Hyfforddiant Oracle Fusion yn lansio'r wythnos nesaf!

Oracle Fusion

Bydd Oracle Fusion yn disodli'r feddalwedd Oracle bresennol o fis Ebrill 2023. Mae’r Tîm Gweithredu Oracle ochr yn ochr â'r tîm DS a Dysgu wedi curadu rhaglen ddysgu ar-lein i'ch cefnogi gyda'r system newydd.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi aelodau tîm, rheolwyr a defnyddwyr iProcurement i ffeindio’u ffordd o amgylch y platfform newydd Oracle Fusion. Mae tîm o weithwyr Oracle proffesiynol hynod brofiadol ac ardystiedig wedi creu'r cynnwys, ac mae gennym gasgliad o fideos byr a chanllawiau cyfeirio cyflym sy'n dangos y system a'i swyddogaethau.

Bydd y Rhaglen Ddysgu yn cael ei chynnal ar iDev a bydd yn cael ei lansio ddydd Mawrth 28 Chwefror.

Dyma gip cyflym ar y deunydd hyfforddi a chip cyntaf ar y feddalwedd newydd. 

Mae gennym ddeunydd dysgu ar:

  • Hunan-wasanaeth Adnoddau Dynol - ar gyfer aelodau a rheolwyr tîm
  • iExpenses – i unrhyw aelod o staff sydd ei angen nawr neu yn y dyfodol
  • iProcurement - i unrhyw ddefnyddwyr sydd â mynediad i iProc ar hyn o bryd

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth; byddwch wedi cael eich cofrestru ar gyfer y modiwlau dysgu sy'n berthnasol i chi a bydd e-bost yn cael ei anfon pan fyddant ar gael.

Does dim angen i chi gwblhau'r dysgu nes ei fod ei angen arnoch! Os ydych chi'n gweld mai dim ond yn achlysurol rydych chi’n mynd i gostau, gwnewch nodyn i gwblhau'r hyfforddiant treuliau y tro nesaf y mae angen i chi brosesu un! Bydd hyn yn sicrhau bod yr hyfforddiant yn dal yn ffres yn eich meddwl pan fyddwch chi'n cael mynediad i'r system.

Pencampwyr Oracle

Bydd grŵp o bencampwyr ar gael i'ch cefnogi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych am y system o amgylch y dyddiad lansio! Bydd mwy o wybodaeth am bencampwyr eich maes chi yn cael ei rhannu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyfforddiant yn benodol, cysylltwch â'r Tîm DS a Dysgu  neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am Oracle yn gyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Gweithredu Oracle a fydd yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau.