Yr Wythnos Gyda Rob

01 Rhagfyr 2023

Annwyl gydweithwyr, 

Advent CalendarGobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Rydyn ni’n cyfrif y diwrnodau tan y Nadolig.

Mae dechrau'r Adfent, fel bob amser, yn dod â diwrnod cyntaf calendr Adfent ein staff.   Rhwng nawr a Noswyl Nadolig byddwn yn arddangos peth o'n gwaith gorau yn 2023 yn ogystal â rhai o'r cynlluniau sydd ar agor i staff a'n trigolion a all ein helpu ni i gyd i fwynhau'r Nadolig hwn. 

Y tu ôl i'r drws cyntaf mae ein hymgyrch Achos Siôn Corn.  Mae'r ymateb gan staff hyd yn hyn wedi bod yn wych ac mae'r pentyrrau o anrhegion yn y man casglu yn y Swyddfeydd Dinesig yn cynyddu'n gyson, yn ogystal â'r cyfraniadau ariannol ar-lein.     Ein tîm Rheoli Busnes ac Arloesi Gwasanaethau Cymdeithasol oedd un o'r rhai cyntaf i ddechrau codi arian eleni.  Cysylltodd Zoe Gibbs o'r tîm yn gynharach yn y mis gyda rhywfaint o wybodaeth am eu hymdrechion i godi arian. 

Santa's Cause 900 x 1600

Rwy'n gwybod ein bod hefyd wedi cael bagiau o anrhegion gan staff yn ein cartrefi preswyl a bod cydweithwyr ar draws y sefydliad yn codi arian mewn gwahanol ffyrdd.  Byddwn i wrth fy modd yn clywed gan unrhyw un arall sy’n gwneud unrhyw beth arloesol i godi arian.   Mae hwn yn waith sy'n tanlinellu ymrwymiad ein timau i gefnogi trigolion sy'n agored i niwed.  Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr ymgyrch eleni. Os ydych chi'n gwybod am rywun sydd wedi gwneud rhywbeth gwych i godi arian, neu os ydych chi eisiau lledaenu rhywfaint o hwyl y Nadolig, mae ein tudalen neges y Nadolig hefyd yn fyw nawr.   

Mewn modd tebyg, rydym hefyd wedi ail-lansio ein cronfa grant Costau Byw yr wythnos hon.  Mae'r gronfa wedi'i chynllunio i roi cymorth ariannol i grwpiau a sefydliadau y mae eu gwaith yn cefnogi pobl leol drwy’r argyfwng costau byw.   Mae'r cynllun yn enghraifft wych o’n gallu i gefnogi'n uniongyrchol y rheini yn ein cymunedau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth.  Y gaeaf diwethaf roeddem yn gallu cefnogi gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles, rheoli arian, dod o hyd i gyflogaeth, a mynd i'r afael â thlodi bwyd.    Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £2,500.  Os ydych chi'n gweithio gydag unrhyw grŵp a allai elwa, rhowch wybod iddynt am yr wybodaeth ar ein gwefan. 

Llantiwt lantern festival

Mae cyfnod y Nadolig bob amser yn un prysur iawn i'n Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau.   Mae angen i ni geisio argyhoeddi trigolion y Fro, yn fwy nag erioed, i siopa'n lleol ac mae ein tîm wedi helpu i gynnal rhaglen ddigwyddiadau Nadoligaidd a fydd yn gwneud hynny.   Ym mis Tachwedd, cefnogodd y tîm y digwyddiad blynyddol o gynnau’r goleuadau ym Mhenarth a gorymdaith Nadolig y Bont-faen.  Ar hyn o bryd maent yn gweithio’n galed i sicrhau bod  Gŵyl Nadolig y Barri yn llwyddiant a dydd Sadwrn byddan nhw hefyd yn cefnogi Gorymdaith Llusernau Llanilltud Fawr.

Shop local campaign

Mae ymgyrch Dangoswch Gariad. Siopa’n Lleol wedi gweld hysbysfyrddau wedi’u brandio yn y digwyddiadau cynnau’r goleuadau, fan hysbysebu sy'n teithio o gwmpas y Fro, hysbysebu yng ngorsaf drenau y Barri a Phenarth, hysbysebu mewn safleoedd bysus, hysbysebu ar hysbysfyrddau, hysbysebion yn y Barry and District News a’r Penarth Times a hyrwyddo trwy sianeli digidol y papurau newydd hynny.   

