Ysgolion pêl-droed Joe Ledley yn llwyddiant ysgubol 

Joe Ledley soccer school 1Mae Joe Ledley wedi canmol llwyddiant ysgolion pêl-droed a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Ysgol Uwchradd Whitmore.

Cynhaliodd Academi Bêl-droed Joe Ledley dair sesiwn pedwar diwrnod dros y gwyliau i blant rhwng pump a 12 oed. 

Chwaraeodd Jo Lewis, Rheolwr Busnes yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai, rôl allweddol wrth lwyfannu'r sesiynau, a bu Carole Tyley, Rheolwr Gyfarwyddwr y Big Fresh Catering Company, a’i  thîm hefyd yn chwarae rhan fawr.

Roedd yn rhaid i swyddogion diogelwch fynychu ar fyr rybudd er mwyn sicrhau bod cyfleusterau'n cael eu hagor a'u cau ar amser a darparwyd cyllid gan y Rheolwr Atal a Phartneriaeth Mark Davies.
Mae rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu'r Cyngor yn cynnwys ymrwymiad i ddarparu cyfleusterau addysgiadol o'r radd flaenaf nid yn unig i ddisgyblion ysgol ond hefyd y gymuned ehangach.

Gyda hyn mewn golwg, caniatawyd i Academi Joe Ledley ddefnyddio'r cae chwarae 4G yn rhad ac am ddim.

Joe Ledley soccer school 2

Yn gyfnewid am hyn, fe gynigion nhw i'r rhai oedd yn cymryd rhan gyfradd ostyngol, tra bod rhai plant na fyddai wedi gallu bod yn bresennol fel arall efallai, wedi eu noddi gan Big Fresh, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol hunangynhaliol y Cyngor.
Darparodd Big Fresh hefyd ginio a byrbrydau maethlon, tra bod hyfforddwyr pêl-droed yn rhoi sgyrsiau ar bwysigrwydd bwyta'n iach.

Meddai Joe Ledley:  "Hoffwn ddiolch i'r Cyngor am ei holl gefnogaeth i sicrhau bod ein haf cyntaf yn llwyddiant ysgubol.  Byddem yn ei wneud eto yn ddiamau. 

"Cafodd y plant amser da iawn, fe ddysgon nhw am faeth chwaraeon a, thrwy garedigrwydd Big Fresh, fe wnaethon nhw fwynhau prydau a byrbrydau iach.

"Fe wnaethon ni fwynhau gweithio gyda'r Cyngor, roedd staff o gymorth ac yn gymwynasgar ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gydweithio eto yn y dyfodol."

Yn ogystal â chyflenwi prydau iach i ysgolion sy’n bartneriaid, mae Big Fresh hefyd yn darparu gwasanaeth arlwyo allanol, yn gweithredu trelar bwyd stryd ac yn rhedeg y Big Fresh Café ar Bier Penarth.

Joe Ledley soccer school 3

Dychwelir yr holl elw i ysgolion a’r busnes ei hun gan nad oes yr un o'r cyfarwyddwyr yn derbyn cyflogau ac nid yw'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, yn tynnu unrhyw arian o’r cwmni.

Defnyddiwyd arian i wella ansawdd ac amrywiaeth prydau ysgol, talu am gitiau pêl-droed a hefyd ariannu prosiectau eraill fel ardal fwyta yn yr awyr agored yn Ysgol Gynradd Ynys y Barri.

Dywedodd Carole Tyley:  "Fel mae'r enw'n awgrymu, mae ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy i Ysgolion wedi'i chynllunio nid yn unig i fod o fudd i ddisgyblion ysgol, ond hefyd y gymuned ehangach. 

"Mae'r cytundeb gydag Academi Bêl-droed Joe Ledley yn enghraifft berffaith o'r nod yma'n cael ei roi ar waith. "Yn anffodus, mae llawer o bobl eisoes yn profi tlodi bwyd a bydd y broblem hon ond yn dwysáu wrth i'r argyfwng costau byw barhau. 

"Fe wnaethon ni gynnig bwyd a byrbrydau maethlon am ddim i bawb oedd yn mynychu'r sesiynau pêl-droed, beth bynnag oedd eu hamgylchiadau personol ac roedden ni hefyd yn gallu talu am lefydd rhai plant.

"Roedd hi'n bleser gweithio gyda Joe a'i dîm ac fe fydden ni'n bendant yn awyddus i'w wneud eto."