Staffnet+ >
Yr Wrthnos Gyda Rob 28 Ebrill 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
28 Ebrill 2023
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn i ddechrau'r neges yr wythnos hon fel y gorffennais fy un diwethaf - yn dathlu agor yr Ysgol Sant Baruc newydd ar Lannau’r Barri.
Mae'r ysgol gynradd Gymraeg dra fodern yn gyfleuster gwirioneddol o'r radd flaenaf. Mae ganddi le i 420 o ddisgyblion ac roedd yn wych eu gweld nhw’n cael eu croesawu gan staff fore Llun.
Ysgol Sant Baruc yw’r adeilad newydd diweddaraf i agor fel rhan o'n rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae’n un carbon isel ac yn defnyddio paneli solar a batris storio ar y safle, pympiau gwres ffynhonnell aer – sy'n defnyddio aer awyr agored i wresogi'r adeilad - gwresogi tanlawr a mannau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio. Y tu mewn, mae'r ystafelloedd dosbarth a mannau eraill o’r radd flaenaf ac mae gan staff fynediad at lu o gymhorthion addysgu arloesol.
Fel y bydd y rhai sydd wedi gweithio'n agos ar y prosiect yn gwybod, nid yw hon wedi bod yn rhaglen waith syml o bell ffordd, yn bennaf oherwydd y ffaith bod yn rhaid i ni ddibynnu ar gonsortiwm y datblygwyr sy'n gyfrifol am gynllun ehangach y Glannau i ddarparu rhai elfennau fel rhan o'u hymrwymiadau nhw i'r gymuned ehangach. Dim ond drwy ddyfalbarhad ac ymrwymiad llawer o'n cydweithwyr rydyn ni wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Chwaraeodd cydweithwyr yn ein timau Cynllunio, Adfywio, Eiddo a Chyfreithiol ran bwysig wrth sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddatblygu. Fel yn achos pob ysgol newydd, rheolwyd y prosiect yn arbenigol drwyddi draw gan gydweithwyr yn yr adran Dysgu a Sgiliau, a fu wedyn yn gweithio law yn llaw â'r staff a'r llywodraethwyr rhagorol yn Ysgol Sant Baruc i sicrhau'r pontio mwyaf didrafferth posibl i ddisgyblion. Dyma enghraifft wych o brosiect sy'n dangos, heb amheuaeth werth gwasanaeth cyhoeddus a llywodraeth leol, ac o dimau sy'n gwneud dyfodol ein cymunedau yn ganolog i’w gwaith.
Mae wedi bod yn ymdrech ryfeddol gan bawb a fu’n rhan o'r broses ac ni ellir tanbrisio effaith eu gwaith ar addysg, cyrhaeddiad, a lles disgyblion nawr ac am flynyddoedd lawer i ddod. Diolch i chi i gyd.
Mae eu llwyddiant mewn cymaint o feysydd yn golygu bod ein hysgolion wedi hen arfer â sylw'r cyfryngau a chawson ni brofiad newydd yn hyn o beth yr wythnos hon. Y Fro yw un o'r siroedd cyntaf yn y wlad i gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl, felly croesawodd Ysgol Gynradd Ynys y Barri, sianel deledu Ffrengig-Almaeneg Arte ddydd Mercher a oedd yn ffilmio darn i'w ddarlledu ar y cyfandir. Mae’r ffaith bod ein gwaith bellach yn cael cydnabyddiaeth ryngwladol yn dangos cymaint y gall Tîm y Fro ei gyflawni. Merci beaucoup i'r rhai a wnaeth yr ymweliad yn bosibl ac sydd wedi helpu i arddangos ein llwyddiant i'r byd!
