Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol 2022 – Nerth Cynghreiriaeth

Inclusive Employers

Mae'r Cyngor yn dathlu’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol, sy'n para tan ddydd Sul.

Bob blwyddyn, mae saith diwrnod yn cael eu neilltuo i ddathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol. Wedi'i sefydlu gan Cyflogwyr Cynhwysol, mae’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol bellach yn ei degfed flwyddyn.

Y thema eleni yw 'Amser i Weithredu:  Nerth Nawr'.

Y nod i'r Cyngor yw ysbrydoli ffocws ar gamau gweithredu a helpu i wneud hwn yn lle cynhwysol i weithio. Rydym am weithio gyda'n gilydd i harneisio #NerthNawr i oresgyn heriau ac adeiladu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle a thu hwnt.

Trwy gydol yr wythnos, bydd erthygl wahanol yn ymwneud â'r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn cael ei rhannu ar Staffnet bob dydd. 

Mae un heddiw'n ymwneud â Nerth Cynghreiriaeth

Nerth Cynghreiriaeth – byddwch yn gynghreiriad gweithgar

Mae bod yn gynghreiriad bob dydd yn bwysig, yn eich bywyd personol ac yn y gweithle. Waeth beth yw eich rôl yn eich sefydliad, gallwch fod yn gynghreiriad cynhwysiant gweithredol i'r rhai o'ch cwmpas. Drwy ddeall y frwydr a'r ormes sy'n wynebu eraill yn well, gallwch ddysgu a newid. Drwy gefnogi pobl yn y gweithle drwy gynghreiriaeth, gallwch weithio tuag at greu gofod mwy diogel i bawb. Bydd y Weithred Ddyddiol hon yn rhoi gwybodaeth i chi am wahanol fathau o gynghreiriaeth a chanllawiau ymarferol ar sut y gallwch fod yn gynghreiriad i'r rhai o'ch cwmpas, gan ddechrau nawr.

Rhaglen Cynghreiriaeth LHDTC+ Bro Morgannwg

Wedi'i lansio yn nigwyddiad Uni-Tea GLAM ym mis Awst eleni, nod y Rhaglen Cynghreiriaeth yw dod â chydweithwyr ar draws y Cyngor at ei gilydd sydd am ddatgan i bawb eu bod yn Gynghreiriaid. Am fwy o fanylion, e-bostiwch Elyn Hannah.

VoG LGBTQ+ Ally Programme poster 1VoG LGBTQ+ Ally Programme poster 2

Lles ac iechyd meddwl

Mae'r Cyngor wedi cymryd camau breision i fod yn gyflogwr cydwybodol ac yn gynghreiriad i staff. Lansiwyd y dudalen iechyd a lles ar Staffnet ym mis Tachwedd 2020 i ddarparu arweiniad a rhoi cyngor ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl, ac iechyd corfforol, yn ogystal â gweithgareddau ac awgrymiadau i helpu gyda lles. Mae gan y Cyngor nifer o Hyrwyddwyr Lles ar draws y sefydliad sy'n gallu gwrando neu helpu i gyfeirio staff at fwy o gefnogaeth.

Mae gwasanaeth cwnsela ffôn Care First ar gael i'r holl weithwyr, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Maen nhw'n cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar bob math o faterion a phryderon sy'n gysylltiedig â'ch bywyd gwaith, fel straen, bwlio neu reoli amser; yn ogystal â'ch bywyd personol gan gynnwys cyllid, problemau teuluol neu ddiwedd perthynas – waeth beth fo'ch cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd.

Gallwch ffonio Care First ar 0800 174 319 neu ymweld â'r wefan Care First

Gwnewch eich addewid

Nid rhywbeth i ganolbwyntio arno am un diwrnod neu wythnos yn unig yw cynhwysiant, mae'n rhywbeth sydd angen ymrwymiad a gweithrediad hirdymor.

Mae heddiw'n gyfle da i fyfyrio ar yr Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol ac ymrwymo i weithredu ar gyfer y dyfodol. Beth rydyn ni am ei wella dros y 12 mis nesaf yn unigol ac fel sefydliad?  Beth rydych chi wedi ei ddysgu dros yr wythnos diwethaf? Beth sydd wedi bod fwyaf gwerthfawr i chi? Beth rydych chi'n gwybod y gallech chi neu'ch sefydliad fod yn ei wneud yn well? Mae'n Amser Gweithredu. Gwnewch addewid i ddangos sut y byddwch chi a'r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd tuag at gynhwysiant dros y flwyddyn nesaf.

Rydym yn addo ymrwymo i gynhwysiant

Diverse Staff Network Logo

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddileu gwahaniaethu ac annog amrywiaeth ymhlith ein gweithlu.  Ein nod yw cael gweithlu sy’n wirioneddol gynrychioliadol o bob rhan o gymdeithas a bod pob cyflogai’n teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn gallu rhoi o’i orau.

Glam

Rydym am hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch i bawb yn ein cyflogaeth ac ni fyddwn yn gwahaniaethu oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (LHDTC+). Rydym yn gwrthwynebu pob math o wahaniaethu anghyfreithlon ac annheg.  Bydd pob cyflogai, boed yn rhan-amser, yn llawn-amser neu dros dro, yn cael ei drin yn deg a chyda pharch.  Bydd dewisiadau am gyflogaeth, dyrchafiad, hyfforddiant ac unrhyw fudd arall ar sail dawn a gallu.

Disability Confident logo

Rydym wedi ymrwymo i newid sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y gweithle ac i sicrhau bod cyflogeion sy’n wynebu’r problemau hyn yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth. Rydym wedi llofnodi addewid cyflogwyr Amser i Newid yn y gorffennol. Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd.

Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo diwylliant cynhwysol i bob aelod staff.

Rydym yn addo sefydlu rhwydwaith staff anabl.

Eleni byddwn yn ceisio gweithio gydag aelodau o staff anabl yn ogystal â’r rhwydwaith GLAM a’r rhwydwaith Amrywiol er mwyn sefydlu rhwydwaith staff anabl.

Os hoffech fod yn rhan o bethau, cysylltwch â'r Tîm Cydraddoldebau.