Sut gall prentisiaethau helpu gyda recriwtio

Roedd Adran Cynnal a Chadw Fflyd a Cherbydau’r Cyngor yn cyflogi dau Osodwr Cerbydau Modur ar Brentisiaeth yn Nepo’r Alpau yng Ngwenfô.

Ar ôl cael trafferth recriwtio gosodwyr cymwys llawn amser ar y radd oedd yn cael ei chynnig, trodd Tîm Gwasanaethau Trafnidiaeth y Cyngor at gydweithwyr mewn Adnoddau Dynol am gymorth. O ganlyniad, penderfynon nhw gynnig cyfleoedd prentisiaeth gyda'r posibilrwydd o gael cyfle am swydd llawn amser ar y diwedd. 

Dywedodd Gareth George, Rheolwr Fflyd y Cyngor, "Mae'n gweithio'n dda iawn i ni fel ffordd o recriwtio pobl i'r gwasanaeth ac maen nhw wedi ennill y sgiliau a'r profiad maen nhw eu hangen i ddod o hyd i waith llawn amser."

Mae'r ddau brentis wedi mynd ymlaen i gael swyddi llawn amser: llwyddodd un prentis i gael swydd gydag Aebi Schmidt ychydig cyn y Nadolig a llwyddodd y llall i gael rôl llawn amser yn y Cyngor.

Apprenticeship week mechanicMae Ollie Williams, prentis sydd bellach yn Osodwr Cerbydau Modur, wedi cwblhau ei Lefel 2 mewn Atgyweirio a Gwasanaethu Cerbydau Trwm yn ddiweddar a newydd lwyddo i gael swydd barhaol gyda’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf.   


Dywedodd Ollie, "Trwy fy mhrentisiaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg a Choleg Caerdydd a'r Fro, rwyf wedi dysgu am gyfleoedd – ac wedi cael cyfleoedd – i weithio gyda cherbydau a pheiriannau amrywiol gan gynnwys ceir, faniau, cerbydau nwyddau trwm, llwythwyr telesgopig, peiriannau torri gwair a thractorau ac enwi ond rhai.

"Yn ogystal â'r ochr ymarferol, roeddwn hefyd yn mynychu Coleg Caerdydd a'r Fro unwaith yr wythnos ar gyfer y theori a'r gwaith cwrs. Mae'r wybodaeth a'r profiad rwyf wedi'u hennill o weithio gydag ystod eang o gerbydau, peiriannau ac offer wedi fy helpu i gael swydd llawn amser yn gweithio i Gyngor Bro Morgannwg."