Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol – Grym Cydnabod

Inclusive Employers

Mae'r Cyngor yn dathlu’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol, sy'n para tan ddydd Sul.

Bob blwyddyn, mae saith diwrnod yn cael eu neilltuo i ddathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol. Wedi'i sefydlu gan Cyflogwyr Cynhwysol, mae’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol bellach yn ei degfed flwyddyn.

Y thema eleni yw 'Amser i Weithredu:  Nerth Nawr'.

Y nod i'r Cyngor yw ysbrydoli ffocws ar gamau gweithredu a helpu i wneud hwn yn lle cynhwysol i weithio. Rydym am weithio gyda'n gilydd i harneisio #NerthNawr i oresgyn heriau ac adeiladu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle a thu hwnt.

Trwy gydol yr wythnos, bydd erthygl wahanol yn ymwneud â'r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn cael ei rhannu ar Staffnet bob dydd. 

Mae heddiw'n ymwneud â Grym Cydnabod

Grym Cydnabod: Grymuso eich cydweithwyr

Meddyliwch am gyfnod pan mae rhywun wedi cydnabod rhywbeth rydych chi wedi'i wneud a'i gydnabod - mae'n teimlo'n anhygoel yn tydi? Gall hyd yn oed weithredoedd bach o gydnabyddiaeth godi hwyliau pobl a'u grymuso yn y foment honno. Mae a wnelo heddiw â chydnabod eich cydweithwyr. O weithredoedd bach bob dydd o garedigrwydd a allai fod wedi cael eu cydnabod o'r blaen i weithredoedd mwy fel y rhai mewn rolau ffurfiol fel Pencampwyr Cynhwysiant, neu rwydweithiau staff. Heddiw, rydym yn eich annog i adnabod a grymuso'r bobl hynny o'ch cwmpas sy'n cyfrannu at greu diwylliannau cynhwysol mewn gweithleoedd bob dydd.

Amrywiol

Sefydlwyd y rhwydwaith staff Amrywiol yn ystod 2020 a chafodd ei lansio'n ffurfiol yn 2021. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth, darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol, a chael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o leiafrifoedd ethnig yn y gweithle.

Mae'r rhwydwaith Amrywiol yn gweithio gyda gwahanol adrannau'r Cyngor mewn perthynas â gweithredu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol ac i wella cyflogaeth a darparu gwasanaethau i weithwyr a chymunedau o leiafrifoedd ethnig. Mae'r rhwydwaith Amrywiol hefyd yn cefnogi hyfforddiant ymwybyddiaeth hiliol gorfodol a hyfforddiant rhagfarn anymwybodol i staff yn ogystal â chefnogi gweithdai gwrth-hiliaeth mewn ysgolion.

Mae croeso i bob aelod o staff ymuno â'r rhwydwaith a chefnogi ei genhadaeth i helpu'r Cyngor i ddod yn gyflogwr o ddewis i bobl o gymunedau amrywiol.

Yn rhan o'r genhadaeth hon, nod y grŵp yw:

  • Cael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y gweithle.
  • Codi ymwybyddiaeth gyffredinol o'i waith, a’i wneud yn weladwy.
  • Creu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.

Mae sefydlu'r rhwydwaith yn gam tuag at ddechrau'r sgwrs am gydraddoldeb hiliol yn y Cyngor mewn ffordd adeiladol ac agored a dangos y gall sgyrsiau anghyfforddus arwain at newid gwirioneddol.

Mae’r Rhwydwaith Staff Amrywiol yn gam cadarnhaol i'n sefydliad o ran hyrwyddo gweithle cynhwysol sy'n dathlu ei gymuned a'i weithlu amrywiol. 

Statws arloesi

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi derbyn statws Awdurdod Arloesi Race Equality Matters (REM) i gydnabod ei waith yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy greu Mannau Diogel.

Mae Mannau Diogel yn fenter gan Race Equality Matters, wedi’i chyd-greu â phobl sydd wedi dioddef hiliaeth, sy'n darparu amgylchedd diogel lle gall pobl a allai fod yn rhy anghyfforddus fel arall gael sgyrsiau gonest am y pwnc hwn.

Wedi'i greu i gydnabod sefydliadau sy'n gyrru newid ystyrlon yn y maes cydraddoldeb hiliol, mae statws Awdurdod Arloesi REM yn cael ei bennu gan banel annibynnol o arbenigwyr, oll â phrofiad byw o anghydraddoldeb hil yn y gweithle.

Mae dod yn Awdurdod Arloesi’n golygu bod y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud wedi arwain at newid ac effaith drwy’r sefydliad cyfan, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol a dod yn sefydliad mwy amrywiol, cynhwysol a chyfartal.

Barn y panel oedd bod gwaith y Cyngor i sicrhau bod lleisiau o leiafrifoedd ethnig yn cael eu clywed mewn cyfarfodydd Mannau Diogel yn "glir ac yn sylweddol" a rhoddwyd y sgôr uchaf bosibl i’r Cyngor am y ffordd mae’n sicrhau bod awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella yn cael eu rhoi ar waith.

Gyda dim ond 64 y cant o ymgeiswyr yn ennill statws Awdurdod Arloesi, mae’n amlwg bod y beirniaid yn gwbl o ddifri’ wrth gyflwyno’r statws, a bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn.

#FyEnwYw

Mae #FyEnwYwyw yn ymgyrch cydraddoldeb hiliol sy'n canolbwyntio ar atebion sy'n annog defnyddio sillafiadau ffonetig ar lofnodion e-bost a bathodynnau enw i fynd i’r afael anghydraddoldeb hiliol. Mae #FyEnwYw yn ateb syml ond effeithiol iawn i sicrhau bod pawb yn ynganu enwau pobl yn gywir.

Dyma’r hyn y gallwch chi ei wneud

  • Ychwanegwch ynganiad ffonetig o'ch enw i'ch llofnod e-bost –- dilynwch y cyfarwyddiadau ac ychwanegu #MyNameIs / #FyEnwYw + y sillafiad ffonetig. Dewch o hyd i'ch enw seinegol gan ddefnyddio'r offeryn digidol #FyEnwYw.
  • Gwirio eich bod yn dweud enwau pobl eraill yn gywir ac annog cydweithwyr, gweithwyr a'ch rhwydweithiau i wneud yr un peth.

Gallwch ddarllen yr erthygl wreiddiol ar postiwyd ar Staffnet yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hiliol 2022 yma

Harneisio Pŵer Cydnabod - cydnabod gwaith a wnaed gan eich cydweithwyr a'ch sefydliad.