Staffnet+ >
Gwobrau Gwasanaeth Hir: Mewn Sgwrs â Nicola Spear
Gwobrau Gwasanaeth Hir: Mewn Sgwrs â Nicola Spear

Efallai eich bod wedi gweld yn ddiweddar ein bod yn cynnal cyfres o ddarnau proffil byr gan y rhai sy'n derbyn gwobrau gwasanaeth hir y Cyngor. Rhoddir y gydnabyddiaeth hon i gyflogeion sydd wedi treulio naill ai 25 neu 40 mlynedd yn gweithio i lywodraeth leol.
Ar gyfer ein darn proffil cyntaf, siaradon ni â Sharon Lewis sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Mae ein hail broffil gyda Nicola Spear.
Mae Nicola wedi bod yn lanhawraig yn Swyddfa’r Dociau ers 25 mlynedd. Yn y gwobrau gwasanaeth hir bu Nicola yn siarad am ei gwaith dros y blynyddoedd a sut mae hyblygrwydd y rôl o fudd i'w ffordd o fyw.
"Pan ddechreues i, ro'n i'n gweithio shifftiau 2.5 awr ond mae hyn wedi cynyddu dros y blynyddoedd. Mae'r swydd yn gweithio'n berffaith i mi, gan gydbwyso hyn â helpu'r wyrion. Does dim rhaid i fi boeni am sut dwi'n gallu helpu.
"Mae'r hyblygrwydd yn wych. Mae gennych weddill y diwrnod i wneud beth rydych chi eisiau, ac mae'r esgus gen i i osgoi gorfod coginio'n te!"
"Mae'n lle da i weithio, rydyn ni'n lwcus. Roedd 11 ohonon ni pan ddechreuon ni gyntaf, ac roedden nhw'n arfer dod i wirio i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud ein gwaith. Dim ond tri ohonon ni sydd yna nawr ac mae pobl yn ymddiried ynoch chi i fwrw ymlaen a gwneud eich gwaith. Dyw hi ddim fel 'na mewn lot o lefydd eraill. Mae'n neis.
"Rydyn ni wastad wedi dod ymlaen ‘da’n gilydd yno hefyd, rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn gyda'r staff dros y blynyddoedd. Mae'n rhedeg yn llyfn o'i gymharu â llawer o lefydd eraill."
Yn ystod y sgwrs, bu Nicola yn myfyrio ar yr hyn sydd wedi newid neu, yn yr achos hwn, nad yw wedi newid dros y blynyddoedd o weithio i'r Fro.
"Dyw'r gwaith ddim yn wahanol iawn i sut oedd e dros 20 mlynedd yn ôl a dyw'r adeilad ddim chwaith. Dwi'n meddwl iddo gael ei addurno ddiwethaf flynyddoedd maith yn ôl pan ymwelodd y Tywysog Charles.
"Pan ddechreuais i weithio yma, roeddwn i'n meddwl y byddwn i yma am ychydig o amser. Dydych chi ddim yn meddwl y byddwch chi'n dal yno gynifer o flynyddoedd yn ddiweddarach. Dwi wedi cwrdd â phobl wirioneddol wych ar hyd y ffordd. Mae wedi bod yn arbennig."