
Mae’n Amser Siarad am Fywyd yn Y Fro
Mae Cyngor Bro Morgannwg eisiau siarad â thrigolion am beth sy’n bwysig iddyn nhw ac am fywyd ym Mro Morgannwg, ac mae hyn yn cynnwys ein staff.
Mae Amser Siarad am Fywyd yn y Fro yn arolwg newydd o drigolion ar draws y sir sy'n rhoi cyfle i bobl sy'n byw ym Mro Morgannwg rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus, eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a’n helpu ni i ddeall yn well sut i gael mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn lleol.
Mae'r arolwg yn fyw nawr ar cymrydrhan.valeofglamorgan.gov.uk/beth-am-siarad
Mae'r arolwg hwn yn wahanol i arolygon eraill ledled y Fro y mae'r Cyngor wedi'u cynnal yn y gorffennol. Nid ydym yn gofyn yn unig pa mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r Cyngor. Yn hytrach, rydym yn ceisio deall sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw yn y Fro a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar hyn.
Rydym yn cynnal yr ymarfer hwn oherwydd mae profiad pobl o fyw yn y Fro yn bwysig iawn i ni. Mae'r Cyngor, fel llawer o sefydliadau sector cyhoeddus eraill, yn newid sut mae'n gweithio'n gyflym iawn.
Gyda chyllidebau'n parhau i gael eu gwasgu a'r cyllid sydd ar gael i ddarparu ein gwasanaethau'n debygol o barhau i ostwng, mae angen i ni feddwl yn wahanol iawn am sut rydym yn gweithio.
Er mwyn i ni wneud y penderfyniadau gorau am y dyfodol mae angen i ni gael y ddealltwriaeth orau bosibl o sut beth yw bywyd i bobl yn y Fro a beth sydd wir o bwys iddyn nhw.
Mae'r ymarferiad hwn yn rhan o raglen waith ehangach i wella sut mae'r Cyngor yn ystyried barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Fro wrth wneud penderfyniadau. Rydym wedi gosod pedwar amcan i'n hunain fel rhan o'n Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd ac mae'r arolwg hwn yn un ffordd yr ydym yn cyflawni ar y rhain.
Rydym yn ceisio arolygu cymaint o bobl â phosibl i glywed beth yw eu barn ac yn ogystal ag ymateb yn uniongyrchol, gofynnir i staff rannu gwybodaeth am yr arolwg gyda'u ffrindiau a'u teulu.
Bydd pawb, gan gynnwys staff, sy'n cymryd rhan yn yr arolwg hefyd yn cael cyfle i ennill un o ddeg taleb Love2Shop gwerth £50. Gellir gwario'r talebau mewn amrywiaeth eang o siopau a bwytai'r stryd fawr.
Mae'r ymatebion i'r arolwg yn cael eu casglu a'u dadansoddi yn annibynnol ar gyfer y Cyngor gan Data Cymru. Bydd ymchwilwyr yn Data Cymru yn cynnal dadansoddiad annibynnol o'r canlyniadau ac yn cyflwyno hyn i'r Cyngor. Unwaith y bydd y canlyniadau wedi'u dadansoddi, bydd y rhain yn cael eu hadrodd yn gyhoeddus.