Soniwyd am yr ymgyrch ar Bro Radio hefyd, ochr yn ochr â negeseuon ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Vale Town Centres, ac mae llwyth o fagiau siopa sy'n cynnwys enw'r ymgyrch wedi'u cyflenwi i fasnachwyr eu rhoi i gwsmeriaid am ddim. 

Rwyf bob amser yn rhyfeddu ar yr hyn y mae'r tîm yn gallu ei gyflawni. Mae eu llwyddiant cyson wrth wneud defnydd da o gyllid grant i gefnogi digwyddiadau a busnesau lleol yn enghraifft wych o sut y gallwn barhau i wneud gwahaniaeth yn ystod cyfnod ariannol heriol.   Diolch yn fawr – gwaith gwych. 

Christmas Swap Shop

Gan gadw at thema'r ŵyl, bydd y cyngor yn cefnogi Wythnos Hinsawdd Cymru yr wythnos nesaf gyda digwyddiad Cyfnewid dillad y Nadolig.  Mae'r digwyddiad, yn y Swyddfeydd Dinesig, yn rhoi'r cyfle i chi leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu trwy roi unrhyw anrhegion diangen, siwmperi Nadolig, gwisgoedd parti, neu deganau, a phrynu rhai pethau i chi'ch hun yn gyfnewid.   Yn ogystal ag arbed eich arian a'r blaned gallwch ddysgu ychydig mwy am waith yn y Fro i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a rhannu eich meddyliau fel rhan o'r 'sgwrs hinsawdd' a fydd yn cael ei chynnal drwy'r dydd. Mae modiwlau ac adnoddau newydd sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd yn lansio ar iDev yr wythnos nesaf hefyd, a gallwch Gofrestru i dderbyn e-byst Caffi Dysgu Prosiect Sero i dderbyn diweddariadau gyda dolenni at ddysgu, gwybodaeth a digwyddiadau.  Drwy gydol yr wythnos byddwn yn rhannu newyddion da o'n gwaith Prosiect Sero ar gyfryngau cymdeithasol hefyd, felly cadwch lygad am hynny.  

Llanfair Armed Forces Award presentation

Os ydych chi'n dilyn ein sianeli ar-lein, efallai eich bod eisoes wedi gweld disgyblion a staff Ysgol Gynradd Llanfair yn dathlu derbyn y wobr Ysgolion sy'n Gefnogol o'r Lluoedd Arfog Cymru gan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg yng Nghymru yn gynharach yr wythnos hon.   Cyflwynir y wobr, sydd wedi'i hariannu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, i ysgolion sy'n cefnogi plant y Lluoedd Arfog ac sy'n creu amgylchedd cadarnhaol iddynt rannu eu profiadau.  

Llanfair yw'r drydedd ysgol yn y Fro i dderbyn y wobr Efydd, gyda Sain Tathan a Llanilltud Fawr yn derbyn y wobr yn gynharach eleni.    Derbyniodd Alyson Jones, sy'n cynnal clwb y Weinyddiaeth Amddiffyn Llanfair, y wobr gydag ambell aelod o glwb y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ran yr ysgol.

Bydd y rheini ohonoch sy’n dod o deuluoedd y Lluoedd Arfog, neu sy'n gweithio gyda'n teuluoedd Lluoedd Arfog yma yn y Fro, yn deall pa mor anodd y gall fod i rieni a'u plant fod ar wahân, felly mae gweld yr ysgolion sy’n cefnogi plant o gymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu cydnabod am y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud i gefnogi plant y lluoedd a'u teuluoedd yn wych i'w weld.    Roedd Uwch-gapten Wedlake yr RAF hefyd yn bresennol yn y seremoni, yn esbonio'r heriau sy'n wynebu plant y lluoedd, a diolchodd i'r ysgol am y gwaith y maent yn ei wneud i gefnogi plant y lluoedd pan fydd eu rhieni ar ddyletswydd. Hoffwn ychwanegu fy niolch fy hun at hyn hefyd am y gwaith rhagorol hwn.  Diolch yn fawr.  

MS Heledd Fychan visit to Cogan Primary

Mae'r tîm yn Ysgol Gynradd Cogan hefyd wedi bod yn derbyn clod ar-lein yr wythnos hon.   Ymwelodd Heledd Fychan AS â'r ysgol am sesiwn holi ac ateb gyda chyngor yr ysgol ac i glywed sut mae staff wedi gweithio gyda'r tîm Big Fresh i gefnogi'r broses o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.   Roedd yn wych clywed pa mor dda oedd ein gwaith gan yr aelod rhanbarthol o'r Senedd ac rwy'n siŵr ei bod yn falch iawn o glywed am y gwahaniaeth y mae'r broses o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd y Fro yn ei gael ar ddysgwyr. 

