Staffnet+ >
Oracle Fusion yn dod ym mis Ebrill
Oracle Fusion yn dod ym mis Ebrill
Bydd y ffordd mae staff yn cael gafael ar wybodaeth am eu manylion personol, eu cyflog a llawer mwy yn newid cyn bo hir.

Y llynedd, cyhoeddon ni ein bod yn disodli'r system Oracle bresennol gan system newydd Oracle Fusion, sy’n seiliedig ar y cwmwl. Wedi'i drefnu'n wreiddiol ar gyfer Tachwedd 2022, fe wnaethon ni oedi'r dyddiad mynd yn fyw er mwyn sicrhau y byddai pob modiwl yn weithredol ac yn rhedeg yn esmwyth.
Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y system newydd yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2023.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe welwch nifer o eitemau newyddion Staffnet+ yn tynnu sylw at rai o agweddau pwysig Oracle Fusion a hyfforddiant ar sut i ddefnyddio'r system.
Bydd y system reoli gwybodaeth hon ar waith drwy’r Cyngor cyfan Cyngor, a bydd yn cefnogi’r ffordd rydym yn cyflawni ein prosesau ariannol ac AD, gan eu gwneud yn fwy hyblyg fel y gallwn ddarparu profiad hyd yn oed yn well i drigolion, staff a chyflenwyr.
Gallwch ddefnyddio Oracle Fusion i weld eich porth hunanwasanaeth Oracle, gweld gwybodaeth bersonol, adrodd am dreuliau a llawer mwy. Bydd hefyd yn cynnwys mynediad at eich slip talu.
Gan fod y system newydd yn seiliedig ar y cwmwl, bydd staff yn gallu mewngofnodi gan ddefnyddio dyfeisiau gwaith a phersonol, gyda dull mewngofnodi untro fel na fydd angen i chi osod a chofio sawl cyfrinair.
Bydd gwybodaeth yn cael ei hychwanegu at yr hyb wrth i ni nesáu at lansio Oracle Fusion
Os hoffech chi wybod mwy am sut y gallai Oracle Fusion eich helpu chi,
cysylltwch â ni:
E-bost: fusion@valeofglamorgan.gov.uk