Yr Wythnos Gyda Rob

11 Awst 2023

Annwyl gydweithwyr,

Wrth i wythnos arall ddirwyn i ben, roeddwn i eisiau rhannu'r newyddion diweddaraf o bob rhan o'r Cyngor wrth i gydweithwyr barhau i wneud gwaith rhagorol.

Graham Conibear

Ond yn gyntaf, mae gen i ddiweddariad arall ar drefniadau'r angladd ar gyfer y cyn-aelod staff poblogaidd, Graham Conibear, a fu farw yn anffodus yn ddiweddar.

Fel y dywedais yr wythnos ddiwethaf, bydd gwasanaeth yn Amlosgfa’r Barri am 12 canol dydd ar Ddydd Mawrth 22 Awst ac yna gwylnos yng nghlwb Golff Bryn Hill, ac mae teulu Graham wedi dweud bod croeso i bawb fynychu sy'n gallu.

I'r rhai na allant, bydd yr angladd yn gyrru heibio'r Swyddfeydd Dinesig am 11.40 y diwrnod hwnnw, gan roi cyfle arall i staff dalu parch.

Ar nodyn hapusach, hoffwn longyfarch Canolfan Dysgu Oedolion Palmerston, sef y sefydliad cyntaf o'i fath i gael ei achredu gan Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru.

Mae'r siarter, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn bodoli i gefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector yng Nghymru sy'n barod i hyrwyddo sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein. 

Digital inclusion charter

Mae'n cynnwys chwe adduned ac mae'n fodd i sefydliadau ddangos eu hymrwymiad i helpu pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i  allu mwynhau manteision bod ar-lein – yn enwedig pobl hŷn, pobl ag anableddau, pobl ddi-waith, tenantiaid tai cymdeithasol, teuluoedd mewn tlodi a chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae llawer o waith caled wedi mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i gyflawni'r gydnabyddiaeth hon. Da iawn i Siân Lloyd, Deborah Lewis a Phil Southard yn arbennig am eu hymdrechion, a fydd, heb os, yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer fawr o drigolion.

Gwnaeth cynllun y ganolfan i wneud gliniaduron, Mifi a dyfeisiau Wifi ar gael i'w benthyca argraff arbennig ar aseswyr, fel y gwnaeth yr ymrwymiad i ddarparu offer i ffoaduriaid a'r rhai sy'n profi digartrefedd.

Mewn rhan arall o’r Cyngor, mae Rachel Starr-Wood a Thîm Etholiadau'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i ganfasio cymunedau lleol i sicrhau bod manylion aelwydydd yn gyfredol.

electoral commission - your vote matters English

Mae’r Canfasiad Blynyddol yn ofyniad cyfreithiol ar Awdurdodau Lleol i gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mro Morgannwg i gadarnhau a yw’r wybodaeth ar y Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir.

Eleni mae'r broses yn cael ei rheoli gan y Cyngor a Swyddfa Cabinet Llywodraeth y DU am y tro cyntaf.

Anfonwyd llythyrau at holl aelwydydd y Fro ar 30 Mehefin, gyda dyddiad cau i ymateb ar 7 Awst.

Yr wythnos hon anfonwyd llythyrau atgoffa at y rhai nad oeddent wedi ateb gyda galwadau ffôn ac ymweliadau tai i ddilyn os na cheir ymateb erbyn 11 Medi.

Byddwn yn gwerthfawrogi cymorth staff wrth rannu pa mor bwysig yw hi ein bod yn casglu'r wybodaeth hon yn brydlon ac yn gywir.

Mae ei gasglu ar gyfer Sir gyfan yn dasg enfawr felly gwerthfawrogir unrhyw gymorth i ledaenu'r gair yn fawr.

Project Zero Logo

Cyfarfu Bwrdd Cronfa Prosiect Sero yr wythnos hon i ystyried casgliad newydd o geisiadau am gyllid.

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer prosiectau a gyflwynwyd gan staff sy'n cyfrannu at ein hymrwymiad Prosiect Sero i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Cymeradwywyd ystod o gynigion gwahanol, o'r rhai a gyflwynwyd gan ysgolion i eraill a gyflwynwyd gan adrannau penodol.

Ers lansio'r gronfa, mae amrywiaeth o geisiadau, gan gynnwys cynlluniau arbed ynni, prosiectau bwyd a mentrau beicio i'r gwaith wedi cael arian.

Mae modd gwneud ceisiadau o hyd at £5,000 ar unrhyw adeg, tra bod yn rhaid gwneud cynigion ar gyfer symiau mwy erbyn 2 Hydref i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y bwrdd dair wythnos yn ddiweddarach.

Byddwn yn annog pawb i feddwl a oes unrhyw beth y gallen nhw ei roi gerbron y panel wrth i ni i gyd geisio lleihau ein hôl troed carbon.

Yn y cyfamser, mae cydweithwyr yn Adnoddau Dynol wedi bod yn gweithio'n galed ar y Rhaglen Gwobrau a Buddion i staff.

Lansiwyd fforwm yn ddiweddar i adolygu'r hyn y mae'r Cyngor yn ei gynnig yn y maes hwn ar hyn o bryd ac i archwilio beth arall y gellid ei ddarparu. 

Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr yn y sefydliad hwn yn fawr iawn ac yn credu bod set gynhwysfawr o wobrwyon a buddion yn hanfodol i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynnal lles.

Gall y rhain gynnwys pensiynau, cyfleoedd dysgu a datblygu, gweithio hyblyg yn ogystal ag yswiriant iechyd preifat, aelodaeth campfa a thalebau gofal plant.

