Yr Wythnos Gyda Rob

30 Medi 2022

Annwyl gydweithwyr,

Mae hon wedi bod yn wythnos brysur arall i Dîm y Fro.

Mae gwaith wedi parhau i roi cymorth i'r rhai y mae’r cynnydd yn y costau byw yn effeithio arnyn nhw. Cafodd cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ei lansio ddydd Llun. Taliad o £200 yw hwn i aelwydydd cymwys y mae'r Cyngor yn eu talu ar ran Llywodraeth Cymru. Hyd yn hyn mae ein tîm Refeniw a Budd-daliadau wedi cyhoeddi bron i ddwy fil a hanner o daliadau, sy'n gwneud cyfanswm o dros £400,000. Bydd y taliadau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iawn i lawer o aelwydydd.

Cost OF Lliving Hub icon

Bydd pob preswylydd cymwys wedi derbyn llythyr i ddweud wrthyn nhw sut i wneud cais ac rydym yn mynd ati i rannu gwybodaeth ar-lein, fodd bynnag, mae dros 4,000 o aelwydydd cymwys eto i wneud cais. Gellir cael gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais ar ein gwefan, fel rhan o'n Hyb Cymorth Costau Byw yr ydym yn ychwanegu ato drwy'r amser.

Mae cyflwyno'r cynlluniau cymorth amrywiol bob amser yn gymhleth i'n cydweithwyr yn yr adran Gyllid ond mae eu hymrwymiad i gael yr arian allan i'r rhai sydd ei angen yn enghraifft wych o'n gwerthoedd ar waith.

Yn ogystal â'r taliadau Costau Byw mae'r tîm hefyd wedi gweinyddu 2,851 o Grantiau Datblygu Disgyblion gwerth £661,725 ers mis Awst. Hon oedd y flwyddyn gyntaf i'r cynllun fod yn agored i bob blwyddyn ysgol o ddechrau'r flwyddyn academaidd hon gan weld mewnlifiad enfawr o geisiadau. Deliwyd â'r rhain yn fedrus iawn gan Vicky Rees a Fran Jones yn yr adran Budd-daliadau. Hoffwn ddiolch iddyn nhw yn arbennig am eu gwaith.

Un o'r ffyrdd y byddwn yn cefnogi dinasyddion yn ystod yr argyfwng costau byw yw drwy helpu cymunedau i ddod at ei gilydd. Er mwyn helpu i alluogi hyn, yr wythnos hon mae tîm newydd wedi’i lansio yn ein cyfarwyddiaeth Lleoedd i gynorthwyo dinasyddion a grwpiau cymunedol gyda phrosiectau a chael mynediad at arian.

Community Development Team

Bydd y tîm Datblygu Cymunedol yn helpu cymunedau lleol i nodi eu blaenoriaethau, creu cynlluniau gweithredu, chwilio am gyllid a chynorthwyo gydag ymgynghoriadau. Nod y tîm newydd yw adeiladu ar y gwaith gwych sydd wedi ei gyflawni fel rhan o raglen Cymunedau Gwledig Creadigol y Fro, sydd wedi dod i ben yn ddiweddar ar ôl 18 mlynedd.

Bydd gan y tîm yr un ymrwymiad i roi pobl a lleoedd yn gyntaf gyda phwyslais ar hwyluso, cyd-gynhyrchu, cydweithio ac arloesi.  Roedd yn wych cyfarfod â'n Uwch Swyddogion Datblygu Cymunedol newydd Alec Shand ac Arabella Calder, ein Swyddog Monitro newydd Lauren Collins a'r Swyddog Gweinyddol Cath Jones yn y digwyddiad lansio ddydd Mawrth. Croeso i Dîm y Fro.

Catch the bus month Eng

Drwy gydol mis Medi mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi Mis Dal y Bws a manteisio ar y cyfle i dynnu sylw at yr ystod o wasanaethau bws, llawer ohonynt â chymhorthdal gan y Cyngor, sy'n gweithredu ar draws y Fro.

Mae teithio ar fws yn fath cynaliadwy, cynhwysol a hygyrch o deithio sy'n lleihau tagfeydd, yn gwella ansawdd aer ac yn cadw pobl yn gysylltiedig. Mae gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rhan allweddol yn y Prosiect Sero, ein hymrwymiad i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn y Fro, mae gwasanaethau bysus yn cwmpasu tua 10,000 cilomedr bob dydd ar lwybrau sy'n ymestyn ar hyd a lled y sir ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gysylltu rhai o'n cymunedau gwledig â'r trefi mwy. Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Trafnidiaeth a Gwasanaethau Cymdogaeth yn gwneud gwaith gwych o gadw'r rhwydwaith hwn i symud ac roedd y digwyddiad ar Sgwâr y Brenin yr wythnos hon, yn ogystal â bod yn uchafbwynt y dathliad mis o hyd, hefyd yn ffordd wych o arddangos eu holl waith i'n trigolion. Diolch i bawb a gymerodd ran.

