Message from the CE banner

Neges gan y Prif Weithredwr

12 Medi 2022

Annwyl gydweithwyr,

Queen Elizabeth II

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd diwrnod Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, sef dydd Llun 19 Medi, yn ŵyl y banc.

Yn unol â hyn, bydd holl adeiladau swyddfa'r Cyngor ar gau, bydd ysgolion, llyfrgelloedd a chanolfannau dysgu i oedolion ar gau, bydd casgliadau gwastraff yn cael eu hatal dros dro, a bydd ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref ar gau. 

Bydd hawl gan bob aelod o staff i gael diwrnod o wyliau gyda diwrnod arferol o gyflog ar yr ŵyl y banc ychwanegol (bydd hyn ar sail pro-rata i weithwyr rhan amser).

Wrth gwrs, ni allwn atal pob un o'n gwasanaethau a bydd y cydweithwyr hynny y bydd rhaid iddynt weithio yn derbyn tâl gwyliau cyhoeddus, ynghyd ag amser i ffwrdd â thâl yn ddiweddarach. Mae rheolwyr yn ein gwasanaethau hanfodol yn siarad â'u timau heddiw er mwyn sicrhau bod cymaint o rybudd yn cael ei roi â phosibl.

Ar gyfer staff addysgu sy'n cael eu cynnwys dan ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru), rhagwelir y bydd y llywodraeth yn lleihau nifer y dyddiau addysgu sydd angen eu gweithio (yn ogystal â'r un ar gyfer Jiwbilî'r Frenhines - 193 o ddiwrnodau felly) felly ni fydd angen addasu cyflogau.

Mae disgwyl y bydd yna ddau funud o dawelwch yn cael eu cynnal yn genedlaethol ar ddiwrnod yr angladd. Bydd pob aelod o staff y mae gofyn iddyn nhw weithio yn gallu arsylwi hyn. 

Mae rhagor o wybodaeth am hyn i'w weld yn niweddariad Cyd-gyngor Cenedlaethol Cymru, sy'n amlinellu'r sefyllfa mewn perthynas ag aelodau staff sy'n dod o dan delerau ac amodau’r Llyfr Gwyrdd.

Arweiniodd y Maer y Gwasanaeth Proclamasiwn ffurfiol yn y Swyddfeydd Dinesig brynhawn ddoe. Roedd yn wasanaeth ingol a oedd yn nodi moment hanesyddol. Ffrydiodd Bro Radio y digwyddiad yn fyw a gall y rhai sy’n dymuno ei wylio wneud hynny o hyd. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl gydweithwyr hynny sydd wedi gweithio mor effeithlon yn y cyfnod cyn, ac yn ystod y penwythnos i sicrhau ei fod yn llwyddiant.  Diolch bawb.

Rwy'n gwerthfawrogi y bydd hyn yn amser i fyfyrio i lawer, ac y gallai’r newyddion fod yn ofidus i rai aelodau o staff. Hoffwn atgoffa pob un ohonoch o'r gwasanaethau sydd ar waith i gefnogi lles cydweithwyr, a allai fod o ddefnydd ar hyn o bryd.

CareFirst

Rhaglen Cymorth Cyflogeion y Cyngor yw Care First Gwasanaeth ar-lein a dros y ffôn 24/7 am ddim yw Care First sy'n galluogi defnyddwyr i gael gafael ar gwnsela neu wybodaeth am faterion gwaith a bywyd gan gynnwys perthnasau, materion teuluol, dyled a straen.

Rhif Cyswllt:  0800 174 319

Ein Tudalennau Lles  

Ar ein hyb lles StaffNet+ fe welwch wybodaeth am ein hyrwyddwyr lles yn ogystal â chyngor a gweithgareddau ymarferol i gefnogi eich lles corfforol, emosiynol a meddyliol.

Sesiynau Lles

Mae dwy sesiwn lles awyr agored wedi cael eu cadarnhau yn ddiweddar. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ym Mhorthceri rhwng 10am a 2pm ar 23 Medi ac yn Cosmeston rhwng 10am a 12pm ar 6 Hydref.

Yn ogystal â'r rhain, bydd cyfres o sesiynau anffurfiol i staff ailgysylltu â'u timau wyneb yn wyneb, neu’n rhithwir i'r rhai sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cyfarfod fel hyn. Ni fydd agenda penodol i'r cyfarfodydd hyn, dim ond y cyfle i sgwrsio. Byddwn yn rhannu dyddiadau a lleoliadau'r sesiynau cyn gynted â phosibl.

iDev

Mae gennym sawl modiwl dysgu byr ar-lein sydd wedi’u cynllunio i gefnogi eich iechyd meddwl. Mae'r modiwlau hyn yn gyflym ac yn hawdd eu gwneud. Maent wedi cael adborth rhagorol gan gydweithwyr ac maent yn hygyrch ar unrhyw ddyfais.

I fewngofnodi, rhowch eich manylion mewngofnodi iDev ac fe welwch beth sydd ar gael i chi.

Cyfle i dalu eich teyrngedau/Llyfr Cydymdeimlo

I'r cydweithwyr hynny sy'n dymuno talu eu teyrngedau i Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, mae llyfrau cydymdeimlo wedi eu hagor yn y Swyddfeydd Dinesig, Swyddfa'r Dociau, a Depo'r Alpau. Mae croeso i bob cydweithiwr alw heibio i un o'n hadeiladau i gofnodi eu cydymdeimladau. Rydym wedi agor llyfr cydymdeimlo ar-lein ar ein gwefan hefyd ac mae ar gael i bawb.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am drefniadau gwaith yn ystod y cyfnod cenedlaethol o alaru neu am y cymorth lles sydd ar gael yna siaradwch â'ch rheolwr llinell.

Cofion a diolch eto,

Rob Thomas