Yr Wythnos Gyda Rob

03 Chwefror 2023

Annwyl gydweithwyr,

Mae wedi bod yn wythnos brysur arall i Dîm y Fro, gyda’n cydweithwyr yn gwneud gwaith gwych i gefnogi ein trigolion a'i gilydd.

Long service awards

Dechreuais yr wythnos drwy gyflwyno, ochr yn ochr â'r Arweinydd, un o'n Gwobrau Gwasanaeth Hir newydd. Roedd yn wych dal i fyny gyda rhai wynebau cyfarwydd a chwrdd â rhai o'n cydweithwyr mwyaf ymroddedig. Mae'r gwobrau ar gyfer y rhai sydd wedi gweithio ym myd llywodraeth leol am un ai 25 neu 40 mlynedd.  Cafodd straeon gwych eu rhannu ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ein hail sesiwn ddydd Llun.  Byddwn yn llongyfarch pawb sydd wedi derbyn eu gwobrau mewn darn ar StaffNet+ yr wythnos nesaf felly cadwch olwg am fwy o wybodaeth.

Mae cydnabod gwerth gwasanaeth cyhoeddus yn hynod o bwysig i ni fel sefydliad ac i mi'n bersonol ac felly roedd yn wych cynnal digwyddiad mor gadarnhaol a dathlu'r holl waith sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i'n trigolion a'n cymunedau.  

Armed Forces School bronze award

Yn gynharach yr wythnos hon, anfonais e-bost at Sandra Saif, Swyddog Gwaith Achos Grwpiau Bregus Arweiniol, yn diolch i lu o gydweithwyr am gyflwyno Gwobr Efydd Ysgolion y Lluoedd Arfog i Ysgol Llanilltud Fawr ac Ysgol Gynradd Sain Tathan yr wythnos diwethaf yn RAF Sain Tathan.

Dyma rannu rhai o eiriau Sandra: "diolch i bawb a fynychodd y Seremoni Wobrwyo, a phawb y tu ôl i'r llenni a helpodd i drefnu'r dathliad arbennig hwn."  I'r penaethiaid Cedric Burden a Louise Haynes, dywedodd Sandra, "llongyfarchiadau eto ar gyflawni'r wobr hon sy’n cydnabod y gwaith anhygoel rydych chi'n ei wneud i'r plant, eu teuluoedd, a chymuned y lluoedd arfog, ac am ganiatáu i ni gyd rannu yn y dathliad gwych hwn." Ac yn bwysicaf oll efallai, mynegodd Sandra "ddiolch arbennig i'r plant anhygoel am rannu eu straeon, sydd i gyd yn wirioneddol ysbrydoledig - rydych chi’n genhadon gwych!"

Gwaith da bawb. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am waith SSCE Cymru yn y Fro ac am hynt y ddwy ysgol yn ceisio cyflawni’r gwobrau arian ac aur hefyd.

Eagleswell Road - Design 01

Hefyd yr wythnos hon mae cydweithwyr yn ein tîm Tai wedi bod yn cwblhau cynlluniau a fydd yn cynnig llety dros dro o safon uchel i lawer o deuluoedd sydd wedi ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Mae cynlluniau ar gyfer 90 uned llety dros dro o safon uchel wedi cael eu rhannu heddiw. Bydd yr unedau modiwlaidd arloesol, sy'n debyg i'r rhai a adeiladwyd yn y Barri yn 2021, yn debyg i ystâd dai breswyl nodweddiadol ond ni fydd y strwythurau’n barhaol ac felly gellir eu symud i leoliad arall yn y dyfodol, fel y mae'r angen yn codi.

Eagleswell Road - Design 03

Mae datblygiad Eagleswell yn enghraifft wych arall o'r atebion arloesol a roddodd ein cydweithwyr ar waith i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod Cymru'n 'Genedl Noddfa', gan bwysleisio ei hawydd i helpu i wella bywydau ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'r nod hwnnw ac mae rhwymedigaeth foesol yn ogystal â chyfreithiol arno i ddarparu cymorth dyngarol a llety i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Wcráin. Ein cynllun ni fydd un o'r cyntaf yng Nghymru ac rwy'n hynod falch fod Tîm y Fro yn arwain y ffordd ac yn cynnig lloches i'r rhai y cafodd eu bywydau eu chwalu gan y rhyfel.

