Yr Wythnos Gyda Rob
28 Hydref 2022
Dear colleagues,

Hoffwn i ddechrau neges yr wythnos hon drwy longyfarch Gwasanaeth Ieuenctid y Fro am gyflawni'r Marc Ansawdd Arian ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae’r Marc Ansawdd yn un o'r anrhydeddau uchaf yn y sector ac fe'i dyfernir i dimau, fel ein tîm ni, i gydnabod bod eu gwaith yn galluogi pobl ifanc i ddysgu a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol ac mae ystod gadarn o bolisïau yn sail iddo.
Roedd nifer fawr o gynrychiolwyr y Gwasanaeth Ieuenctid ymhlith y timau a'r unigolion hynny ar restr fer y gwobrau staff diweddar. Mae’n wych bod eu gwaith yn cael ei gydnabod yn allanol. Gwaith gwych, bawb.
Tîm arall y mae ei waith yn gwneud gwahaniaeth i fywydau llawer o blant a phobl ifanc yw ein tîm Maethu yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc. Wrth i chi ddarllen y neges hon, mae plant ym Mro Morgannwg sydd angen rhywun. Mae angen iddyn nhw gael eu clywed, mae angen rhywun arnyn nhw a fydd yn credu ynddyn nhw ac mae angen gofal arnyn nhw. Drwy weithio’n rhan o Maethu Cymru, mae ein tîm yn helpu i ddod o hyd i bobl sy'n gallu rhoi'r cymorth hwn y mae mawr ei angen.

Gall maethu olygu lefelau gwahanol iawn o gymorth a gall hyd gofal maeth amrywio. Gall fod mor fyr ag arhosiad dros nos, ychydig fisoedd, neu rywbeth mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn unigolyn sydd angen rhywbeth unigryw. Mae llawer o fathau o ofal maeth ond mae ganddyn nhw i gyd rywbeth yn gyffredin – maen nhw’n rhoi cartref. Lle diogel ac amgylchedd meithringar lle y gall plant dyfu.
Rhannodd y tîm dysteb gyda mi ar ddechrau’r wythnos hon. "I ni, doedd hi ddim yn teimlo'n iawn i fynd lawr y llwybr o gael mwy o blant ein hunain. Felly, edrychon ni ar faethu yn lle hynny a chysyllton ni â thîm maethu ein hawdurdod lleol. Mae wedi rhoi cyfle i ni ofalu a meithrin eto. Mae'n fraint gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau'r plant hyn. Hoffwn i gredu ei fod wedi dod â'r gorau allan ohonof i hefyd." Mae'n amlwg wedi bod yn brofiad gwerth chweil i'r gofalwyr hynny, Rich a Tania, ac rwy'n siŵr mai dim ond gyda gofal a chefnogaeth ein tîm yr oedd yn bosibl. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud i recriwtio a chefnogi'r rhwydwaith o ofalwyr yn y Fro.
Mae'r tîm bob amser yn recriwtio gofalwyr maeth newydd. Does dim y fath beth â theulu maeth arferol. Beth bynnag yw eich amgylchiadau. P’un a ydych yn talu morgais neu’n talu rhent. P’un a ydych yn briod neu’n sengl. Beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol, eich ethnigrwydd neu eich crefydd. Os ydych am wneud gwahaniaeth, gallwch faethu. Os ydych chi eisiau gwybod mwy, cysylltwch â'n cydlynydd: megparry@valeofglamorgan.gov.uk.

Hoffwn i ddiolch hefyd i bawb sydd y tu ôl i’r prosiect Gardd Pawb a agorodd i'r gymuned yr wythnos ddiwethaf. Doedd dim lle yn fy neges ddiwethaf i sôn am hyn ond doeddwn i ddim am golli cyfle arall i dynnu sylw at y darn gwych hwn o waith.
Arweiniodd Tîm Cyfoethogi Cymunedau’r Gwasanaethau Tai y prosiect, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid y Fro, Ysgol Gynradd Colcot, a'r tîm Dechrau'n Deg. Gan weithio gyda phartneriaid sectorau eraill ac yn bwysicaf oll trigolion lleol, mae'r timau wedi trawsnewid safle adfeiliedig oddi ar Margaret Avenue yn Y Barri yn ofod llewyrchus i'r gymuned ei fwynhau. Daeth llawer o bobl i’r agoriad yr wythnos ddiwethaf ac rwy'n disgwyl y bydd yr ardd yn boblogaidd iawn am gyfnod hir i ddod.

Mae rhai ohonoch chi eisoes wedi gweld bod y Cyngor yn cymryd rhan yn arolwg adborth staff Stonewall i'n helpu ni i ddysgu mwy am eich syniadau ynghylch cynwysoldeb yn y Cyngor. Fel Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, rydyn ni am sicrhau bod pawb yn gallu bod yr hyn y maent yn y gwaith, beth bynnag yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd. Gallwch lenwi’r arolwg erbyn 5 Tachwedd i rannu eich barn. Drwy wneud hyn, byddwch yn ein helpu i weld sut rydyn ni’n gwneud a'r hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno nesaf. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn ddi-enw.
Gan edrych i'r dyfodol, rydyn ni nawr yng nghamau olaf lansio ein menter Croeso Cynnes a fydd yn cynnig ystod eang o gymorth a gweithgareddau i drigolion yn ystod yr Hydref a'r Gaeaf. Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i gyrraedd y pwynt hwn a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn brysur yn gwneud trefniadau i wneud yn siŵr y bydd y rheiny sydd angen rhywle cynnes a chroesawgar yn gallu manteisio ar le o’r fath.
Bydd Cynllun Cyflawni Blynyddol arfaethedig y flwyddyn nesaf hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yr wythnos nesaf. Yn sgil yr heriau difrifol sy'n wynebu'r rheiny sy'n byw yn y Fro, rydyn ni’n bwriadu ail-ganolbwyntio llawer o'n gwaith ar dri maes allweddol. Y tri maes allweddol hyn yw cefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, Prosiect Sero, a sicrhau bod ein sefydliad yn ddigon cryf a gwydn i oroesi'r ychydig flynyddoedd nesaf sy’n debygol o fod yn heriol yn nhermau cyllidebol. Er y bydd y cynllun yn cyflwyno ein gwaith ar gyfer 2023/24 fel rhestr o amcanion a chamau gweithredu, mae fy nghydweithwyr yn yr uwch dîm rheoli a minnau byth yn anghofio’r ffaith mai ein cydweithwyr, chi fel unigolion, sy'n cyflawni'r gwaith hwnnw. Hoffwn i ddiolch i chi i gyd ymlaen llaw am bopeth rwy'n gwybod y byddwch yn ei wneud i gefnogi'r Fro.
Yn olaf, rwy'n gwybod y bydd llawer ohonoch yn darllen hyn wrth edrych ymlaen at yr egwyl hanner tymor. Fel bob amser mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y Fro i ddathlu Calan Gaeaf a noson tân gwyllt, yn ogystal â llawer i'w wneud gyda theulu a ffrindiau. Edrychwch ar ein gwefan Ymweld â’r Fro i weld beth sydd ymlaen yn eich ardal chi. Beth bynnag yw eich cynlluniau, rwy'n gobeithio y byddwch chi i gyd yn dod o hyd i amser i fwynhau eich hunain.
Diolch i chi i gyd, fel bob amser, am eich gwaith yr wythnos hon. Diolch yn fawr.
Rob.