Byddwch yn rhan o’r Wythnos Cydraddoldeb Hiliol - Diwrnod 1

 

Race Equality Week

Nodwyd yr Wythnos Cydraddoldeb Hiliol am y tro cyntaf y llynedd, ac rydym yn falch o fod yn cymryd rhan yn yr Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, rhwng 6 a 12 Chwefror 2023.  

Mae Wythnos Cydraddoldeb Hiliol yn uno miloedd o sefydliadau i weithredu i fynd i'r afael o ddifrif ag anghydraddoldeb hiliol yn y gweithle. 

Lansiwyd menter Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ar draws y DU gan gwmni buddiannau cymunedol Race Equality Matters i uno ac annog sefydliadau ac unigolion ar draws y DU i ddod ynghyd i fynd i'r afael â rhwystrau cydraddoldeb hiliol yn y gweithle.  

Beth yw'r her 5 diwrnod a sut gallwch chi gymryd rhan?

Mae'r Her 5 Diwrnod yn gyfres o bum her ddyddiol - un her y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae diwrnodau 1 i 4 yn adfyfyriol - Mae diwrnod 5 yn gwahodd defnyddwyr i wneud addewid.

Gofynnir i chi dreulio amser bob dydd yr wythnos hon yn hunan-fyfyrio ac ymrwymo i weithredu dros gydraddoldeb hiliol.

Dim ond rhyw bum munud yw pob gweithgaredd - allwch chi sbario yr amser hwn bob dydd yr wythnos hon? 

Y pynciau ar gyfer y gwahanol ddyddiau yw:

Diwrnod 1 – 5 Cwestiynau Adfyfyriol

Diwrnod 2 - Meicroymosodiadau

Diwrnod 3 – Mwy nag enw

Diwrnod 4 – Gwrth-hiliaeth

Diwrnod 5 – Gwneud ymrwymiad drwy'r Addewid Mawr

 Diwrnod 1:

  • Agor eich Llygaid 1

    Yn eich cylchoedd cyfeillgarwch a’ch rhwydweithiau gwaith faint o bobl sydd o gefndir ethnig amrywiol?

     

    • Dim o gwbl
    • Un neu ddau o bobl
    • Dipyn
    • Nifer dda
    • Y mwyafrif

     

    Os nad yw eich cylchoedd cyfeillgarwch a'ch rhwydweithiau gwaith yn amrywiol, pa gamau allech chi eu rhoi ar waith i newid hyn?

     

    • Byddwch yn feddwl agored - rhowch rhagdybiaethau o'r neilltu dathlwch fod pawb yn unigolyn
    • Canolbwyntiwch ar y pethau rydych chi'n eu rhannu yn hytrach na'r gwahaniaethau
    • Defnyddiwch y peth a ddaeth â chi at eich gilydd fel cyfle i agor y drws i gyfeillgarwch
    • Byddwch yn agored ac yn gyfeillgar heb orfodi cyfeillgarwch
    • Mynychwch/ymunwch â'n Rhwydwaith Amrywiaeth. Cymrwch ran yn y gwaith maen nhw'n ei wneud a yr hyn mae’r grŵp wedi ei ddysgu.
    • Ymunwch â gwahanol fforymau / grwpiau cwrdd
    • Ewch i ddigwyddiadau ffisegol, e.e. digwyddiadau grŵp cymunedol

     

    Gofynnwch i chi’ch hun - "Pa gamau fydda i'n eu rhoi ar waith?"

  • Agor eich Llygaid 2 

    Ydych chi erioed wedi osgoi eistedd wrth ymyl rhywun ar sail eich barn am eu hil, crefydd, neu allu?

    • Erioed
    • Unwaith neu ddwywaith
    • Dipyn o weithiau
    • Nifer o weithiau
    • Drwy’r amser

     

    Os ydych chi wedi osgoi eistedd wrth ymyl rhywun, pa gamau allech chi eu rhoi ar waith i newid hyn?

     

    1. Y tro nesaf byddwch chi’n chwilio am sedd, ystyriwch eistedd wrth ymyl rhywun sy'n edrych yn wahanol i chi.

     

    2. Os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus a'r sefyllfa'n briodol, rhowch gychwyn ar sgwrs. Efallai y byddwch chi'n sylweddoli bod mwy yn gyffredin rhyngoch chi na’r disgwyl.

     

    3. Heriwch eich hun i eistedd wrth ymyl yr unigolyn beth bynnag, gan ei bod yn debygol iawn y byddwch yn darganfod bod unrhyw rhagdybiaethau oedd gennych yn ddi-sail. Bydd hyn yn eich helpu i deimlo'n ddiogel a/neu'n gyfforddus yn y dyfodol ac efallai y bydd yn brofiad eithaf dymunol yn y pen draw!

     

    4 Ewch ati i’w wneud.  Ymrwymwch i eistedd wrth ymyl rhywun sy’n edrych yn wahanol i chi ar bob taith.

     

    Gofynnwch i chi’ch hun - "Pa gamau fydda i'n eu rhoi ar waith?"

