Annwyl gydweithwyr,

Ysgrifennaf atoch gyda thristwch mawr i rannu newyddion gofidus.

Yn gynharach heddiw, bu farw Phil Southard, Rheolwr Diwylliant a Chymuned y Cyngor, yn annisgwyl gartref.

Bydd y newyddion yma yn sicr yn sioc enfawr i bawb oedd yn adnabod ac yn gweithio gyda Phil dros y blynyddoedd.

Phil Southard, Paula Ham, Rob ThomasMae Paula Ham, ein Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau, eisoes wedi hysbysu cydweithwyr o'i Chyfarwyddiaeth, gan dalu teyrnged i’r aelod staff poblogaidd a hirhoedlog.

Fel y dywedodd Paula yn ei neges, roedd Phil yn gydweithiwr gwaith hynod gefnogol ac roedd yn hynod ymroddedig i'w rôl.

Mae'n gadael etifeddiaeth barhaol ar ôl gwella bywydau llawer iawn o bobl, gan gyfoethogi cymunedau yn y Fro a ledled Cymru.

Roedd ymrwymiad a brwdfrydedd Phil am ei waith ar draws Dysgu Oedolion a Chymunedol, Llyfrgelloedd, y Celfyddydau a Diwylliant yn amlwg i bawb eu gweld. Bydd yn cael ei golli'n fawr.

Mae ein meddyliau gyda'i wraig Martine, ein Rheolwr Cysylltiadau Dysgu, a'u teuluoedd ar yr adeg hynod anodd hon.

Mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, ac rydym yn annog unrhyw un yr effeithir arno i ofyn am help. Gellir cysylltu â'n gwasanaeth cwnsela, Care First, ar 0800 174 319. Mae cydweithwyr Iechyd Galwedigaethol hefyd wrth law i helpu.

Os oes angen unrhyw beth arnoch o gwbl, mae croeso i chi gysylltu â'ch rheolwr neu'ch Pennaeth Gwasanaeth.

Byddaf yn rhannu manylion y trefniadau angladd cyn gynted ag y byddant ar gael.

Cofion cynnes,   

Rob