Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol 2022 – Grym Gwybodaeth

Inclusive Employers

Mae'r Cyngor yn dathlu’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol, sy'n para tan ddydd Sul.

Bob blwyddyn, mae saith diwrnod yn cael eu neilltuo i ddathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol. Wedi'i sefydlu gan Cyflogwyr Cynhwysol, mae’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol bellach yn ei degfed flwyddyn.

Y thema eleni yw 'Amser i Weithredu:  Nerth Nawr'.

Y nod i'r Cyngor yw ysbrydoli ffocws ar gamau gweithredu a helpu i wneud hwn yn lle cynhwysol i weithio. Rydym am weithio gyda'n gilydd i harneisio #NerthNawr i oresgyn heriau ac adeiladu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle a thu hwnt.

Trwy gydol yr wythnos, bydd erthygl wahanol yn ymwneud â'r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn cael ei rhannu ar Staffnet bob dydd. 

Mae un heddiw'n ymwneud â Grym Gwybodaeth

Grym Gwybodaeth - Cymryd perchnogaeth o’ch dysgu

Yn y gorffennol mae dibyniaeth wedi bod ar y rheiny sydd â phrofiad bywyd i addysgu, i godi ymwybyddiaeth ac i alw i weithredu. Dyma'r amser i bawb weithredu, er mwyn deall y rôl sydd ganddynt i'w chwarae wrth greu diwylliannau mwy cynhwysol, yn y gweithle a thu hwnt.  Mae'n amhosibl i bawb wybod popeth, ond gallwn ni i gyd fod yn well. Oes pwnc rydych yn ei osgoi am nad ydych yn ei ddeall yn ddigonol? Neu ydych chi'n poeni am ddweud y peth anghywir neu ddefnyddio'r iaith anghywir?  Oni bai eich bod yn cydnabod y meysydd twf hyn ac yn gwneud rhywbeth amdanynt, ni fydd unrhyw beth yn newid. Heddiw, cymerwch amser i gydnabod y bylchau yn eich gwybodaeth eich hun ac ystyriwch gamau ymarferol i'w gwella

Mae Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y Cyngor yn cynnig cyfleoedd addysgol i bobl o bob oedran.

Mae ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnig arf gwerthfawr wrth hyrwyddo grym gwybodaeth. Maent yn cynnal dosbarthiadau, mae ganddynt adnoddau a chyfleusterau cyfrifiadurol, a llawer mwy. 

Drag Queen Story HourYn ddiweddar, aeth llyfrgelloedd y Barri, Penarth, Llanilltud Fawr a'r Bont-faen ati i hyrwyddo cynwysoldeb, ochr yn ochr â goddefgarwch a derbyn drwy lwyfannu digwyddiadau ‘Drag Queen Story Hour’.

Gwnaeth y digwyddiadau hyn, a gyflwynwyd gan y frenhines drag Aida H Dee, ddenu brotestwyr, ond ni chafodd y Cyngor ei annog i beidio â gweithredu yn y ffordd hon, gan sefyll yn driw i'w werthoedd.

Dywedodd Trevor Baker - Pennaeth Strategaeth, Dysgu Cymunedol ac Adnoddau ar y pryd: "Hoffwn ddiolch o galon i'r holl staff am lwyfannu’r digwyddiadau Drag Queen Story Hour yr wythnos hon.

"Digwyddodd y rhain mewn amgylchiadau heriol, ond roedden nhw'n llwyddiant ysgubol oherwydd ymrwymiad, proffesiynoldeb a charedigrwydd y rhain sy’n gweithio yn ein llyfrgelloedd a thu hwnt.

"Fel Cyngor, rydym yn falch o gynnig profiadau sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein trigolion.

"Mae Drag Queen Story Hour yn gyfle i ysbrydoli cariad at ddarllen, tra’n dysgu gwersi dyfnach am amrywiaeth, hunangariad a gwerthfawrogi pobl eraill. Mae hefyd negeseuon pwysig ynghylch derbyn a chynwysoldeb.

"Yn union fel sesiynau blaenorol, daeth llawer o bobl i’r digwyddiadau. Gwnaeth rhieni a phlant gyfrannu’n frwdfrydig a rhoi adborth cadarnhaol iawn am eu profiadau.

"Nid pawb sydd o blaid y digwyddiadau hyn, ond yn y Fro credwn ei bod yn bwysig sefyll yn erbyn anoddefgarwch.

"Mae gennym amrywiaeth o ddarllenwyr a llyfrau amser stori yn ein llyfrgelloedd sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, sy'n golygu bod rhywbeth at ddant pawb.  Rydym yn falch o gynnwys Drag Queen Story Hour fel rhan o'r ystod eang hon o raglenni a digwyddiadau."

Daeth camerâu’r BBC ac ITV i ffilmio’r sesiynau, gan helpu i arddangos bod y Cyngor yn sefydliad sy'n dathlu amrywiaeth.

Ehangu eich gwybodaeth

I fod yn gynghreiriad da ac yn gynhwysol, mae'n bwysig parhau i ddysgu, i ofyn cwestiynau, ac i ehangu eich gwybodaeth.