SN Banner - CEX and Leader header

Datganiad ar y cyd am y gyllideb

Annwyl gydweithwyr,

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe am gyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25, rydym bellach wedi derbyn cadarnhad o'n setliad ariannol dros dro ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rhagwelir y bydd y Cyngor yn derbyn £208.901m mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2024/25. Mae hyn yn gynnydd o 3.1%. Fodd bynnag, mae un sy'n dal islaw'r gyfradd chwyddiant bresennol, felly mewn gwirionedd mae’n doriad mewn termau real.

Yn ogystal â derbyn cyllid yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor hefyd yn codi arian drwy'r Dreth Gyngor ac yn derbyn cyllid ychwanegol drwy gyfran o'r ardrethi busnes a gesglir ledled Cymru. Er bod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf heb gael ei phenderfynu gan y Cynghorwyr eto, ein rhagolwg presennol yw y bydd bwlch o £9.4m yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda'r setliad a gyhoeddwyd heddiw.

Byddai'n anodd delio â thoriad mewn unrhyw amgylchiadau, ond pan fo'r galw am rai o'n gwasanaethau mwyaf hanfodol yn cynyddu'n gyflym iawn, mae'n ein rhoi mewn sefyllfa ariannol heriol iawn, iawn.

Er nad hyn, yn amlwg, oedd yr hyn yr oeddem ei eisiau, mae'r cyhoeddiad hwn heddiw yn un yr ydym wedi bod yn paratoi ar ei gyfer drwy gydol y flwyddyn. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn ystod y misoedd diwethaf a nawr bod y setliad dros dro ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i gyhoeddi byddwn yn gallu cyhoeddi ein cynigion ein hunain i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2024/25 ar gyfer y Fro ym mis Ionawr.

Mae'r holl Gyfarwyddiaethau wedi bod yn gweithio ar gynigion arbedion yn ystod yr hydref a dechrau'r gaeaf. Os hoffech wybod mwy am y gwaith hyd yma ar gyllideb y flwyddyn nesaf, gallwch wylio'r sesiwn Caffi Dysgu gyda Rob, Tom Bowring a Matt Bowmer o'r wythnos diwethaf.

Ein blaenoriaeth lwyr bob amser fydd cynnal y gwasanaethau y mae ein preswylwyr mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt. Rhaid i ni sicrhau bod plant a phobl ifanc, y rhai ag anghenion ychwanegol, a phobl hŷn yn parhau i dderbyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ond nid yw hyn yn golygu nad oes angen newid ar draws y Cyngor.

Rydym eisiau bod yn glir iawn gyda chydweithwyr heddiw, er gwaethaf yr heriau ariannol sy'n ein hwynebu, nad yw Cyngor Bro Morgannwg wedi colli ei uchelgais. Mae gennym hanes cryf o ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu ein gwasanaethau ac mae'n rhaid i ni nawr ddod o hyd i ffyrdd newydd o barhau i helpu ein cymunedau.

Ddoe, cyfarfu’r Uwch Dîm Arwain i drafod cam nesaf ein rhaglen Ail-lunio. Gyda'n gilydd, gwnaethom ystyried pum thema a fydd yn llywio cam nesaf ein trawsnewidiad ac yn siapio'r sefydliad y byddwn erbyn 2030.

 

  • Model gweithredu targed newydd - sut y gall ein pobl a'n prosesau weithio'n wahanol ac mewn ffyrdd newydd a thorri ein gwastraff lle bynnag y bo modd

  • Trawsnewid gwasanaethau - sut y gallwn newid gwasanaethau penodol yn gyflym i'w gwneud yn hyfyw ar gyfer y blynyddoedd i ddod

  • Cryfhau Cymunedau - sut y gallwn weithio ochr yn ochr â phobl yn y gymuned i ddarparu ein gwasanaethau yn fwy effeithiol

  • Digidol - sut y gallwn wneud defnydd gwell o dechnoleg i ddarparu ein gwasanaethau yn fwy effeithlon ac am gost is

  • Gwydnwch Economaidd - sut ydyn ni'n sbarduno twf yn y Fro ar yr un pryd drwy greu mwy o swyddi a rhai gwell

 

Bydd manylion y dull newydd hwn yn cael eu hystyried gan y Cabinet yn ystod y broses o bennu'r gyllideb yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Yn y cyfamser, mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i arbed arian a rhoi'r Cyngor a ninnau yn y sefyllfa gryfaf bosibl i fynd i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf. Ni ddylai fod gwariant nad yw'n hanfodol ar draws y sefydliad o hyd. Bydd yr Uwch Dîm Arwain yn parhau i wneud penderfyniadau i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf cost-effeithiol o weithio lle bynnag y bo modd.

Bydd cydweithwyr yn gweld rhai newidiadau gweladwy yn gynnar yn y flwyddyn newydd wrth i'n rhaglen waith i resymoli ein swyddfeydd – Eich Lle - fynd yn ei flaen. Bydd Canolfan Gyswllt Un Fro, sydd ar hyn o bryd yn y Ganolfan Gyswllt ger Canolfan Hamdden y Barri, yn symud i ail lawr y Swyddfeydd Dinesig cyn bo hir. Mae nifer o dimau sydd eisoes yn y Swyddfeydd Dinesig wedi, a byddant yn parhau i fod yn, symud ystafelloedd er mwyn helpu i wneud lle i'w cydweithwyr.

Rydym hefyd nawr yn ystyried opsiynau ar gyfer adeilad Swyddfa’r Doc. Yn yr hirdymor, rydym eisiau i'r adeilad hwn fod yn ganolog i adfywiad parhaus Glannau’r Barri a'r dref ehangach.  Efallai y bydd y cyhoeddiad diweddar am y cyllid Ffyniant Bro ar gyfer y Barri yn dod â rhai cyfleoedd ar gyfer hyn. Yn y tymor byr, y bwriad yw y bydd cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lle yn symud i rai o'n hadeiladau presennol eraill i helpu i leihau costau rhedeg.

Bydd yr holl gynigion eraill ar gyfer arbedion sylweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael eu nodi yn y cynigion cyllideb ddrafft a fydd yn cael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Ionawr. Bydd cyfnod ymgynghori wedyn yn dilyn cyn ystyried cynigion terfynol a gosod y dreth gyngor mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ym mis Mawrth.

Gwyddom y bydd maint y bwlch yn y gyllideb yn peri pryder i lawer o staff a bod 20 Rhagfyr ymhell o fod yn ddiwrnod delfrydol i fod yn ysgrifennu at gydweithwyr amdano. Rydym hefyd yn credu mewn bod yn agored, yn onest ac eisiau rhannu'r sefyllfa ariannol ddifrifol iawn gyda chi a'r gwaith eang yr ydym wedi bod yn ei wneud i helpu i liniaru'r sefyllfa hon lle gallwn. Mae gwasanaeth cymorth lles newydd y Cyngor ar gael i gydweithwyr drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd yn y flwyddyn newydd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Hoffem sicrhau'r holl staff heddiw fod gennym weledigaeth ar gyfer y Cyngor hwn sy'n gweld awdurdod lleol cryfach a mwy effeithiol yn dod allan o'r cyfnod anodd hwn. Dywedwyd yn gynharach yr wythnos hon na fu erioed amser pwysicach i fod mewn gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyn yn sicr yn wir.

Diolch i chi gyd am eich ymdrechion parhaus ac ymlaen llaw am gyflawni'r hyn fydd ei angen yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

 

Diolch yn fawr iawn. 

Rob Thomas
Y Cynghorydd Lis Burnett