Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 21 Ebrill 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
21 Ebrill 2023
Annwyl gydweithwyr,
Hoffwn ddechrau'r wythnos hon trwy ddymuno Eid Mubarak i'r holl gydweithwyr hynny sy'n dathlu Eid al-Fitr a diwedd Ramadan heddiw.
Mae'r wythnos hon wedi bod yn un arwyddocaol yn ein gwaith i wella ein gwasanaethau a symud i Fro Morgannwg fwy gwyrdd ac iachach. Mae wedi gweld cyflwyno casgliadau ailgylchu wedi'u gwahanu ym Mhenarth, Dinas Powys, Llandochau, Sili a'r Fro ddwyreiniol o'i hamgylch.
Drwy gasglu gwastraff ailgylchadwy mewn cynwysyddion ar wahân, rydyn ni'n gallu gwella ansawdd yr ailgylchu rydyn ni'n ei gasglu. Mae hyn yn golygu y bydd mwy ohono yn aros o fewn y DU i gael ei ailgylchu, sy'n well i'r amgylchedd.
Mae'r newidiadau hyn eisoes wedi'u cyflwyno mewn mannau eraill yn y Fro, lle rydym wedi gweld cynnydd yn faint ac ansawdd yr ailgylchu sy'n cael ei gasglu. Wythnos i mewn, ac er clod mawr i'n timau Gwastraff ac Ailgylchu a'r cydweithwyr hynny sy'n eu cefnogi, mae'r canlyniadau yn nwyrain y Fro yn edrych yn debygol o fod y gorau eto. Bob dydd mae tua 3000 o aelwydydd yn symud i'r casgliadau newydd, ac er eu bod yn gofyn i drigolion ddidoli eu gwastraff yn wahanol, mae ein criwiau'n adrodd bod mwy na 90% o wastraff yn cael ei gyflwyno'n gywir.
Bu cydweithwyr o'r Amgylchedd a Thai yn cynnal cyfres o sioeau teithiol cymunedol yn gynharach yn y mis ac ochr yn ochr ag ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr ac mae'r rhain wedi bod yn ganolog wrth roi'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ei angen ar drigolion i'w gael yn iawn y tro cyntaf. I helpu'r rhai sy'n cael trafferthion, mae ein wardeiniaid gwastraff wedi bod allan yn yr ardaloedd casglu newydd i gynghori trigolion y ffordd orau o gyflwyno eu hailgylchu.
Ar yr un pryd â chyflwyno'r newidiadau hyn, rydym hefyd wedi cyflwyno casgliadau newydd ar draws y Fro ar gyfer batris ac eitemau trydanol bach, i'w gwneud hi'n haws fyth i drigolion ailgylchu hyd yn oed mwy o'u gwastraff. Bydd y newidiadau hyn yn allweddol wrth ein helpu ni i gyrraedd ein targed o ailgylchu 70% o holl wastraff y Fro erbyn 2025. Cam enfawr tuag at gyflawni Uchelgeisiau Prosiect Sero.
Mae llawer gormod o bobl ynghlwm â'r prosiect enfawr hwn i enwi yma felly yn hytrach hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i bawb yn yr Amgylchedd a Thai sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd. Mae timau allweddol yn yr Alpau wedi bod yn cynllunio ers misoedd er mwyn sicrhau bod y broses o gyflwyno yn ddi-dor. Er bod ein gweithredwyr rheng flaen diflino wedi bod ar flaen y gad yn y broses o gyflwyno bob dydd yr wythnos hon, dylwn hefyd sôn am y rhai mewn Cysylltiadau Cwsmeriaid a Chyfathrebu sydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni hyn i gynghori a chefnogi trigolion. Dyma ddarn o waith llwyddiannus arall sydd wedi dangos Tîm y Fro ar ei orau.
Mae'n gwaith ni i fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd hefyd wedi cymryd cam ymlaen ym mhen arall y Fro yr wythnos hon. Mae'r Cyngor wedi ehangu ei ddarpariaeth llogi beiciau drwy gyflwyno cynllun i Lanilltud Fawr, yn debyg i'r rhai sydd ar gael mewn mannau poblogaidd eraill i gymudwyr.
