Yr Wythnos Gyda Rob
02 Medi 2022
Annwyl gydweithwyr,

Nôl i'r ysgol neu nôl i'r gwaith - mae dechrau mis Medi wastad yn teimlo fel adeg o newid. Cyn edrych ymlaen at bopeth a ddaw gyda’r flwyddyn academaidd nesaf a gweddill 2022/23, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwneud yr haf yn gymaint o lwyddiant.
Dwi wedi sôn am y bobl a drefnodd Haf o Hwyl sawl gwaith dros yr wythnosau diwethaf. Bydd y digwyddiadau’n parhau i mewn i fis Medi ond mae hwn yn dal i deimlo fel cyfle arall i gydnabod cymaint o wahaniaeth y mae’r rhaglen ddigwyddiadau wedi'i wneud i deuluoedd yr haf hwn.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb fu'n cynrychioli'r Fro yn Pride Cymru y penwythnos diwethaf. Roedd yn amlwg yn ddigwyddiad gwych ac mae Tîm y Fro’n falch iawn o’r garfan GLAM. Yn arbennig, hoffwn ddiolch i Tom Narborough, Elyn Hannah, a Hawys Davies am eu holl waith trefnu ar ran y Cyngor - baneri, placardiau a phopeth arall! Diolch bawb. Mae’r faner Pride bellach wedi’i thynnu i lawr yn y Swyddfeydd Dinesig wrth i ni symud i ddathlu Diwrnod y Llynges Fasnachol y penwythnos hwn.
Yr wythnos nesaf bydd plant a phobl ifanc yn dychwelyd i - neu’n dechrau - eu bywydau ysgol ar draws y Fro. Ar ôl ansicrwydd y blynyddoedd diwethaf dwi’n gwybod y bydd dychwelyd i rywbeth sy'n ddigon tebyg i flwyddyn ysgol 'normal' yn gysur i lawer. Dwi hefyd yn gwybod na fydd yn llai heriol o gwbl i’n holl gydweithwyr sy'n gweithio i addysgu, cefnogi, ac ysbrydoli ein disgyblion. Dwi’n dymuno'r gorau iddyn nhw am y flwyddyn i ddod.

Un newid nodedig yn y ffordd rydyn ni'n gweithio eleni fydd darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn dosbarthiadau derbyn ac ym mlynyddoedd un a dau. Mae ein tîm Big Fresh wedi bod yn gweithio'n agos gydag ysgolion ledled y Fro i'n galluogi i gyflwyno'r prydau am ddim i lawer mwy o ddisgyblion nag mewn rhannau eraill o'r wlad. Bydd y gwaith gwych yma’n golygu y bydd cymaint o blant â phosibl yn gallu mwynhau pryd iachus o fwyd yn rhad ac am ddim yr wythnos nesaf. Os oes gennych chi blant mewn ysgol, yn y Fro neu’n rhywle arall, cofiwch wirio'r wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a oes gennych hawl i unrhyw gymorth gyda chostau ysgol.

Bydd yr wythnos nesaf hefyd yn gweld y Cabinet ffurfiol a chyfarfodydd pwyllgor yn dychwelyd ar ôl toriad yr haf. Bydd y flwyddyn ddinesig hon yn un arall sy’n llawn heriau mawr: y gyllideb, cefnogi preswylwyr a staff gyda’r argyfwng costau byw, cyflawni ein hymrwymiadau Prosiect Sero, a bwrw ymlaen â'n hagenda ddigidol i enwi dim ond rhai. Nid yw ein gwaith ar y pethau hyn byth yn stopio. Y datblygiad digidol diweddaraf yw lansio’r llwyfan Civico ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau o'r wythnos nesaf ymlaen. Rhoddwyd hwb i'n hymdrechion i leihau ein hôl troed carbon yr wythnos hon hefyd drwy ddadorchuddio'r arddangosiadau safleoedd bws solar cyntaf yn y Barri a Phenarth. Bydd gen i fwy o wybodaeth am barhau i gyflwyno pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y Fro yn yr wythnosau i ddilyn. Diolch i bawb a wnaeth y datblygiadau hyn yn bosibl.

Os ydych chi yn y Swyddfeydd Dinesig yr wythnos nesaf, efallai yr hoffech ymweld â gardd y cwrt, lle yr wythnos diwethaf gosodwyd plac coffa i'n diweddar gydweithiwr Martin Garrett ar un o'r meinciau. Mae'n lle addas i gofio Martin a wnaeth gymaint i wneud y Swyddfeydd Dinesig yn lle pleserus i weithio. Mae croeso i'r holl staff fwynhau'r ardd les yn y cwrt. Mae tair mainc a dau fwrdd picnic, ac mae'r ardd yn lle gwych i ddianc o'ch desg a mwynhau natur. Hoffwn ddiolch i Lynn Clarke a Ben Winstanley am eu holl waith i sefydlu a chynnal yr ardd.
Bydden nhw’n croesawu unrhyw help gyda'r gofod hwn, felly os byddech chi'n hapus i dorchi llewys am gwpl o oriau neu os oes gennych unrhyw botiau, planhigion, bylbiau, neu offer gardd diangen, rhowch wybod iddyn nhw.
Ar ran pawb yn y Fro hoffwn hefyd ffarwelio ag Ann Williams, ein Prif Swyddog Diogelu, ar ôl 50 mlynedd o wasanaeth gyda'r Fro. Mae Ann yn ymddeol yr wythnos hon ac mae ei chyfraniad eithriadol a'i hymroddiad i Wasanaethau Cymdeithasol y Fro yn haeddu cydnabyddiaeth enfawr.
Yn ystod ei gyrfa mae Ann wedi gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol a Rheolwr Gwaith Cymdeithasol ar draws amryw o dimau ac wedi dangos ymroddiad gwych i'r plant a'r teuluoedd y mae wedi gweithio gyda nhw. Bydd ei chydweithwyr yn ei cholli’n fawr, ac yn fwy felly y bobl mae hi'n eu cefnogi.
Ann, diolch am bopeth a mwynha dy ymddeoliad. Diolch a phob lwc.
Hoffwn hefyd longyfarch Suzanne Jones, ein Rheolwr Trysorlys ar hyn o bryd, a fydd yn dod yn Rheolwr Gweithredol newydd o fis Hydref. Mae gan Sue gyfoeth o brofiad, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac mae'n siŵr y bydd yn cael effaith fawr mewn swydd allweddol.

Yn olaf, er bod eich cyfle i enwebu cydweithiwr ar gyfer y Gwobrau Staff wedi pasio, os ydych chi’n nabod unigolyn neu grŵp y credwch ei fod yn haeddu cydnabyddiaeth ehangach, ystyriwch ei enwebu am wobr Dewi Sant. Gwobrau Dewi Sant yw’r gwobrau cenedlaethol i Gymru ac maen nhw’n dathlu dyheadau Cymru a'i dinasyddion fel gwlad fodern, fywiog sy'n gwerthfawrogi arloesedd, ysbryd cymunedol ac, yn anad dim, ei phobl. Gallwch ddod o hyd i fanylion y wobr a sut mae cyflwyno enwebiad ar-lein.
Fel bob amser, diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.