  • Agor eich Llygaid 3 

    Ydych chi erioed wedi sôn yn benodol am hil rhywun pan nad oedd o reidrwydd yn berthnasol, er enghraifft, cyfeirio at rywun fel 'meddyg du' neu 'gyfreithiwr Asiaidd'?

     

    1. Erioed

    2. Unwaith neu ddwywaith

    3. Dipyn o weithiau

    4. Nifer o weithiau

    5. Drwy’r amser

     

    Os ydych chi wedi nodi hil rhywun pan nad oedd yn berthnasol, pa gamau y gallech chi eu rhoi ar waith i newid hyn?

     

    1. Sylwch ar yr hyn rydych chi'n sylwi am bobl - rhestrwch yn eich pen eu gwahaniaethau corfforol (gallwch ddefnyddio lluniau).

     

    2. Wedyn cwestiynwch eich credoau. Pa nodweddion sy'n sbarduno eich rhagdybiaethau?

     

    3. Pan fyddwch yn ymwybodol o hyn bydd yn haws i chi allu eu hatal rhag digwydd.

     

    Gofynnwch i chi’ch hun - "Pa gamau fydda i'n eu rhoi ar waith?"

  • Agor eich Llygaid 4 

    Ydych chi erioed wedi clywed neu siarad â rhywun a gwneud rhagdybiaethau’n seiliedig ar eu hacen?

     

    1. Erioed

    2. Unwaith neu ddwywaith

    3. Dipyn o weithiau

    4. Nifer o weithiau

    5. Drwy’r amser

     

    Mae pobl yn gwahaniaethu ar sail iaith neu acen heb sylweddoli eu bod yn gwneud. Pan fyddwn yn gosod ein rhagdybiaethau am berson penodol ar y grŵp neu'r gymuned gyfan y mae'r unigolyn hwn yn perthyn iddo neu iddi, yna mae gennym ragfarn.  Mae ymchwil wedi dangos ein bod yn tueddu i grwpio pobl yn anymwybodol i ddosbarth cymdeithasol penodol ac yn rhagfarnu yn eu herbyn ar sail eu hacenion. Drwy feddwl nad yw rhywun sydd ag acen benodol yn ddeallus  nac yn glyfar iawn, rydyn ni'n dangos ein rhagfarn anymwybodol." Dr. Pragya Agarwal, Cyfrannwr Forbes

     

    Os ydych chi wedi gwneud rhagdybiaethau ar sail acen rhywun, pa gamau y gallech chi eu rhoi ar waith i newid hyn?

     

    1. Y tro nesaf y byddwch yn clywed acen, heriwch eich canfyddiadau a'ch ymateb cychwynnol.

     

    2. Gofynnwch a ydych chi'n eu seilio ar yr hyn sy'n cael ei ddweud neu'r ffordd mae'n cael ei ddweud.

     

    3. Gall ysgrifennu'r hyn rydych chi'n ei glywed a gwerthuso’r cynnwys ar wahân helpu i drechu rhagfarn llais.

     

    4. Nodwch eich rhagfarn eich hun a defnyddiwch hyn i drafod y mater gyda rhywun arall tebyg. Eich rôl yw eu hargyhoeddi mor aneffeithiol a rhagfarnllyd y mae hyn.

     

    Gofynnwch i chi’ch hun - "Pa gamau fydda i'n eu rhoi ar waith?"

  • Agor eich Llygaid 5 

    Pan fyddwch chi neu'ch tîm yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol, pa mor aml mae barn, pryderon a chredoau pawb yn cael eu hystyried?

     

    1. Byth

    2. Unwaith neu ddwywaith

    3. Dipyn o weithiau

    4. Nifer o weithiau

    5. Drwy’r amser

     

    Yn ôl People Management, 'canfu ymchwil a gyhoeddwyd yn 2020 fod mwy na 10 y cant o weithwyr yn teimlo eu bod wedi'u heithrio gan gymdeithasu/diodydd gwaith. Mewn gwirionedd, gall y niferoedd fod ychydig yn uwch: canfu astudiaeth yn 2019, pan fydd cyflogwyr yn cychwyn digwyddiadau yfed, bod gweithwyr yn teimlo bod yn rhaid iddynt gymryd rhan, hyd yn oed os byddai'n well ganddyn nhw beidio'... 'Mae’r un peth yn wir am strwythuro digwyddiadau o gylch chwaraeon'.

     

    Os nad ydych chi wedi ystyried barn pawb, pa gamau allech chi eu rhoi ar waith i newid hyn?

     

    1. Mynnwch sgwrs gyda phawb  sy'n rhan o'r broses cyn trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac osgowch ragdybiaethau.

     

    2. Os oes grŵp o bobl yn cynllunio'r gweithgareddau hyn, gwnewch nhw'n amrywiol.

     

    3. Ymgorfforwch ddewisiadau cynhwysol gwahanol os nad yw pobl yn gallu mynychu gweithgareddau a gynigir.

     

    4. Peidiwch â chael grwpiau 'mewn' a grwpiau 'allan' - yn aml fydd  gwahoddiad ddim yn cael ei estyn i'r grwpiau 'allan'.

     

    Gofynnwch i chi’ch hun - "Pa gamau fydda i'n eu rhoi ar waith?"