
Annwyl gydweithwyr,
Mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi’u cysgodi gan farwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elisabeth II.
Anfonais ddiweddariad byr atoch i gyd neithiwr a oedd, gobeithio, yn ddefnyddiol ac yn lle fy neges diwedd yr wythnos arferol, hoffwn roi ychydig o wybodaeth bellach am ein cynlluniau ar gyfer y dyddiau nesaf.
Cyn gynted ag y cafodd y cyhoeddiad swyddogol ei wneud yn gynnar neithiwr, cafodd Protocol Marwolaeth Brenin/Brenhines y Cyngor ei roi ar waith. Cafodd y baneri yn y Swyddfeydd Dinesig eu hanner-gostwng, cyhoeddwyd datganiad swyddogol o gydymdeimlad gan y Maer, ac agorwyd y llyfrau cydymdeimlo yn yr adeiladau Dinesig, adeiladau’r Dociau ac adeiladau’r Alpau, yn ogystal ag ar-lein.
Rydym bellach yn y cyfnod swyddogol o alaru. Mae pob cyfarfod ffurfiol y Cyngor wedi’i ganslo am y deg diwrnod nesaf ynghyd â'r holl ymrwymiadau dinesig ffurfiol. Mae sianeli cyfathrebu allanol y Cyngor yn cael eu defnyddio dim ond i rannu gwybodaeth am ein hymateb. Bydd y baneri'n aros ar eu hanner tan ddiwrnod yr angladd, ac eithrio cael eu codi ar gyfer Proclamasiwn y Brenin newydd.
Heddiw, mae llythyr ffurfiol o gydymdeimlad wedi’i anfon at y Brenin gan y Maer ac mae gwaith cynllunio wedi dechrau ar gyfer Diwrnod y Proclamasiwn yn y Fro.
Caiff Ei Fawrhydi’r Brenin ei gyhoeddi’n frenin yng Nghyngor yr Esgyniad yn Llundain yfory. Yna bydd proclamasiynau ledled y wlad yn dilyn ddydd Sul. Caiff seremoni Proclamasiwn ar gyfer Cymru ei chynnal yng Nghastell Caerdydd am hanner dydd a dilynir hon gan y Proclamasiwn swyddogol ar gyfer Bro Morgannwg, dan oruchwyliaeth y Maer, yn y Swyddfeydd Dinesig am 2pm. Mae croeso i'r holl staff fynychu a chaiff y manylion llawn eu rhannu ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.
Rwy'n gwybod y bydd gan lawer ohonoch gwestiynau am yr hyn y bydd y cyfnod galaru yn ei olygu i'n gwasanaethau a'n parhad busnes. Yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn dal i weithredu fel arfer. Caiff arweiniad pellach ei roi i staff ddechrau'r wythnos nesaf.
Mae marwolaeth y Frenhines sydd wedi gwasanaethu’r Deyrnas Unedig yn hwy nag unrhyw frenin neu frenhines o’i blaen yn foment arwyddocaol mewn hanes. Bydd wedi effeithio ar bobl ledled y Fro mewn gwahanol ffyrdd ac yn rhoi eiliad i ni gyd i feddwl am ystyron dyletswydd a gwasanaeth cyhoeddus. Rwy'n gwybod y bydd marwolaeth y Frenhines wedi effeithio ar lawer ohonoch chi ac mae fy meddyliau gydag unrhyw un sy’n teimlo ymdeimlad o golled neu orbryder ar hyn o bryd.
Cofion a diolch yn fawr,
Rob.