Rwy'n gwybod bod llawer o waith gwych eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn a hoffwn ddiolch i'r rhai a gymerodd ran am eu hymdrechion.

Mae cyfle o hyd i ymuno â'r fforwm, cymryd rhan yn y drafodaeth a helpu i lunio'r math o wobrau sydd ar gael.

Penarth Food Pod allotments

Dyma ddiwrnod olaf Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd felly mae'n ymddangos fel amser da i ddathlu yr holl waith a wna ein wyddogion Cyfoethogi Cymunedau i gefnogi prosiectau tyfu yn y Fro.

Mae nifer o'r cynlluniau hyn o gwmpas y Sir, yn benodol:  Pod Bwyd Penarth, Gerddi Grange a Gardd Gymunedol Crawshay yn Llanilltud Fawr a Gardd Gymunedol Gwenog Court yn y Barri.

Mae Mark Ellis a'i gydweithwyr yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i gynnal mannau o'r fath, sy'n helpu lles iechyd a'r amgylchedd.  Da iawn.

Gan gadw at bwnc llesiant, mae'r Tîm Datblygu Chwaraeon wedi lansio rhaglen o ddigwyddiadau gweithgaredd ieuenctid yn ddiweddar.

Legacy Leisure youth wellbeing event - circuits

Wedi'i weithredu ar y cyd â Legacy Leisure, y cwmni sy'n rheoli canolfannau hamdden y Cyngor, mae rhai o'r sesiynau hyn yn digwydd yn ystod gwyliau'r haf, gydag eraill yn parhau am gyfnodau hirach eleni a'r flwyddyn nesaf.

Mae Karen Davies a chydweithwyr wedi gweithio'n ddiflino i dynnu'r sesiynau hyn a dylent gael effaith gadarnhaol iawn ar nifer fawr o bobl ifanc yn y Fro.

Y nod yw cynyddu iechyd a lles ymhlith aelodau iau o'r gymuned, yn enwedig plant rhwng 14 a 18 oed sydd wedi’u nodi’n benodol fel rhai sydd wedi’u heffeithio’n negyddol gan y pandemig.

Mae'r sesiynau sydd ar gael yn cynnwys ffitrwydd, nofio, pêl-fasged, golff, pêl-droed bocsio, dawns a mwy, ac maent wedi'u targedu at ystod o grwpiau oedran dros 11 oed.

Byddant yn cael eu cynnal yng nghanolfannau hamdden y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr, yn ogystal ag amrywiaeth o leoliadau eraill dan do ac awyr agored ar draws y Fro.

Mae cefnogi byw'n iach a llesiant yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, felly mae hyn yn waith gwerth chweil. Diolch yn fawr i bawb sy'n gysylltiedig.  

Progress Pride Flag at the Civic Offices

Codwyd baner yr enfys y tu allan i'r Swyddfeydd Dinesig y bore 'ma i nodi Pride y Barri, sy'n digwydd yfory, a bydd aelodau GLAM yn ymuno â'r rhai sy'n gorymdeithio drwy'r dref.

Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn gyfle i'r gymuned LHDTC+ a'u cynghreiriaid ddangos eu cefnogaeth i'r mudiad a dathlu amrywiaeth mewn ffordd hwyliog, gyfeillgar a lliwgar.

Mae Glam yn grŵp staff sy'n gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDT+ yn y gweithle, yn codi ymwybyddiaeth a gwelededd o'u gwaith, ac yn darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.  

Bydd yr orymdaith yn dechrau'n brydlon am 11am yng Ngerddi’r Parêd, gan barhau o 12pm ar Lan y Môr.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim gydag adloniant byw, stondinau a lluniaeth y mae croeso i bob cefnogwr ei fynychu.

south asian heritage month 2023

Dechreuodd Mis Treftadaeth De Asia ychydig wythnosau yn ôl ac mae'n para tan Awst 17, pen-blwydd y rhaniad rhwng India a Phacistan.

Fe'i cynlluniwyd i godi proffil treftadaeth a hanes De Asiaidd Prydain yn y DU a hynny drwy addysg, y celfyddydau, diwylliant a choffáu.

Y nod yw helpu pobl i ddeall amrywiaeth Prydain heddiw yn well a dathlu'r effaith a'r cyfraniadau a wneir gan ddiwylliannau De Asia, rhai Afghanistan, Bangladesh, Bhutan, yr India, Ynysoedd y Maldives, Nepal, Pacistan, a Sri Lanka.

Mae'r gwledydd hyn i gyd wedi cael eu heffeithio yn rhinwedd eu perthynas â Phrydain, trwy ryfel, gwladychu ac ymerodraeth, tra bod tua phump y cant o'r boblogaeth o dreftadaeth De Asiaidd.

Mae amser o hyd i gydweithwyr sy'n uniaethu â threftadaeth De Asia rannu eu straeon, y gallwn eu dathlu cyn i'r mis ddod i ben.

Diverse-Staff-Network

Mae Diverse, rhwydwaith staff y Cyngor ar gyfer cydweithwyr du, Asiaidd a’r mwyafrif byd-eang, hefyd bob amser yn edrych i groesawu aelodau newydd.

Beth bynnag rydych chi'n ei wneud y penwythnos hwn, mynychu Pride y Barri neu unrhyw beth arall, gobeithio y cewch chi gwpl o ddiwrnodau ymlaciol a phleserus.

Diolch hefyd i chi am eich ymdrechion yr wythnos hon – maent wastad yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.

Diolch yn fawr iawn,

Rob.