Staffnet+ >
Yr Wythnos Gyda Rob 06 Ebrill 2023
Yr Wythnos Gyda Rob
06 Ebrill 2023
Annwyl gydweithwyr,
Er bod hon yn wythnos fyrrach i nifer o staff cyn penwythnos gŵyl y banc, nid yw hi wedi bod yn llai prysur ac rwy'n falch o ddweud bod gen i lu o ddatblygiadau cadarnhaol i'w rhannu â chi i gyd.
Ddoe, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru eu hadroddiad am ein cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn llawn canmoliaeth.
Asesodd AGC y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau Oedolion a chydnabod y lefel uchel y mae'r ddau'n gweithredu arni. Mae eu hadroddiad yn tynnu sylw at uwch arweinyddiaeth gref o fewn yr adran a'r cynlluniau strategol clir sydd ar waith i werthuso gwelliannau.
Cafodd ein timau eu canmol am y gwelliannau sydd wedi’u gwneud ers adolygiad diwethaf AGC ym mis Tachwedd 2021, ac mae'r adroddiad yn tanlinellu'r pwynt pwysicaf – bod y gwelliant hwn yn arwain at ganlyniadau gwell i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Hoffwn ddiolch i bob aelod o'n tîm Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r cydweithwyr hyn yn gwneud gwaith anhygoel, o dan amgylchiadau cynyddol anodd. Yr hyn sy'n amlwg i mi o'r adroddiad yw eu hymrwymiad i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r rhai y maent yn eu cefnogi a'r tosturi anhygoel sy'n sail i’w holl waith. Rwy'n hynod falch o weithio ochr yn ochr â chydweithwyr fel hyn ac rwy’n gwybod bod llawer o bobl eraill yn rhannu'r ymdeimlad hwn o falchder hefyd. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n falch hefyd o rannu, ar ôl fy niweddariad am y prosiect yr wythnos ddiwethaf, fod Oracle Fusion yn fyw. Mae'r system yn gam mawr ymlaen o'n platfform blaenorol ac yn llawer haws ei defnyddio. Mae’r cam mynd yn fyw yr wythnos hon yn garreg filltir arwyddocaol yn ein taith i fod yn sefydliad Dewis Digidol.
Dylai bron pob cydweithiwr bellach fod wedi derbyn manylion mewngofnodi a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i hunanwasanaeth gweithwyr a rheolwyr yn Fusion. Cafwyd nifer o ddiweddariadau i gydweithwyr ar draws yr wythnos a gallwch ddal i fyny ar y rhain trwy fynd i hyb Oracle Fusion ar StaffNet. Fe welwch hefyd gysylltiadau â hyfforddiant ar-lein sydd wedi'u cynllunio i gefnogi'r rhai sy'n defnyddio'r system am y tro cyntaf.
Bydd rhoi'r gallu i gydweithwyr hunanwasanaethu yn elfen allweddol o'n Strategaeth Ddigidol newydd, sy'n cael ei chwblhau ar hyn o bryd. Oracle Fusion yw'r cyntaf o nifer o blatfformau newydd a fydd ar gael i staff yn y flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu nifer o offer newydd i helpu pob un ohonom i weithio gyda'n gilydd mewn modd mwy clyfar ac rwy'n gyffrous gweld pobl yn gweithio hyd yn oed yn agosach ar draws y sefydliad o ganlyniad.
Unwaith eto hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o brosiect Oracle. Bu nifer o staff yn gweithio dros y penwythnos i sicrhau y byddai’r lansiad ddydd Llun yn mynd yn hwylus. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymrwymiad trwy gydol yr hyn a fu'n brosiect hynod gymhleth ac ar adegau hynod heriol. Mae’r broses gyflwyno ddidrafferth yr wythnos hon yn ganlyniad i'ch holl waith caled. Diolch bawb.

Hoffwn hefyd ganmol llu o ysgolion y Fro a ddaeth at ei gilydd yr wythnos diwethaf i ddathlu gwobrau Campws Cymraeg. Mae Campws Cymraeg yn siarter iaith a ddefnyddir i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn Ysgolion. Yn ôl data'r cyfrifiad diweddar, mae mwy o siaradwyr Cymraeg nag erioed ym Mro Morgannwg ac un o’r prif resymau am hyn yw gwaith cydweithwyr ar draws y sector addysg i roi cefnogaeth mor wych i'r rhai sy'n dymuno dysgu a byw eu bywydau yn ddwyieithog.
Llongyfarchiadau mawr i'r dysgwyr i gyd a dderbyniodd eu gwobrau yr wythnos hon ac i bawb oedd yn eu cynorthwyo ac yn eu cefnogi. Gallwch ddarllen rhestr lawn o'r ysgolion a gweld rhai lluniau hyfryd o'r disgyblion gyda'u tystysgrifau ar-lein.
Yn olaf, bydd llawer ohonoch dwi'n siŵr yn chwilio am ffyrdd i fwynhau'r tywydd braf dros benwythnos y Pasg yma. Un opsiwn i’r rhai teuluoedd ifanc yw ymweld â Pharc Gwledig Porthceri er mwyn manteisio ar yr ardal chwarae newydd a agorodd yn gynharach yr wythnos hon. Daeth y ffensys i lawr mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Pasg ac roedd yn wych gweld cynifer o blant yn mwynhau'r cyfleuster newydd pan agorodd ddydd Mawrth. Fel y digwyddodd, nid oeddwn yn gweithio yn y prynhawn a threuliais ychydig amser yn cerdded yn y parc ac ar hyd yr arfordir wrth ymyl Porthceri. Roedd y maes chwarae newydd yn sicr yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Roedd yn dda digwydd cwrdd â Mel Stewart a siarad am ba mor boblogaidd oedd yr ardal chwarae newydd a dysgu mwy am y gwaith roedd ein ceidwaid yn ei wneud yn y parc, er gwaethaf y tywydd gwlyb heriol diweddar. Y tu hwnt i hyn mae ein tîm Ymweld â’r Fro wedi curadu rhestr wych o ddigwyddiadau'r Pasg sy'n darparu ar gyfer pob oedran a chwaeth, felly ewch draw at eu gwefan neu eu sianeli cyfryngau cymdeithasol os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth.
Ar y nodyn hwn, diolch i'n holl staff a fydd yn gweithio'n galed dros y penwythnos estynedig i gadw'r Fro i edrych ar ei gorau er mwyn i'r gweddill ohonom ei mwynhau. Fe'i gwerthfawrogir, fel arfer.
Beth bynnag a wnewch chi'r Pasg hwn, gobeithio y byddwch chi'n mwynhau. Fel bob amser rwy’n ddiolchgar am eich ymdrechion yr wythnos hon.
Diolch yn fawr bawb.
Rob.