Staffnet+ >
Newid i Brisiau Peiriannau Gwerthu yn Safleoedd y Cyngor
Newid i Brisiau Peiriannau Gwerthu yn Safleoedd y Cyngor
O 15 Hydref 2022 bydd prisiau’r peiriannau gwerthu gwerthu yn y Swyddfeydd Dinesig, y Dociau a'r Alpau yn cynyddu 15% ar gyfartaledd.
Yn sgil y cynnydd yng nghostau logisteg, bydd prisiau yn y peiriannau yn codi 15% ar gyfartaledd.
Bydd rhai nwyddau arbennig ar gael am bris gostyngol o dro i dro.
Mae’r peiriannau yn y lleoliadau hyn yn cael eu rheoli gan Big Fresh Catering sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r Cyngor.
Yn ogystal a rheoli’r peiriannau gwerthu ar safleoedd y Cyngor, mae Big Fresh hefyd yn gweithredu’r caffi a’r bar trwyddedig ym Mhafiliwn Pier Penarth ac arlwyo yn ysgolion y Fro.
Am ragor o wybodaeth, ewch i’w gwefan, gyrrwch e-bost atynt neu chwiliwch am The Big Fresh Catering Company ar Facebook.