Mae cyfleuster docio sy'n cael ei bweru drwy solar ar gyfer wyth beic, sy'n cael ei weithredu gan Brompton Bikes, wedi ei gosod y tu allan i orsaf drenau’r dref. Mae'n adeiladu ar y ddarpariaeth beiciau llogi sydd eisoes ar gael yn y Fro, lle lansiwyd cynllun rhannu beiciau electronig cyntaf Cymru ym Mhenarth dair blynedd yn ôl. Ers hynny, mae rhagor o orsafoedd dociau wedi’u cyflwyno yn Sili a Dinas Powys, ac mae cynlluniau i ymestyn y rhwydwaith ymhellach.
Mae'r beiciau'n helpu i gysylltu ein seilwaith teithio llesol a'i gwneud yn llawer haws i bobl gwblhau teithiau heb ddefnyddio car. Mae'r beiciau'n wych i'w reidio ac yn rhesymol iawn i'w llogi. Os ydych chi'n teithio i Lanilltud unrhyw bryd yn fuan, byddwn yn argymell yn fawr rhoi cynnig arni. Diolch mawr i'r tîm Trafnidiaeth a lansiodd y cynllun yr wythnos yma.
Rwyf wedi dweud o'r blaen bod mynychu'r gwobrau gwasanaeth hir newydd bob amser yn uchafbwynt i mi ac roeddwn unwaith eto wrth fy modd yn gallu dal i fyny â'r cydweithwyr hynny rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â nhw dros y blynyddoedd diwethaf a chwrdd â rhai am y tro cyntaf yn y digwyddiad yr wythnos hon.
Daeth y cyflwyniad yn Swyddfa'r Arweinydd â'r rhai a gyrhaeddodd naill ai'r garreg filltir 25 neu 40 mlynedd at ei gilydd yn ddiweddar. Roedd yr Arweinydd a minnau'n falch o allu diolch i bob un wyneb yn wyneb am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i wasanaeth cyhoeddus. Fel bob amser roedd llawer o fyfyrio ar flynyddoedd wedi mynd heibio a rhai straeon gwych yn cael eu rhannu. Bydd y rhai yr ydym yn gallu eu hargraffu yn ymddangos ar StaffNet+ yn fuan! Diolch i'r rhai a fynychodd a hefyd i bob un arall a gyrhaeddodd y cerrig milltir hyn ond na allai fod yn bresennol ar y diwrnod.
Ddoe, mynychais sesiwn 'Croeso i’r Fro' a chwrdd â dros 30 o'n dechreuwyr newydd yn bersonol. Roedd unwaith eto'n wych gweld cymaint yn bresennol ac mae'n amlwg bod y sesiynau hyn hefyd yn mynd o nerth i nerth. Diolch i Delyth a Natalie o'r tîm Datblygu Sefydliadol sy'n cynllunio'r sesiynau rheolaidd hyn a diolch hefyd i'r rhai a fynychodd, a gobeithio eich bod yn ddefnyddiol. Diolch yn fawr a croeso i'r Fro!

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a drefnodd a mynychu Caffi'r Menopos a gyfarfu'n gynharach heddiw. Nod y Caffi yw chwalu'r tabŵ sydd o amgylch y menopos trwy gynyddu ymwybyddiaeth o effaith y menopos. Wedi'i gydlynu gan ein tîm Iechyd Galwedigaethol, mae'r caffi ar agor i'r holl staff ac mae'n un o'r nifer o ffyrdd rydym yn sicrhau bod gan ein holl staff y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn yr un modd, diolch i'n Pencampwyr Lles a drefnodd ein sesiwn myfyrdod misol cyntaf ddydd Iau. Yn arbennig Amber Smith, a arweiniodd gydweithwyr drwy amrywiaeth o dechnegau myfyrdod. Mae hyn yn ffordd wych gwella eich lles a darganfod manteision myfyrdod. Bydd sesiynau pellach a gallwch gofrestru ar gyfer rhain nawr.

Yn olaf, hoffwn edrych ymlaen at fore Llun pan fydd staff a disgyblion yn Ysgol Sant Baruc yn Y Barri yn cael eu diwrnod cyntaf gyda'i gilydd yn eu hysgol newydd ddydd Llun. Mae'r adeilad newydd yn edrych yn wych ac mae'n gyfleuster dysgu o'r radd flaenaf arall a ddarperir gan ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Bydd gen i fwy ar hyn wythnos nesaf ac rwy'n siŵr rhestr hir o ddiolch. Am y tro, mi hoffwn i ddweud llongyfarchiadau a phob lwc i bawb fydd yn cerdded drwy'r giatiau fore Llun.
Diolch fel bob amser i bawb am eu hymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob