Cyfle i gael pàs bws Diwrnod i Fynd am ddim!

 

People sat on a bus

Rydym yn falch o gynnig pasys "Diwrnod i Fynd" Bws Caerdydd i staff fel rhan o Ddiwrnod Teithio Iach 2022.

Os ydych am deithio fel rhan o'ch diwrnod gwaith, cysylltwch â passengertransport@valeofglamorgan.gov.uk i ofyn am bàs gan ddefnddio’r pennawd pwnc "Diwrnod i Fynd".

Dylech gynnwys eich enw, eich adran, y gwasanaeth bws i'w ddefnyddio a diben eich taith.

Dim ond ar wasanaethau Bws Caerdydd y gellir defnyddio'r pasys. Mae gwybodaeth am wasanaethau bws Caerdydd ar gael yn Bws Caerdydd.

Bydd angen 24 awr o rybudd ar y tîm i brosesu eich cais a gellir casglu’r pasys o dderbynfa’r Ganolfan Ddinesig a’r Alpau ar ôl eu cadarnhau trwy e-bost a ddychwelir.