Yr Wytnos Gyda Rob
25 Awst 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio eich bod i gyd yn iawn ar ddiwedd wythnos brysur arall.
Mae’r arolwg Beth am Siarad am Fywyd yn y Fro y soniais amdano ddydd Gwener diwethaf bellach wedi'i lansio a byddwn yn annog pawb i edrych arno a rhannu eich safbwyntiau.
Mae hwn yn ymarfer ymgynghori pellgyrhaeddol sy'n gofyn i breswylwyr am fywyd yn y Fro a'r materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae’n cynnwys pob agwedd ar gyfrifoldeb y Cyngor ac yn rhoi cyfle i bobl yn y Sir rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a bydd yn ein helpu ni i ddeall yn well sut i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn lleol.
Y bwriad yw clywed gan gynifer o bobl â phosibl, gan gynnwys staff, felly pan fydd gennych bum munud, ystyriwch fynegi eich barn.
Byddant yn bwysig wrth osod polisi a darparu gwasanaethau yn y dyfodol.
Bydd llwyddiant yr ymarfer hwn yn dibynnu'n fawr ar nifer yr ymatebion a ddaw i law, felly cofiwch roi manylion yr arolwg i ffrindiau a theulu hefyd.
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill un o 10 taleb Love2Shop gwerth £50, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau a bwytai'r stryd fawr.
Roedd ddoe yn ddiwrnod canlyniadau TGAU a hoffwn longyfarch holl fyfyrwyr, staff ysgolion a rhieni’r Fro ar berfformiad gwych arall.

Bydd disgyblion nawr yn edrych tuag at gam nesaf eu taith addysg neu gyflogaeth a gallai hynny fod gyda'r Cyngor.
Mae amrywiaeth o brentisiaethau a hyfforddeiaethau ar gael yn y sefydliad, yn cynnig profiad ymarferol i bobl ifanc a dealltwriaeth gynhwysfawr o rolau penodol.
Maent yn ddewis amgen deniadol i lwybrau astudio ffurfiol i rai, tra bod cynlluniau o'r fath yn cyfrannu tuag at ein hamcan corfforaethol i gynyddu nifer ein gweithwyr ifanc.
Anogir rheolwyr i ystyried a oes lle i brentis ymuno â'u tîm ac i gysylltu â Datblygu a Dysgu Sefydliadol os ydyn nhw eisiau gwybod mwy.
Trwy fuddsoddi yn eu twf, gallwn siapio'r genhedlaeth nesaf o dalent, tra'n elwa ar safbwyntiau newydd a syniadau arloesol.
Gyda'r flwyddyn academaidd yn dod i ben, nawr yw'r amser perffaith i ystyried ai prentisiaeth yw’r ateb cywir.
Mae'r amrywiaeth o brentisiaethau a chymwysterau a ariennir yn llawn sydd ar gael yng Nghymru yn cynyddu ac yn cynnig cyfle i lunio a mowldio talent yn unol â gofynion unigol.
Ar hyn o bryd mae prentisiaid yn gweithio ar draws y sefydliad ym mhob cyfarwyddiaeth mewn amrywiaeth o rolau, ond mae angen mwy arnom.
Mae menter debyg, sef Cynllun QuickStart, sy'n cael ei redeg gan Dîm Cyflogaeth Cymunedau dros Ddysgu a Mwy, wedi cau yn ddiweddar.
Mae hynny'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl i bobl ifanc 18 i 24 oed yn y Cyngor.
Mae wedi cael ymateb aruthrol gan reolwyr adrannol, sy'n golygu bod y cynllun cychwynnol i gynnig 10 lleoliad wedi cynyddu i 14.
Unwaith eto, mae amrywiaeth o rolau ar gael a bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn fuan iawn.
Mae Emily Woodley yn y Tîm Adnoddau Dynol wedi chwarae rhan allweddol yn cydlynu'r broses, tra bod Lloyd Harries a'r Tîm Cymunedau dros Ddysgu wedi cwrdd â dros 70 o bobl ifanc yr wythnos hon yng nghanolfannau gwaith Y Barri a Phenarth.
Mae gweithdai cyflogadwyedd yn cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf i wella sgiliau pobl ifanc a'u helpu gyda thechnegau cyfweld. Da iawn bawb.
Wrth i rai myfyrwyr adael yr ysgol, daeth eraill a ddywedodd hwyl fawr amser maith yn ôl at ei gilydd am aduniad yn ddiweddar.
Cyfarfu staff Maes-Y-Coed, disgyblion a'u rhieni yn y Ganolfan Dechrau'n Deg 65 mlynedd ar ôl i'r ysgol agor ei drysau am y tro cyntaf.

