Digwyddiad Rhwydwaith Lles 2022
Mae'r digwyddiad Rhwydwaith Lles yn gyfle gwych i weithwyr proffesiynol ddysgu am yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael i deuluoedd, plant a phobl ifanc yn y Fro.
Cynhelir y digwyddiad ddydd Iau 13 Hydref 2022 yng Nghanolfan Celfyddydau’r Memo, y Barri o 10am tan 2pm.
Dyluniwyd y rhaglen i gyflwyno cyfeirlyfr amrywiol y gwasanaethau lles sy'n hygyrch i deuluoedd a phobl ifanc hyd at 25 oed.
10:00am Cynnig Gofal Plant i Blant 2 oed – Trosolwg o’r Cynnig ac Ardaloedd
10:30am Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol (DYGYLlEM) Offeryn Hunanasesu, trosolwg canllawiau a pheilot lleol.
11:00am Llinell Gyngor Therapi Lleferydd ac Iaith
11:30am Symud Mwy, Bwyta'n Dda
12:00pm Cymorth Cynnar - Ailfrandio/Lansio
Yn ogystal, mae amrywiaeth o wasanaethau mewnol ac allanol yn dod i’r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o'u gwasanaeth a chyfleoedd sydd ar y gweill. Bydd cynrychiolwyr ar gael mewn stondinau gwybodaeth o amgylch y neuadd i drafod sut y gall eu cefnogaeth fod o gymorth.
Dyma rai o'r Stondinwyr sydd wedi'u cadarnhau ar gyfer y digwyddiad Dechrau’n Deg, Tîm Lles Ieuenctid, Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro, Maethu Cymru.
Cofrestrwch ar Eventbrite i gael eich tocyn am ddim.