Gydag ysbryd tebyg sy'n edrych tuag allan, cyfarfu'r Cyngor Llawn nos Lun a chytunodd ar gynnig i ddod yn aelod o rwydwaith Awdurdod Lleol Dinas Noddfa a gweithio tuag at achrediad fel Cyngor Sir Noddfa i bawb, a defnyddio ei lwyfan i hyrwyddo croeso a chynhwysiant ar draws y gymuned leol ehangach Mae ein gwaith i gefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin yn cael cyhoeddusrwydd da ond rhan fach yn unig yw hyn o beth mae ein timau'n ei wneud i gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag gormes, erledigaeth a rhyfel, i herio gwahaniaethu a chanfyddiadau negyddol, ac i sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Dyma rai o'r prif ofynion i'w hachredu ac wrth weithio tuag at y lleill does dim amheuaeth gen i y byddwn yn parhau i adeiladu cymunedau cryfach fyth yn y Fro.
Un o'r ffyrdd rydyn ni'n dod â phobl yn agosach at ei gilydd yw trwy ein gwaith i gefnogi pobl hŷn sy'n byw yn y Fro. Yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi pobl o bob oed i fyw ac i heneiddio'n dda ledled y sir. Mae'r wythnos hon wedi bod yn Wythnos Fyd-eang Pontio’r Cenedlaethau. Mae tirnodau ledled Y Barri wedi eu goleuo'n binc i hyrwyddo #GIW23 ac i helpu i dynnu sylw at waith y Cyngor i wella’r Fro fel lle sy'n dda i bobl hŷn. Mae ein Swyddog newydd y Fro Sy'n Dda i Bobl Hŷn, Siân Clemett-Davies, yn gweithio gyda grwpiau ar draws y Fro ac yn ganolog i ran fwyaf o'n prosiectau mwyaf llwyddiannus a gallwch ddarllen am rai o'r rhain ar StaffNet+ nawr.
Rydyn ni’n cloi yr wythnos hon gan nodi dau ddiwrnod arall sy'n cyd-fynd yn agos â gwaith ein sefydliad.
Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol. Gall plant teuluoedd milwrol wynebu heriau nad ydyn nhw bob amser yn amlwg i'r bobl o'u cwmpas. Mae ein tîm Grwpiau Agored i Niwed yn yr adran Dysgu a Sgiliau yn gweithio'n agos gydag ysgolion, yn enwedig rhai yng Ngorllewin y Fro, i gefnogi plant, pobl ifanc, a theuluoedd o gymuned y Lluoedd Arfog. 'Gofalu am Ein Plant Milwrol' yw thema ymgyrch eleni ac i’w chloi, mae cydweithwyr ledled y Fro yn ymuno â'i gilydd i 'droi’n borffor' heddiw i’w chefnogi. Gallwch weld rhai o'r rheini sy'n helpu i ddathlu cyflawniadau plant a phobl ifanc ar ein ffrwd Twitter.
Heddiw hefyd yw Diwrnod Pay It Forward, menter fyd-eang sy'n bodoli i wneud gwahaniaeth drwy greu traweffaith enfawr o garedigrwydd a deimlir ledled y byd. Mae'r ysbryd hwn wrth wraidd cymaint rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni wedi achub ar y cyfle i ddathlu ar-lein waith ein timau sy'n cefnogi Pod Bwyd Penarth, gan helpu hefyd i recriwtio gwirfoddolwyr newydd ar gyfer un o'n partneriaid allweddol, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg.
Yn olaf, os hoffech orffen yr wythnos drwy wneud cymwynas fach, byddai ein tîm Strategaeth a Pholisi yn gwerthfawrogi'n fawr petaech yn cwblhau'r Arolwg teithio staff sydd wedi agor heddiw. Er mwyn ein helpu i ddeall mwy am ein hôl troed carbon ac archwilio cyfleoedd i leihau hyn mae'r tîm wedi llunio ffurflen fer. Mae ar gael i gydweithwyr ei llenwi nawr.
Diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon. Rwy'n gobeithio y bydd pawb fydd yn cael penwythnos hirach o ganlyniad i'r cyntaf o’r gyfres o wyliau banc mis Mai eleni yn mwynhau eu hunain.
Diolch yn fawr bawb
Rob