Staffnet+ >
Mis Hanes LHDTC+ 2023 - Chwefror 2023
Mis Hanes LHDTC+ 2023 - Chwefror 2023
Fe'i sefydlwyd yn 2004 gan Schools Out UK gan ddathlu gyntaf y flwyddyn ganlynol yn 2005. Dechreuodd i nodi diddymiad Cymal 28 yn 2003, y gyfraith a basiwyd yn 1988 i atal cynghorau ac ysgolion rhag "hyrwyddo addysgu derbyn cyfunrywioldeb fel perthynas deuluol honedig".
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn ddathliad blynyddol mis o hyd, ac yn gyfle i gofio hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol, a chwiar. Y prif nod yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r materion a wynebir gan bobl LHDTC+.
Nod Mis Hanes LHDTC+ yw rhoi pobl LHDTC+ yn ôl yn y llyfrau hanes drwy ddangos sut maent wastad wedi bod yn rhan o gymdeithas ac yn gyfranwyr hanfodol at gynnydd dynol, p'un a yw eu statws wedi'i gydnabod yn hanesyddol ai peidio.
Mae hefyd yn gyfnod i ddathlu a dysgu am bobl LHDTC+ a'r effaith maen nhw wedi'i chael, ar bobl LHDTC+ eraill a'r byd yn gyffredinol.
Thema Mis Hanes LHDTC+ 2023 eleni yw Tu Ôl i’r Lens. Mae’n dathlu cyfraniad pobl LHDT+ i’r byd sinema, teledu, a ffilm, o du ôl i'r lens. Mae'r thema hefyd yn cysylltu â'r ffordd y mae bywydau pobl LHDTC+ yn cael eu portreadu yn y cyfryngau yn erbyn profiad bywyd go iawn pobl LHDTC+ yn y gorffennol a'r presennol.
Rydym yn eich annog i edrych #tuolirlens a gwrando ar brofiad byw pobol LHDT+.

Beth gallwch chi ei wneud?
- Cofio'r rhai ar draws y byd sy'n byw heb hawliau
- Dysgu am ffigurau a digwyddiadau hanesyddol LHDTC+
- Annog cynwysoldeb a dealltwriaeth yn y gweithle
- Cofio pa mor bell rydyn ni wedi dod yn y frwydr dros gydraddoldeb
- Adeiladu byd gwell i weithwyr proffesiynol LHDTC+ ifanc
Am fwy o wybodaeth, ewch i Mis Hanes LHDT+ - (lgbtplushistorymonth.co.uk)
Mae'r Cyngor yn gweithio'n galed iawn i sicrhau ein bod yn cynnig lle diogel a dymunol i bobl LHDTC+ weithio ac i sicrhau bod Bro Morgannwg yn amgylchedd cadarnhaol a meithringar. Os hoffech gymryd rhan yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut i wneud pethau'n well, cysylltwch â GLAM, ein Rhwydwaith Staff LHDTC+.
Os ydych yn pryderu am wahaniaethu neu aflonyddu, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth am sut i adrodd am hyn, gweler polisi cwynion Cyngor Bro Morgannwg.