Roedd Maes-Y-Coed, ar Gladstone Road, yn darparu addysg a chymorth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, un o'r ychydig ysgolion ar y pryd oedd yn darparu gwasanaethau o'r fath.
Ers hynny mae wedi cael ei thrawsnewid yn ganolfan Tîm Dechrau'n Deg, yn cynnig sesiynau gofal plant, chwarae a datblygiad a dosbarthiadau rhianta cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Roedd gan yr hen ysgol nifer o gyfleusterau unigryw, gan gynnwys pwll synhwyraidd, gyda llawer o ddisgyblion yn byw yn Hostel y Barri gerllaw, lle cawsant ofal llawn amser gan dîm ymroddedig o staff.
Caeodd Maes-Y-Coed ar ôl i ysgolion arbenigol mwy gael eu hadeiladu, fel Ysgol Y Deri, ond mae rhai o'r bobl gafodd eu haddysgu ac a weithiodd yno wedi cadw mewn cysylltiad dros y degawdau.
Roedd Kathryn Clarke, Rheolwr Canolfan Dechrau'n Deg a'r cyn Bennaeth Barbara Milhuisen, ymhlith y rhai a fynychodd i hel atgofion.
Am ddigwyddiad gwych i'w drefnu. Mae'n dangos yr effaith gadarnhaol barhaol y gall cyfleusterau'r Cyngor ei chael ar y bobl sy'n eu defnyddio.
Gan aros gyda thema addysg, mae cyfres o gyrsiau Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i staff ac Aelodau'r Cyngor.
Nid oes angen cymryd absenoldeb na defnyddio amser personol i fynychu am eu bod yn gallu bod yn rhan o'r diwrnod gwaith.
Mae gan gydlynydd Iaith Gwaith Sarian Thomas-Jones neu’r Swyddog Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg Elyn Hannah fwy o wybodaeth.
Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal ar amrywiaeth o ddiwrnodau ac ar wahanol adegau felly edrychwch ar yr amserlen i weld pa un fyddai fwyaf addas.
Yn anffodus, bu'n rhaid i mi ysgrifennu am y newyddion trasig am farwolaeth Phil Southard yn gynharach yr wythnos hon.
Rwy'n siŵr bod pawb oedd yn adnabod Phil wedi cael sioc ac yn hynod drist o glywed y newyddion. Fel y nodir yn fy neges gynharach, bydd Phil yn gadael etifeddiaeth barhaol ar draws llawer o gymunedau ym Mro Morgannwg, cymaint oedd ei effaith hynod gadarnhaol.
Ar ôl digwydd yn sydyn yr wythnos hon, rydym yn teimlo marwolaeth Phil i’r byw ar hyn o bryd a byddwn unwaith eto yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â gwasanaeth Cwnsela, Gofal yn Gyntaf
Gellir eu cyrraedd drwy ffonio 0800 174 319 ac mae cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol hefyd wrth law i helpu.
I will share details of Phil’s funeral as soon as I have them.
Cynhaliwyd angladd Graham Conibear ddydd Mawrth yr wythnos hon ac rwy'n siŵr ei fod wedi bod yn gysur i’r teulu i weld cymaint ohonoch ar hyd y palmant wrth iddo gael ei gludo heibio’r Swyddfeydd Dinesig.
Diolch i bawb a wnaeth ymdrech i dalu teyrnged i Graham. Mynychais ei angladd y diwrnod hwnnw a gwn fod hyn wedi cael ei werthfawrogi'n fawr.
Yn olaf, hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad i'r Tîm Tai a staff nifer o adrannau am eu cymorth yn rheoli mater anodd.
Am y 18 mis diwethaf, mae Gwesty'r Copthorne wedi cael ei ddefnyddio fel llety dros dro i bobl sy'n ffoi rhag erledigaeth a bygythiad yn eu gwledydd eu hunain.
Mae delio ag anghenion nifer fawr o bobl wedi bod yn heriol dros ben, ac mae’r materion sensitif ynghylch defnydd y gwesty wedi gwneud y gwaith hwnnw'n galetach.
Mae'r holl deuluoedd bellach wedi cael eu symud allan o'r Copthorne ac nid yw'n cael ei ddefnyddio at y diben hwn mwyach.
Roedd gwaith Kate Hollinshead, Ian Jones, Katherine Partridge a’u cydweithwyr i reoli'r sefyllfa, cefnogi ac ailgartrefu pobl yn gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad sylweddol.
Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb am eu hymdrechion. Cafodd ei drin gyda phroffesiynoldeb llwyr.
Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad yr wythnos hon. Nid yw byth yn cael ei gymryd yn ganiataol.
Mwynhewch ychydig ddyddiau tawel a hamddenol.
Diolch yn fawr iawn,
Rob.