Yr Wytnos Gyda Rob
Annwyl gydweithwyr,
Wrth i ni nesáu at ddiwedd wythnos brysur arall, mae'n wych gweld a chlywed am y gwaith a'r canlyniadau gwych sy'n cael eu cyflawni ar draws y sefydliad.
Hoffwn rannu rhywfaint o hynny yma a hefyd eich atgoffa i gyd bod ein tîm cyfathrebu wastad yn chwilio am straeon am gyflawniadau cydweithwyr.
Yn gyntaf oll, roeddwn i eisiau cynnig fy nymuniadau gorau i'r holl fyfyrwyr a dderbyniodd eu canlyniadau Safon Uwch ddoe.
Mae arholiadau yn fusnes llawn straen, fel y mae aros am eich graddau, felly rwy'n gobeithio bod pawb yn y sefyllfa honno bellach yn mwynhau amser haeddiannol iawn i segura.
Rwyf hefyd yn gobeithio bod y rhai sydd yn gadael ein chweched dosbarth wedi cael y graddau yr oedd eu hangen arnynt ac yn edrych ymlaen at gam nesaf eu taith, beth bynnag y mae hynny'n ei olygu.
Mae hefyd yn bwysig diolch i'r nifer fawr o bobl sy'n ymwneud â helpu disgyblion i gyflawni nid yn unig yn eu harholiadau ond gydol eu hamser yn yr ysgol.
Mae gennym grŵp ymroddedig a thalentog o staff ysgol yn y Fro sy'n mynd y tu hwnt i’r gofyn i roi'r llwyfan gorau i'w myfyrwyr i lwyddo.
Yn eu cefnogi nhw y mae ein cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau, gan sicrhau bod yr adnoddau a’r seilwaith gan ysgolion sy'n angenrheidiol i weithredu'n effeithiol.
Weithiau mae rôl pobl y tu ôl i'r llenni yn mynd ar goll ar adegau fel diwrnod y canlyniadau, felly roeddwn am achub ar y cyfle hwn i drosglwyddo fy niolch diffuant i bob un ohonoch sy'n ymwneud â system addysg ragorol y Fro. Diolch yn fawr i chi gyd.
Wrth siarad am arwyr tawel, ymwelodd ein tîm cyfathrebu â Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth y Cyngor yn yr Hen Goleg a HWB yr YMCA yn y Barri yn ddiweddar i daflu goleuni ar y gwaith gwych sy'n digwydd yno.
Mae’r ddwy ganolfan hon yn darparu gwasanaethau dydd i oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth.
Maent yn defnyddio egwyddorion Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn i adeiladu amserlen weithgareddau i’r defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr, sy'n cael ei hadolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd.
Mae hyn yn helpu pobl i gyflawni eu nodau a'u dyheadau.
Mae'r Rheolwr Gwasanaeth Dydd Sarah Sidman-Jones a'i thîm wrth wraidd y gwaith cadarnhaol ac arloesol sy'n digwydd yno.
Maent yn cynnig gweithgaredd i unigolion sy'n ysgogol ac ystyrlon ac yn defnyddio technoleg, fel offer syllu llygaid, i helpu hyd yn oed y rhai ag anableddau dwys i gyfathrebu.
Da iawn i bawb sy'n ymwneud â'r gwasanaeth – mae eich ymdrechion wir yn ysbrydoledig.
Cafwyd diwrnod agored ym Mharc Porthceri Ddydd Mawrth, gan gynnig cyfle i bobl ddarganfod mwy am brosiect y Cyngor i Adfer y Ddawan.
Daeth tua 150 o bobl draw i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth, cynlluniau gwyddoniaeth dinasyddion ac amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i'r teulu, gan gynnwys sesiwn helfa sborion, a sesiwn dipio pwll.
Gallai selogion pryfetach hefyd fwynhau Taith Ddarganfod Pryfed gyda chynrychiolydd o Buglife, yr Ymddiriedolaeth i Warchod Infertebratau
Wedi ei reoli gan Mel Stewart, gyda chefnogaeth Ceri Williams, mae prosiect Adfer y Ddawan yn rhaglen waith dair blynedd i wneud gwelliannau bioamrywiaeth ar hyd Afon Ddawan, y nentydd sy’n ei bwydo, a'r dirwedd gyfagos.
Y nod yw bod bywyd gwyllt lleol, tirfeddianwyr a'r gymuned oll yn elwa, ac y bydd yn cynnig cyfleoedd amrywiol i sefydliadau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr gymryd rhan yn y gwaith cadwraeth.
Ochr yn ochr ag arian o gronfa Prosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg, cafodd y prosiect gyllid gan Sefydliad Waterloo a’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, sy’n dod drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw cryfhau gwytnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru, cefnofi adferiad byd natur, ac annog cymunedau i gymryd rhan mewn cadwraeth natur.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect, naill ai fel gwirfoddolwr neu fel grŵp, e-bostio Mel i ddarganfod mwy.
