Mis Treftadaeth De Asia

south asian heritage month 2023

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, cynhelir Mis Treftadaeth De Asia o 18 Gorffennaf i 17 Awst, gan orffen ar ben-blwydd y Rhaniad. Mae'r ddau ddyddiad yn arwyddocaol: derbyniodd Deddf Annibyniaeth yr India gydsyniad brenhinol gan y Brenin Siôr VI ar 18 Gorffennaf 1947, a chyhoeddwyd Llinell Radcliffe a rannai India, Gorllewin Pacistan, a Dwyrain Pacistan, ar 17 Awst 1947. Heddiw, mae ochr orllewinol y llinell yn rhan o'r ffin India-Pacistan tra bod yr ochr ddwyreiniol yn gweithredu fel ffin Bangladesh-India.

Mae Mis Treftadaeth De Asia yn codi proffil treftadaeth a hanes De Asiaidd Prydeinig yn y Deyrnas Gyfunol drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant a choffáu, gyda'r nod o helpu pobl i ddeall amrywiaeth gwledydd Prydain heddiw yn well.

Mae'r mis hwn yn gyfle i ddathlu effaith a chyfraniadau diwylliannau De Asia a choffáu hanes De Asia yma.

Beth a olygwn wrth De Asia?

De Asia yw rhanbarth deheuol Asia, sy'n cynnwys Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, India, Ynysoedd y Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanka. Mae eu perthynas â Phrydain wedi effeithio ar y gwledydd hyn i gyd - rhyfel, gwladychiad, ymerodraeth.  Mae gan Brydain gymuned helaeth o ddinasyddion y mae eu treftadaeth yn deillio o'r gwledydd hyn - tua 5% o'r boblogaeth gyfan, gyda bron i 1 o bob 5 o bobl yn Llundain o dreftadaeth De Asia. 

Y thema ar gyfer 2023 yw 'Straeon i'w Hadrodd'

Nod thema eleni yw coffáu, gwerthfawrogi a dathlu diwylliannau, hanesion a chymunedau De Asia.  Mae straeon yn ein helpu i archwilio a deall y dreftadaeth a'r diwylliannau amrywiol sy'n parhau i gysylltu gwledydd Prydain â De Asia. Gellir dod o hyd i ddiwylliant a hunaniaeth De Asia ym mhob cwr o Brydain, o ddillad, bwyd, cerddoriaeth a geiriau. Mae'n rhan o fywyd ym Mhrydain ac yn ychwanegu at amrywiaeth y gwledydd hyn.

Mae'r thema hon yn cwmpasu llawer o wahanol agweddau ar hunaniaeth De Asia, yma ym Mhrydain ac ar draws y byd.

Mae yna amrywiaeth o ffyrdd y gall pobl rannu straeon am eu treftadaeth De Asia. Gallai hyn fod trwy fwyd, cerddoriaeth, celf, ysgrifennu creadigol, drama, neu ar gyfryngau cymdeithasol.

I ddathlu'r thema 'straeon i'w hadrodd' yn ystod Mis Treftadaeth De Asia, efallai yr hoffech ddarllen llyfr gan awdur o Dde Asia.  Mae Penguin wedi cynhyrchu rhestr o lyfrau y mae'n rhaid eu darllen, o gofiannau i nofelau. Gallwch weld y rhestr honno yma.

Galwad am straeon y Fro!

Os ydych chi'n uniaethu fel rhywun o Dde Asia a bod gennych #StoriIwHadrodd gyda'ch cydweithwyr, cysylltwch a byddem yn falch iawn o ddathlu Mis Treftadaeth De Asia trwy rannu eich stori. 

Diverse Staff Network

Ewch i’r gwefannau canlynol i gael rhagor o wybodaeth:

Efallai yr hoffech hefyd ymuno â Diverse, ein rhwydwaith staff ar gyfer cydweithwyr du, Asiaidd a’r mwyafrif byd-eang.

I ymuno, cwblhewch y ffurflen aelodaeth neu e-bostiwch diverse@valeofglamorgan.gov.uk