Cynhesu’r Gaeaf ar Ddydd Gwener yng Nghanolfan Addysg Oedolion Palmersto

Winter Warmer welsh

Fel rhan o'n cynllun Croeso Cynnes, mae cydweithwyr o'n tîm Yn Ôl ar y Trywydd Iawn wedi bod yn cynnal sesiynau Cynhesu’r Gaeaf bob prynhawn Gwener.

Ar ôl buddsoddi mewn amrywiaeth o gemau bwrdd a gweithgareddau yn ddiweddar, maen nhw'n eich croesawu i alw heibio i gael diod boeth am ddim ac i ymlacio cyn y penwythnos.

P’un a ydych yn gweithio gartref ac am gael newid neu’n cwrdd â ffrind yn ystod eich egwyl cinio, ewch i Ganolfan Addysg Oedolion Palmerston, y Barri, CF63 2NT.

Mae’r drysau ar agor bob dydd Gwener rhwng 1 a 4pm.

Gyda mynediad at y rhwydwaith Lupus, mae croeso i staff weithio o'r ganolfan hefyd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Deborah Lewis: djlewis@valeofglamorgan.gov.uk

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein holl fannau cynnes a'n gweithgareddau sydd ar ddod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.