Staffnet+ >
Rownd Wythnosol Rob 22 Rhagfyr 2023
Rownd Wythnosol Rob
22 Rhagfyr 2023
Annwyl Gydweithwyr,
Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ar ôl tan y Nadolig ac mae'r cyffro'n cynyddu. Galwais heibio i gaffi'r Pafiliwn y penwythnos diwethaf a gweld y dyn mawr ei hun. Rhoddodd sicrwydd i mi ei fod yn dod â phob caredigrwydd a lwc i ni nos Sul.
Mae hon yn adeg bwysig o'r flwyddyn am lawer o resymau.
Mae cyfnod yr ŵyl yn amser i roi i'r rheini a allai fod yn ei chael hi'n anodd yn yr hinsawdd sydd ohoni. Rydym wedi gweld enghreifftiau anhunanol o haelioni gan gydweithwyr a phartneriaid ledled y sefydliad dros yr wythnosau diwethaf.
Eleni, mae’r Digwyddiad Codi Arian Raffl y Nadolig blynyddol yn yr Alpau wedi codi cyfanswm o £490 i helpu'r rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen yn yr adrannau Gwasanaethau Cymdogaeth a Rheoli Trafnidiaeth.
Cysylltodd Emma Reed â ni i ddweud:
“Bydd y gweithredoedd caredigrwydd anhygoel yn cael eu gwerthfawrogi gymaint gan staff a allai fod yn ei chael hi'n anodd talu am yr hanfodion mewn bywyd.” Ac rwy'n cytuno'n llwyr.
Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan a gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau eich basgedi Nadolig.
Yn dilyn neges yr wythnos diwethaf, hoffwn longyfarch tîm Achos Siôn Corn unwaith eto sydd wedi gweithio'n galed iawn yn trefnu ac yn dosbarthu miloedd o anrhegion i blant ledled y Fro. Bydd eich ymroddiad yn dod â gwên i wynebau’r rheini sydd heb fawr ddim ar ddiwrnod Nadolig fel arall. Dylai pawb a gyfrannodd fod yn falch o'ch ymdrechion aruthrol a chlodwiw. Ardderchog
Rwy'n gobeithio eich bod chi i gyd wedi gweld y neges gan yr Arweinydd a minnau yn gynharach yn yr wythnos. Nid wyf am sôn am y pwnc hwnnw eto heblaw am ddweud er gwaethaf yr heriau ariannol, rwy'n sicr y byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau a byddwn yn parhau i helpu cymunedau lle bo angen.
Hoffwn ailadrodd i'r holl staff y byddwn yn gwneud ein gorau glas i oresgyn y sefyllfa anodd hon a hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb am eu hymdrechion parhaus drwy gydol y 12 mis diwethaf.
Bydd y flwyddyn nesaf yn un heriol i bob un ohonom, ond rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ac yn cydnabod cryfder ein staff. Mae ein Cynllun Cyflawni Blynyddol yn rhoi manylion o’r gwaith a wneir dros y flwyddyn nesaf i gyflawni amcanion allweddol ein Cynllun Corfforaethol a gall yr holl staff roi eu hadborth a'u barn arno dros yr wythnosau nesaf, hyd yn oed rhwng mins-peis os hoffech chi! Fel gyda'n holl waith, dim ond trwy ragor o gyfraniadau y gellir ei wella, felly cymerwch yr amser i’w ystyried, os nad yr wythnos nesaf, efallai yn y flwyddyn newydd.

Mae gen i rai diolchiadau olaf ar gyfer 2023. Yn gyntaf, i gydweithwyr yn ein tîm Tai a gefnogodd ymweliad â'r gwasanaeth galw heibio ddydd Llun ar gyfer teuluoedd Afghanistan gan yr Arweinydd a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt. Mae'r gwasanaeth galw heibio anffurfiol a gynhelir yn wythnosol yn The Gathering Place, Sain Tathan yn rhoi mynediad i deuluoedd at gymorth a chyngor ac, yr un mor bwysig, lle i ddod i adnabod eu cymdogion newydd.
Mae hwn yn brosiect partneriaeth gydag aelodau Cymuned Sain Tathan, tîm Cymorth Tai Taf, ein tîm Cymunedau am Waith ein hunain, Cyngor ar Bopeth a phartneriaid Gwasanaeth i Mewn i Waith eraill i gyd yn chwarae rhan. Diolch i bawb a gymerodd ran.
Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm o Ganolfan Monitro Arfordirol Cymru a lwyddodd i gyrraedd Rownd Derfynol Hackathon Môr 2023 yn Brest, Ffrainc. Cynhaliwyd y Rownd Derfynol ddydd Mawrth pan gystadlodd ein tîm yn erbyn 13 o gystadleuwyr rhyngwladol eraill. Er na lwyddodd y tîm i orffen ar y podiwm, mae'r safle'n eu rhoi ymhlith y prif arloeswyr yn eu maes. Llongyfarchiadau i chi gyd.

A heb anghofio ein holl gydweithwyr sy'n gweithio yn ein holl ysgolion ac sydd wedi wynebu tymor hynod brysur ond sydd wedi parhau i weithio gydag ymroddiad a brwdfrydedd – diolch i chi i gyd, a mwynhewch y seibiant haeddiannol.
Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Colette Rees am ei holl waith caled, cefnogaeth ac ymroddiad ac i ddymuno ymddeoliad hapus iawn iddi. Mae Colette, Rheolwr Cartref Preswyl Southway, sy’n gofalu am bobl hŷn sy'n byw â dementia yn y Bont-faen, yn ymddeol ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth i lywodraeth leol. Dan ei harweinyddiaeth, barnwyd gan yr Arolygiaeth Safonau Gofal, fod Southway yn fan lle'r oedd pobl yn fodlon, yn hapus ac yn teimlo'n ddiogel. Bydd hyn wedi dod â manteision anfesuradwy iddyn nhw a'u teuluoedd. Bydd cydweithwyr Colette, a'r rheini dan ei gofal, yn gweld ei heisiau’n fawr ac rydym yn dymuno’n dda iddi ar gyfer y dyfodol.
Cyn i mi ffarwelio ar gyfer 2023, hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb am eu gwaith caled. Mae eich proffesiynoldeb a'ch ymagwedd uchelgeisiol wedi ein galluogi i fodloni gofynion y cyhoedd, darparu gwasanaethau gwerthfawr, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Fel arfer, diolch yn fawr iawn a dymunaf Nadolig llawen a heddychlon i chi.
Nadolig Llawen a Diolch, bawb!
Rob