Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 14 Ebrill 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
14 Ebrill 2023
Annwyl gydweithwyr,
Gobeithio i chi fwynhau gŵyl banc y Pasg a chael cyfle i dreulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau.
Er gwaethaf wythnos fyrrach arall, i rai ohonom, mae digon o waith da i’w gynnwys yn neges y dydd Gwener hwn.
Wedi i mi sôn am adroddiad rhagorol Arolygiaeth Gofal Cymru y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i gael yr wythnos ddiwethaf, roedd mwy o newyddion cadarnhaol o'r maes hwnnw wrth i Dîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol drefnu'r Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gofal ar gyfer rhanbarth Caerdydd a'r Fro.
Dathlodd dros 150 o weithwyr gofal proffesiynol staff a gafodd eu cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 i 5 mewn seremoni yn Neuadd Goffa'r Barri.
Cyflwynydd Newyddion y BBC Sian Lloyd oedd yn llywyddu’r noson, ac roedd y cyfan yn arbennig iawn gan mai dyma oedd y cyntaf ers y pandemig.
Cyflwynwyd gwobrau gan Faer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Susan Lloyd-Selby, ei chydymaith yng Nghaerdydd, y Cynghorydd Graham Hinchey, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Lance Carver.
Rwyf hefyd ar ddeall mai’r cwmni arlwyo Big Fresh a osododd bwffe ardderchog i bawb a fynychodd.
Da iawn i bawb a dderbyniodd wobrau a'r rhai oedd yn rhan o drefnu digwyddiad llwyddiannus iawn. Llongyfarchiadau.
Y Swyddog Prosiect Steve Davies oedd yn arwain y cynllunio, gyda chefnogaeth prentis gweinyddu'r tîm Katie Foster.
Mae'r adborth ar y noson wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae'n wych gweld staff gofal, sy'n gwneud gwaith mor bwysig yn gofalu am rai o'n preswylwyr mwyaf bregus, yn cael eu cydnabod fel hyn.
Mae diogelu a chefnogi ein trigolion mwyaf bregus yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor ac mae'r gwaith hwn yn ganolog i ni gyflawni'r amcan allweddol hwn.
Ar y pwnc hwnnw, mae adolygiad o raglen Croeso Cynnes y Cyngor wedi datgelu bod tua 3,500 o bobl wedi defnyddio’r cyfleusterau hyn y gaeaf hwn.
Mae hynny'n dangos nid yn unig maint sylweddol yr argyfwng costau byw, ond hefyd nifer y trigolion yr ydym wedi gallu eu helpu.
Fel rhan o waith y Cyngor i gefnogi dinasyddion yn ystod y cyfnod ansicr hwn, helpodd cydweithwyr o’r Gwasanaethau Partneriaeth a Datblygu i lansio'r fenter ym mis Medi.
Mae’n cynnig lle cynnes a chroesawgar i bobl ddod at ei gilydd heb unrhyw gost, mwynhau amrywiaeth o weithgareddau a chael cymorth ariannol.
Mae tua 40 o leoliadau ledled y Fro wedi cymryd rhan yn y cynllun, gan greu rhwydwaith o fannau cymunedol.
Roedden nhw i gyd yn cynnig mynediad am ddim ac roedd gweithgareddau ar gael saith niwrnod yr wythnos.
Y disgwyl yw mai dim ond 10 o’r rhain fydd yn dirwyn eu darpariaeth i ben, gan olygu felly y bydd y cynnig Croeso Cynnes yn parhau yn y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gwanwyn.
Mae pob lleoliad yn cynnig gwahanol fath o gyfle i fwynhau cwmni, cymryd rhan mewn gweithgaredd, a manteisio ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae manylion am yr hyn sydd ar gael ym mhob lleoliad i’w gweld ar yr Hyb Cymorth Costau Byw ar wefan Cyngor Bro Morgannwg.
Mae'r Hyb hefyd yn yn cynnig gwybodaeth ar fanteisio ar grantiau cymorth costau byw a manylion y cymorth sydd ar gael gan y Cyngor ac ystod o bartneriaid.
Mae prisiau cynyddol wedi cael effaith andwyol ar gynifer o breswylwyr, gan wthio'r rheiny sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd gyda phwysau ariannol ac allgáu i drafferthion pellach.
Yn ogystal â'r rhai a helpodd i drefnu'r ddarpariaeth, hoffwn ddiolch i staff yn y gwahanol leoliadau am y gwaith anhunanol maen nhw wedi'i wneud i gefnogi defnyddwyr y gwasanaeth.
Rwy'n gwybod bod llawer ohonoch yn gweithio i'r Cyngor gan fod Mannau Cynnes wedi'u sefydlu mewn llyfrgelloedd a mannau eraill sy'n cael eu rheoli gan yr Awdurdod.
Da iawn i bawb sy'n cymryd rhan, mae hwn yn waith gwych ac rwy'n falch iawn o glywed y bydd y rhan fwyaf o'r canolfannau yn aros ar agor. Diolch yn fawr i chi gyd.
Gan gadw at y thema o ddiogelu'r rhai sydd ei angen fwyaf, cynhaliodd y Gwasanaeth Ieuenctid yn ddiweddar ddigwyddiad i godi ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc.
Wedi’i drefnu ar y cyd â Ei Llais Cymru, un o grwpiau cyfranogi'r Gwasanaeth, cyflwynwyd yn y digwyddiad adroddiad ar y pwnc i gynulleidfa yn Siambr y Cyngor.
Yn cynnwys merched rhwng 13 a 17 oed, dechreuodd Ei Llais Cymru yr ymgyrch #DydynNiDdimynTeimlonDdiogel a chynnal arolwg i'r broblem.
Yna cafodd canfyddiadau'r grwpiau eu cyflwyno i ddetholiad o westeion, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor, Yr Heddlu a Llywodraeth Cymru.
Bu'r merched yn gweithio gyda dylunydd lleol i greu posteri, gyda'r gwaith celf yn annog pobl ifanc i adrodd achosion o aflonyddu ac egluro sut i fynd ati i wneud hynny.
Gofynnon nhw i bobl wneud addewid i roi cyhoeddusrwydd i'r broblem a chynnig awgrymiadau o welliannau y gellid eu gwneud, gan gynnwys creu Mannau Diogel.
Mae'r fenter hon yn cynnwys gofyn i fusnesau ledled y Fro arddangos sticer yn eu ffenestr sy'n dangos bod hwn yn lle diogel i fynd iddo.
Pan fydd person ifanc yn teimlo'n agored i niwed, gall ddefnyddio'r man hwn fel lloches.
Chwaraeodd Alexandra Thomas o'r Gwasanaeth Ieuenctid ran allweddol wrth drefnu'r digwyddiad pwysig hwn.
Mae'n hanfodol bod pob grŵp yn ein cymunedau yn cael cyfle i godi pryderon felly roedd hi'n wych gweld y menywod ifanc yma yn cael llais.
Da iawn Alexandra a phawb a gymerodd ran yn llwyfannu digwyddiad sy'n procio'r meddwl. Rwyf eisoes wedi cynnal trafodaethau gyda'r Arweinydd a chydweithwyr am sut y gallwn gadw'r gwaith pwysig hwn ar y radar a chodi ei broffil hyd yn oed ymhellach.
Unwaith eto, diolch i chi gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon – cânt eu gwerthfawrogi'n fawr bob amser.
Diolch yn fawr iawn,
Rob