yn parhau a bod y Cyngor yn parhau i ddod yn sefydliad mwy amrywiol, cynhwysol, a chyfartal.

I gael rhagor o wybodaeth am y Mannau Diogel a'r dyfarniad Awdurdod Arloesi ewch i wefan Race Equality Matters. 

Her heddiw:

  • Cwestiwn Agor Eich Llygaid

    Ydych chi erioed wedi cyfiawnhau defnyddio iaith benodol neu ddweud pethau (allai beri tramgwydd i rai) oherwydd bod rhywun wedi dweud wrthoch chi nad yw e'n eu poeni nhw?

    -        Erioed

    -        Unwaith neu ddwywaith

    -        Dipyn o weithiau

    -        Nifer o weithiau

    -        Drwy’r amser

     

     
     

    Er na fydd rhywbeth yn poeni un person, gall ieithwedd neu derm penodol fod ag ystyr tramgwyddus yn ehangach a gall beri gofid. 

     

    Gelwir sylw neu weithred sy'n mynegi agwedd ragfarnllyd - yn gynnil ac yn anymwybodol yn aml - tuag at aelod o grŵp ymylol (megis lleiafrif hiliol) yn ymddygiad meicroymosodol*

    Ffynhonnell: Merriam Webster

     

    *Gall gael ei adnabod hefyd fel Meicroanfoesgarwch, sy'n cael ei ystyried yn ffurf fodern ar hiliaeth. Mae'n well gan rai ddefnyddio’r term hwn yn hytrach na meicroymosodol oherwydd yr hyn sy'n gysylltiedig â'r term ymddygiad ymosodol.

    "Efallai y bydd rhywun sy'n clywed y sylwadau hyn ymuno yn y chwerthin, hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo'n anghyfforddus. Gallai hyn fod oherwydd nad ydyn nhw eisiau creu gwrthdaro neu am nad ydyn nhw’n teimlo'n ddiogel i wrthwynebu.'

     

    Ffynhonnell:

     

    Reachout

     
  • Fideo 

    Felly, beth yw meicroymosodiad a pham mae'n broblem?

    Gwyliwch y fideo hwn i gael gwybod mwy:  

     

     

    Wrth gael ei gyfweld gan Race Equality Matters, dywedodd 95% o arweinwyr Rhwydweithiau Hil, ac arbenigwyr Hil ac Amrywiaeth a Chynhwysiant o gefndiroedd ethnig amrywiol wedi profi meicroymosodiadau, ac mae'r ffigyrau wedi parhau’n gyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

  • Cam Gweithredu

    Os ydych wedi cyfiawnhau defnyddio iaith neu ddweud pethau a allai fod yn dramgwyddus, beth allech chi ei wneud i newid hyn? Syniadau:

     

    • Treuliwch amser yn dysgu mwy am feicroymosodiadau 
    • Byddwch yn ymwybodol o unrhyw ragfarn sydd gennych a'r iaith rydych yn ei defnyddio
    • Ceisiwch atal meicroymosodiadau pan fyddwch chi'n eu clywed
    • Addysgwch eich timau a'ch cydweithwyr
    • Allech chi gymryd rhan mewn mentora dwyochrog?
    • Allech chi herio iaith i greu moment ddysgu i eraill?
    • Oes yna rywun a allai weithredu fel hyfforddwr a thrafod y mater gyda chi?

     

    Pa gamau fyddwch chi'n eu rhoi ar waith?

  • Adnoddau Ychwanegol