Staffnet+ >
Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol 2022 – Nerth Cysylltiad
Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol 2022 – Nerth Cysylltiad

Mae'r Cyngor yn dathlu’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol, sy'n para tan ddydd Sul.
Bob blwyddyn, mae saith diwrnod yn cael eu neilltuo i ddathlu cynhwysiant a chymryd camau i greu gweithleoedd cynhwysol. Wedi'i sefydlu gan Cyflogwyr Cynhwysol, mae’r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol bellach yn ei degfed flwyddyn.
Y thema eleni yw 'Amser i Weithredu: Nerth Nawr'.
Y nod i'r Cyngor yw ysbrydoli ffocws ar gamau gweithredu a helpu i wneud hwn yn lle cynhwysol i weithio. Rydym am weithio gyda'n gilydd i harneisio #NerthNawr i oresgyn heriau ac adeiladu diwylliant mwy cynhwysol yn y gweithle a thu hwnt.
Trwy gydol yr wythnos, bydd erthygl wahanol yn ymwneud â'r Wythnos Cynhwysiant Genedlaethol yn cael ei rhannu ar Staffnet bob dydd.
Mae heddiw'n ymwneud â Nerth Cysylltiad.
Nerth Cysylltiad – Estyn Allan
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r rhan fwyaf o sefydliadau wedi gorfod newid sut maen nhw'n gweithio mewn rhyw ffordd. Mae Covid-19 wedi arwain at weithio mwy hyblyg, cyfathrebu mwy rhithwir a llai o amser wyneb yn wyneb. Mae pobl ym mhob rôl, pob sefydliad, pob sector yn brysurach nag erioed wrth i gwmnïau wynebu effeithiau ar gyllidebau ac adnoddau. Mae hyn i gyd yn arwain at lai o amser a chyfle ar gyfer cysylltiad dynol go iawn. Heddiw, meddyliwch am sut y gallech estyn allan a chysylltu â'ch cydweithwyr, ar draws timau, adrannau, swyddfeydd a hyd yn oed y byd. Cymerwch eiliad i wneud cysylltiad.
Mae dysgu Cymraeg yn ffordd wych o gysylltu â'r gymuned ehangach, eich cenedl a chi’ch hun.
Mae cyfres o gyrsiau Cymraeg lefel mynediad, sylfaen, uwch a medrus ar gael am ddim i aelodau a staff y Cyngor.
Mae'r cyrsiau yn 30 i 32 wythnos ac yn dechrau fis yma.

