Dysgwch Gymraeg y mis Medi yma

Mae cyfres o gyrsiau Cymraeg lefel mynediad, sylfaen, uwch a medrus ar gael am ddim i aelodau a staff y Cyngor.
30 – 32 wythnos o hyd yw’r cyrsiau a byddant yn dechrau ym mis Medi 2022.
Ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio gwyliau blynyddol na'ch amser eich hun i fynd i'r cyrsiau ond gwiriwch gyda'ch rheolwr cyn cofrestru.
Gallwch weld y cyrsiau sydd ar gael a chofrestru nawr trwy’r amserlen Dysgu Cymraeg:
Amserlen Dysgu Cymraeg
Gwybodaeth Sesiynau Anffurfiol
Er bod pedwar dosbarth lefel Mynediad ar wahân, dim ond un y mae angen i chi gofrestru ar ei gyfer. Bydd eich dosbarth wedyn ar y diwrnod hwnnw ac ar yr amser hwnnw drwy gydol y cwrs. Mae disgwyl i chi fynd i bob sesiwn ac os bydd angen i chi fethu sesiwn, efallai y bydd angen i chi ddal i fyny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r cydlynydd Cymraeg Gwaith a'r tiwtor Cymraeg Sarian Thomas-Jones:
sthomas-jones@valeofglamorgan.gov.uk
Neu Elyn Hannah:
ehannah@valeofglamorgan.gov.uk