Gan gadw at yr awyr agored, efallai y bydd gan rai staff ddiddordeb cael gwybod bod grantiau coetiroedd ar gael i ariannu plannu coed.
Gellir gwneud ceisiadau i osod un goeden mewn gardd neu ar gyfer coetiroedd cyfan.
Cyfoeth Naturiol Cymru a Creu Coetiroedd yw'r sefydliadau gorau i gynnig mwy o wybodaeth a chyngor.
Mae gweithgarwch fel hyn yn helpu i gynnal mannau gwyrdd ac mae'n cyd-fynd yn fawr ag ymrwymiad Prosiect Sero y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 a'r Argyfwng Natur yr ydym wedi'i ddatgan.
Mae Tîm Maethu Cymru'r Fro wedi bod yn brysur yn ddiweddar gydag ambell fenter gwerth chweil.

Ddydd Gwener diwethaf cynhaliwyd ffair haf yr adran, a fynychwyd gan ofalwyr a'u teuluoedd, yng Nghanolfan Chwaraeon Sili ac a drefnwyd gan Megan Parry.
Roedd aelodau o'r timau Dechrau'n Deg, Rhianta a Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i gyd yn bresennol i roi manylion am gyfleoedd gofal maeth.
Roedd fan heddlu ac injan dân yno i blant eu harchwilio, cestyll bownsio, sleidiau, pwll peli, gemau mabolgampau, stondin gwn nerf, sioe anifeiliaid yn cynnwys nadroedd, madfallod, tarantelâu, cwningod a moch cwta a sioe hud.
Mae'r cyfan yn swnio fel lot o hwyl – Da iawn Megan am dynnu hynny oll at ei gilydd.
Yn y cyfamser, mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi ymgyrch Dileu Elw Maethu Cymru.
Mae hyn yn gysylltiedig â chynlluniau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr gofal maeth nid-er-elw yn unig weithredu yng Nghymru erbyn 2027.
Byddai cam o'r fath yn golygu bod plant maeth lleol yn cadw mewn cysylltiad â'r cymunedau maen nhw'n eu caru.
Mae'r ymgyrch yn ceisio annog pobl i faethu drwy eu hawdurdod lleol i elwa o gefnogaeth, hyfforddiant a chysylltiadau gydol oes mewn gofal.
Mewn meysydd eraill, mae arolwg pellgyrhaeddol sy'n gofyn i drigolion am fywyd yn y Fro a'r materion sy'n bwysig iddyn nhw ar fin cael ei lansio.
Mae Amser Siarad am Fywyd yn y Fro yn ymarfer ymgynghori sy'n ceisio barn ar ystod o faterion sy'n cwmpasu holl gyfrifoldebau'r Cyngor.
Mae’n rhoi cyfle i bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a’n helpu ni i ddeall yn well sut i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn lleol.
Y bwriad yw clywed gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys staff.
Mae hyn yn wahanol i arolygon eraill ledled y Fro y mae'r Cyngor wedi'u cynnal gan nad yw'r cwestiwn ond yn gofyn pa mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r Cyngor.
Yn hytrach, rydym yn ceisio deall sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw yn y Fro a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar hyn.
Mae'r ymarferiad hwn yn rhan o raglen waith ehangach, sef rhan o’r Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, i wella sut mae'r Cyngor yn ystyried barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro wrth lunio polisi a darparu gwasanaethau.
Bydd llwyddiant yr ymarfer hwn yn dibynnu'n fawr ar nifer yr ymatebion a ddaw i law, felly, yn ogystal ag ymateb yn uniongyrchol, rhowch fanylion yr arolwg i ffrindiau a theulu.
Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael cyfle i ennill un o ddeg taleb Love2Shop gwerth £50, y gellir eu gwario mewn amrywiaeth eang o siopau a bwytai'r stryd fawr. Unwaith y bydd yr arolwg wedi'i lansio, mi anfonaf ddiweddariad gyda manylion sut i gymryd rhan.
Hoffwn atgoffa pawb hefyd bod yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Ddigidol yn dal i redeg.
Bydd hwn yn helpu i siapio'r Cyngor ar gyfer y dyfodol ac mae'n adeiladu ar ein Strategaeth Pobl, gwaith ar y Prosiect Sero a'r Strategaeth Ariannol.
Mae'r Strategaeth Ddigidol ddrafft newydd hon yn gosod gweledigaeth uchelgeisiol ger bron ar sut y gall y sefydliad drawsnewid ei ddulliau digidol.
Mae trigolion yn cael eu hannog i ddweud eu dweud, ond rydym hefyd eisiau clywed gan gydweithwyr a phartneriaid felly os oes gennych rywfaint o amser rhydd, os gwelwch yn dda rhannwch eich syniadau.
Bydd Cabinet y Cyngor yn adolygu'r adborth cyn cytuno ar ddrafft terfynol o’r strategaeth gynnar yn yr hydref.
Unwaith eto, diolch i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr bob amser.
Gobeithio y cewch chi benwythnos braf a hamddenol.
Diolch yn fawr iawn,
Rob