Os nad oedd hynny'n ddigon fe gafodd dwy ysgol arall yn y Fro gydnabyddiaeth genedlaethol hefyd am eu harfer gorau yr wythnos hon.   Mae Ysgol Gynradd Tregatwg wedi cael ei dewis fel astudiaeth achos Ysgol Bro gan Lywodraeth Cymru.  Tynnodd Chwaraeon Cymru sylw at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud yn Ysgol Uwchradd Pencoedtre i gyflwyno rhaglen o weithgareddau ym mlwyddyn ysgol 2022 a oedd yn cynnwys dawns, Ta’i Chi, hunanamddiffyn, pêl fas, ioga, sglefrfyrddio, rhedeg a golff.     Gweithiodd Angela Stevens yn ein Tîm Byw'n Iach yn agos gyda chydweithwyr yn yr ysgol, ac rwy’n gwybod ei bod yn allweddol i’w llwyddiant.   Diolch i bawb am gefnogi’r gwaith hwn sy’n arwain y sector.       

Mae bob amser yn wych gweld ein staff yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu, yn enwedig am fynd y filltir ychwanegol honno i gefnogi'r rheini sy'n defnyddio ein gwasanaethau.   Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad yr wythnos hon i Simon, Nima a Chris yn y tîm Rhwydweithiau a Chyfathrebu yn yr adran TG am wneud hyn i gefnogi disgyblion Ysgol Y Deri.   

Cysylltodd David Davies, Rheolwr TG yr ysgol, â ni i ddiolch am waith y tîm gan "wneud bywydau staff a myfyrwyr yn llawer haws".  Pryd bynnag y byddaf yn gweld e-byst fel hyn, rwy’n cael dy atgoffa bod ein tîm TG yn gweithio'n gyson y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod y systemau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt yn gweithio pan fydd eu hangen arnom.  Yn ogystal ag adleisio canmoliaeth David o Simon, Nima a Chris, hoffwn ddiolch i'r tîm Gwasanaethau TGCh cyfan am gynnal ein seilwaith digidol mor ddiffwdan o ddydd i ddydd.   Diolch, bawb.

Bydd y seilwaith digidol hwnnw a'r cymwysiadau y mae'n eu cefnogi yn elfennau hanfodol wrth newid sut rydym yn gweithio yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.   Cefais adborth calonogol iawn yr wythnos hon am brosiect digidol a lansiwyd gennym yn ddiweddar a'r effaith y mae'n ei chael.    Mae ein tîm Refeniw a Budd-daliadau chwe wythnos i mewn i dreialu’r platfform newydd sy'n caniatáu i drigolion wneud taliadau dros y ffôn heb siarad yn uniongyrchol ag un o'r tîm. Hyd yn hyn mae 60% o alwadau i'r tîm wedi cael eu rheoli gan y system newydd.   Mae hyn yn ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i drigolion wneud taliadau ac yn rhyddhau amser i'r tîm gynnig gwell cefnogaeth i'r rheini sydd wirioneddol ei angen.  Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd, rwy’n gwybod bod cydweithwyr yn Adnoddau Corfforaethol eisoes yn edrych ar ble arall y gallem ddefnyddio'r ymagwedd a pha gyfle sydd yno i awtomeiddio prosesau eraill.  Diolch i bawb yn y tîm am y gwaith ar hyn hyd yn hyn ac am y parodrwydd maent wedi dangos i newid sut maent yn gweithio er mwyn cynnig gwasanaeth gwell.  Yn benodol, hoffwn sôn am Andrew Saunders a Sue Jones sydd wedi chwarae rhan fawr wrth ddatblygu'r prosiect hwn. Mae'n un a fydd o fudd sylweddol i drigolion, gan ganiatáu i'r tîm dreulio mwy o amser gyda'r rheini sydd ag ymholiadau mwy cymhleth.  Diolch yn fawr iawn.

Cyn i mi ffarwelio yr wythnos hon, hoffwn eich annog chi i gyd i dreulio pum munud yn cwblhau Holiadur Adborth Staff Stonewall a rhannwch eich barn ynghylch a yw'r cyngor yn gwneud popeth yn ei allu i fod yn gyflogwr cynhwysol.   Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddi-enw.  Bydd yr adborth a dderbynnir yn helpu i lunio sawl agwedd ar ein gwaith i gefnogi staff ac mae gwir angen hynny. 

Diolch fel bob amser i bawb am eu gwaith caled yr wythnos hon.

Diolch yn fawr iawn. 

Rob.