Infuse logo

Tra’n bod ni’n sôn am arloesi, hoffwn ganmol Alec Shand, Arabella Calder, Gaynor Jones, Penny Fuller a Steve Davies, sy'n rhan o garfan ddiweddaraf y rhaglen INFUSE. Mae'r rhaglen yn rhoi cyfle i weision cyhoeddus ddysgu a defnyddio offer a dulliau newydd i helpu i fynd i'r afael â heriau'r dyfodol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd y pump yn dod â syniadau gwych yn ôl i'r sefydliad ac yn ein helpu i gyflymu newid ymhellach.

Project Zero Logo

Un maes gwaith lle'r ydym yn defnyddio syniadau newydd yn gyson yw Prosiect Sero. Roedd y digwyddiad cyfnewid dillad yr wythnos hon, a gynhaliwyd gan y tîm Prosiect Sero, yn llwyddiant mawr. Cafodd dros 300 o eitemau o ddillad eu cyfnewid ac roedd yna fwrlwm go iawn drwy gydol y digwyddiad. Diolch i bawb a wnaeth hwn yn ddigwyddiad mor wych.

Mae canolfan ymgysylltu newydd Prosiect Sero wedi lansio'r wythnos hon hefyd. Bydd y ganolfan yn cynnig gofod ar-lein i'r preswylwyr a'r staff ddysgu mwy am waith sydd ar y gweill yn y Fro er mwyn taclo newid hinsawdd a rhannu eu syniadau. Cymerwch olwg…

Time to Talk

Yr wythnos hon hefyd gwelwyd y Cyngor yn dangos ei gefnogaeth i'r Diwrnod Amser i Siarad.  Yn 2019, gwnaethom lofnodi Addewid Cyflogwr Amser i Newid; addewid i newid sut rydym yn meddwl ac yn gweithredu o ran iechyd meddwl ar bob lefel o’r sefydliad hwn. Mae Care First a'n Hyrwyddwyr Lles yn ddau ddatblygiad sy'n dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dylai pawb deimlo eu bod yn gallu siarad am eu hiechyd meddwl a byddwn yn eich annog i gyd i gymryd yr amser i ddarllen am yr ymgyrch eleni os nad ydych wedi cael y cyfle eto. 

Wrth i chi ddarllen hwn bydd ein tîm Nôl Ar y Trywydd Cywir yn cynnal eu digwyddiad Cynhesu’r Gaeaf wythnosol yng Nghanolfan Addysg Oedolion Palmerston. Mae eu drysau ar agor o 1pm tan 4pm bob dydd Gwener ac mae croeso mawr i staff alw heibio am ddiod boeth am ddim ac ymlacio cyn y penwythnos.

Race Equality Week Logo

Yr wythnos nesaf bydd y Cyngor yn cefnogi’r Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol ac wythnos Race Equality First. Fe welwch wybodaeth ar draws StaffNet+ a'n gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol. 

Mae’r wythnos cydraddoldeb hiliol yn uno miloedd o sefydliadau a gweithwyr i fynd i'r afael o ddifrif ag anghydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Eleni, byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn yr Her 5 Diwrnod. Byddwn yn postio her newydd bob dydd ar Staffnet+. Gofynnir i chi dreulio amser bob dydd yn hunan-fyfyrio ac ymrwymo i weithredu dros gydraddoldeb hiliol.

Apprenticeship Week Wales 2023

Ar gyfer yr Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol, byddwn yn edrych ar sut y gall rolau prentis helpu i ddarparu #SgiliauAmOes, gan arddangos rhai o'r cyfleoedd sydd ar gael yn y Cyngor, a rhannu straeon prentisiaid yn y Fro. 

Yn olaf, hoffwn rannu gyda chi gynnig arbennig i'n staff gan Hensol Distillery. Gall staff y Fro fanteisio ar gynnig ‘2 am 1’ wrth ymweld â'r ddistyllfa. Os oes unrhyw un eisiau defnyddio'r cynnig hwn, ewch i www.hensolcastledistillery.com a defnyddio'r cod disgownt '2FOR1' wrth dalu.

Fel bob amser, rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon. Joiwch y penwythnos.

Rob.