Staffnet+ >
Gweminar: Rheoli cynnydd costau byw
Gweminar: Rheoli cynnydd costau byw
Gyda'r cynnydd mewn biliau ynni a chostau byw hanfodol eraill eleni, mae'r rhan fwyaf o bobl yn mynd i deimlo'r effaith ar eu cyllid.
Byddwn yn ymuno â’r arbenigwyr Better With Money ar gyfer gweminar ar-lein awr i ddarganfod sut i reoli'r cynnydd mewn costau byw i leihau straen arian.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 8 Tachwedd am 12 hanner dydd dros Microsoft Teams. Does dim angen troi eich camera na'ch meicroffon ymlaen i ymuno â'r sesiwn, ond os ydych am gymryd rhan gallwch wneud hynny drwy swyddogaeth sgwrsio Teams.
Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i ystod eang o bynciau, gan gynnwys:
• Y cynydd costau disgwyliedig
• Cynllunio'ch cyllideb
• Awgrymiadau i leihau costau
• Gwneud y mwyaf o incwm
• Rheoli dyled
• Y cymorth sydd ar gael
• Creu arferion arian da
Cofiwch, mae mynychu'r Caffi Dysgu yn rhan o'ch datblygiad ac felly mae modd mynd yno o fewn eich diwrnod gwaith.
Methu mynychu’r sesiwn? Os na allwch fynychu’r sesiwn hon ac os hoffech chi ddal i fyny yn ddiweddarach, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma ac unwaith y bydd y sesiwn drosodd byddwn yn dosbarthu recordiad o'r sesiwn i bawb ar y rhestr i gyfeirio'n ôl ato neu er mwyn dal i fyny yn eu hamser eu hunain.