Roedd dathliad yr wythnos hon hefyd yn cyd-fynd â Diwrnod Teithio Llesol i'r Gwaith ddydd Iau. I ddathlu’r ddau, mae’r Gwasanaethau Trafnidiaeth wedi sicrhau 40 pàs bws am ddim i staff. Os hoffech roi cynnig ar deithio i'r gwaith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yna edrychwch ar y wybodaeth sydd ar StaffNet+ i ddysgu mwy. 

Cynhaliodd cydweithwyr yn nepo'r Alpau ddiwrnod coffi a chacen ar gyfer Cymorth Canser Macmillan ddydd Mercher.  Prynodd staff ddanteithion melys a sawrus cartref a llwyddo i godi £216!  Wrth ddychwelyd ar ôl nifer o flynyddoedd rwy'n cael gwybod bod y digwyddiad wedi creu bwrlwm go iawn yn y swyddfa.

Mae Emma Reed wedi cysylltu i ddweud "Rydw i mor ddiolchgar i staff cymorth busnes yr Alpau am drefnu'r digwyddiad hwn a chodi swm mor wych o arian at achos sy'n agos iawn at galonnau staff eraill a fi fy hunan.  Roedd yn wych cael cymaint o staff yn galw heibio ac roedd yr awyrgylch yn anhygoel." Dw i'n cytuno'n llwyr. Da iawn bawb.

Pride flagMae'r Cyngor hefyd wedi bod yn dathlu Wythnos Cynhwysiant gydol yr wythnos hon. Mae ein tîm Cydraddoldeb wedi bod yn tynnu sylw at faes gwahanol o'n gwaith bob dydd ar StaffNet+ a byddwn yn annog pawb i ddysgu mwy am y grym cydnabod. Rwy'n falch iawn o fod yn dod â'r wythnos i ben drwy ymuno â chynghorwyr a chynrychiolwyr GLAM i godi'r faner ar gyfer Pride y Barri sy'n digwydd y penwythnos hwn. Bydd yn ddathliad gwych arall o amrywiaeth yn y Fro a hoffwn ddiolch i'r holl gydweithwyr hynny sydd wedi cefnogi'r trefnwyr.

Nôl ym mis Awst soniais fod angen staff i ymateb i'r ymgynghoriad ar Gynllun Cyflawni Blynyddol a Hunan-Asesu'r Cyngor. Yr Hunanasesu yw un o'r dulliau pwysicaf o fonitro pa mor dda yr ydym yn gwneud ein gwaith, a’r ffordd y mae cyrff fel Archwilio Cymru yn craffu ar ein gwaith. Mae amser o hyd i gydweithwyr gael dweud eu dweud fel rhan o hyn. Gallwch hefyd weld ail-adroddiad gwych o bopeth a gyflawnwyd gennym y llynedd yn ein dogfen grynhoi ar gynnydd.

Whitmore High School

Am adolygiad gwych arall o waith ein cydweithwyr gallwch hefyd edrych ar y ffilm fer am adeiladu Ysgol Uwchradd Whitmore, a gynhyrchwyd gan y contractwyr Morgan Sindall. Mae'n gyflwyniad gwych drwy brosiect anhygoel ac mae'n glod mawr i weledigaeth a sgiliau cydweithredol ein tîm Dysgu a Sgiliau a staff yr ysgol bod yr adeilad bellach yn cael ei gyflwyno fel model o arfer gorau yn y sector adeiladu.

Yn olaf, hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sydd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Staff heno a dymuno noson dda i bawb a fydd yn mynychu i gefnogi eu cydweithwyr. Byddwch i gyd yn gwybod o fy niweddariadau blaenorol pa mor angerddol ydw i am y digwyddiad. Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â'r pwyllgor trefnu ac mae'n fy ngwneud yn hynod o falch o weithio fel rhan o sefydliad lle mae dros 400 o gydweithwyr eisiau dod ynghyd i ddathlu llwyddiant eu cymheiriaid. Rydw i’n methu aros.

Fel pob amser, diolch i chi i gyd am eich ymdrechion yr wythnos hon.   Diolch yn fawr.

Rob.  

Rob.