Aelodau GLAM i gymryd rhan yn Pride Y Barri y penwythnos hwn.

Barry Pride Map

Bydd Pride Y Barri yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 12 Awst a bydd aelodau GLAM yn gorymdeithio yn falch drwy'r Barri.

Bydd yr orymdaith yn dechrau'n brydlon am 11am yn Parade Gardens a bydd y dathliadau'n parhau o 12pm ar lan y môr, gydag adloniant byw, stondinau a lluniaeth. Digwyddiad am ddim yw hwn i bawb i ddathlu'r gymuned LHDTC+.

Barry Pride Poster

Mae croeso i chi ymuno ag aelodau GLAM yn ystod yr orymdaith a dod â ffrindiau a theulu draw i ymuno yn y dathliadau.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf gallwch ymweld â thudalen Facebook Barry Pride.