Mis y Plentyn Milwrol

Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol. 'Gofalu am Blant y Lluoedd' yw thema'r ymgyrch eleni. Mae'n gyfle i ddathlu plant, pobl ifanc, a theuluoedd o gymuned y Lluoedd Arfog.

Gydol mis Ebrill, byddwn yn rhannu gwybodaeth ac yn tynnu sylw at adnoddau a mentrau i gefnogi plant sydd o gefndir y Lluoedd Arfog. Dysgwch sut i gymryd rhan ym Mis y Plentyn Milwrol isod.

'Ymborfforwch' ar gyfer Mis y Plentyn Milwrol Ddydd Gwener 28 Ebrill 2023

  • Gwisgwch borffor i'r gwaith Ddydd Gwener 28 Ebrill
  • Tynnwch lun ohonoch eich hun (neu gyda'ch cydweithwyr) yn gwisgo porffor yn y swyddfa (neu gartref)
  • Anfonwch eich lluniau at SSCECymru@wlga.gov.uk
  • Postiwch eich llun/iau ar y cyfryngau cymdeithasol (tagiwch @SSCECyrmu ar Trydar a Facebook) defnyddiwch yr hashnod #MotMCCymru - gyda neges i Blant y lluoedd, gan ddiolch iddynt am eu rôl bwysig yng nghymuned y Lluoedd Arfog

Dewiswyd porffor oherwydd ei fod yn symbol o bob cangen o'r fyddin, cyfuniad o Wyrdd y Fyddin, Glas y Llu Awyr, Glas Gwylwyr y Glannau, Coch y Môr-filwyr a Glas y Llynges.

Mwy o wybodaeth am Fis y Plentyn Milwrol.

 

Diwrnod Hwyl Teulu Mis y Plentyn Milwrol

Ymunwch â ni am ddiwrnod o hwyl i'r teulu fel rhan o Fis y Plentyn Milwrol gyda Ffitrwydd y Lluoedd yn Nhiroedd Castell Caerdydd, Ddydd Sul 30 Ebrill 2023. 

Bydd dwy sesiwn ffitrwydd o 12pm - 1pm ac 1pm - 2pm

Archebwch eich lle o flaen llaw trwy ffonio 07725704655 neu ebostiwch awarburton@valeofglamorgan.gov.uk.