Oracle Fusion

Oracle Fusion: Diweddariad ar Gyflwyno Hawliadau Milltiroedd

Mae Oracle Fusion bellach yn fyw!

Erbyn hyn, dylai'r rhan fwyaf ohonoch fod wedi derbyn eich e-bost croeso a’ch enw defnyddiwr. Peidiwch â phoeni os na, rydym dal wrthi’n anfon yr e-byst olaf.

Mae tîm Oracle Fusion wedi derbyn ychydig o e-byst yn ymwneud â phroblemau gyda hawliadau cofnodi milltiroedd ar gyfer teithiau cyn 7 Mawrth 2023 trwy'r system newydd.

Sylwch fod y tîm yn ymwybodol o'r mater.

Felly beth yw'r ateb?

1. Os yw Milltiroedd yn ymwneud â theithiau a ddigwyddodd naill ai ym mis Ionawr, Chwefror neu wythnos gyntaf mis Mawrth – nodwch yr hawliad ar Oracle Fusion gyda dyddiad o 7 Mawrth 2023 gyda dadansoddiad o'r dyddiadau cywir yn y blwch disgrifiad neu fel atodiad taenlen.

2. Os yw milltiroedd yn ymwneud â chyfnod cynharach e.e., roedd yr hawliad am daith a ddigwyddodd ym mis Rhagfyr 2022 - e-bostiwch Archwilio Mewnol cyn cyflwyno'r hawliad (gan gynnwys y prif swyddog / uwch reolwr yn yr e-bost) i'w gymeradwyo, gan atodi e-bost ymateb Archwilio i'r hawliad fel yr uchod.

3. Sylwch, gellir cyflwyno’r holl hawliadau am deithiau sy'n digwydd ar neu ar ôl 7 Mawrth trwy Oracle Fusion yn unol â'r deunyddiau hyfforddi. Dolen i Hyfforddiant: Oracle Fusion iExpenses

Yn ogystal, mae unrhyw broblemau gydag iprocurement bellach wedi'u datrys a gellir cyflwyno archebion. Gwiriwch gyda'ch cyflenwyr i sicrhau bod yr archebion wedi'u derbyn a heb fynd i ffolder sothach neu sbam.

Diolch,

Tîm Oracle Fusion.