Yr Wythnos Gyda Rob
21 Hydref 2022
Annwyl gydweithwyr,
Rydyn ni wedi cyrraedd diwedd wythnos brysur arall ac mae nifer o ddatblygiadau mawr i mi eich diweddaru arnynt.
Yn gyntaf, mae Estyn wedi cyhoeddi tair astudiaeth achos yr wythnos hon o'u harolygiadau yn Ysgol Uwchradd Whitmore yn y Barri ac Ysgol Stanwell ym Mhenarth. Mae'r tair astudiaeth achos yn llawn canmoliaeth ac wrth ystyried mai dim ond yn 2018 y sefydlwyd yr ysgol, nid yw astudiaethau achos Whitmore yn ddim llai na rhyfeddol. Caiff yr ysgol ei chanmol am Ddatblygu diwylliant effeithiol ar gyfer dysgu a chael Ymagwedd ysgol gyfan at sicrhau safonau addysgu a dysgu uchel.

Mae'r adborth hynod gadarnhaol hwn yn dyst i waith caled ac ymrwymiad pawb sy'n gweithio yn yr ysgolion, a phawb yn ein tîm Dysgu a Sgiliau sy'n eu cefnogi.
Yn 2016 fe nododd ein Cyngor gynllun i drawsnewid addysg uwchradd yn y Barri. Mae'n wych gweld bod y gwaith bellach yn dwyn ffrwyth ar gyfer plant a phobl ifanc y dref.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau cyflwynodd y Cynghorydd Birch adroddiad o'r enw Diweddariad ar Fuddion Cymunedol a Chanlyniadau Cynaliadwyedd Band B y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae’n werth rhoi deg munud o’ch amser i ddarllen yr adroddiad. Mae'n manylu ar y cannoedd o swyddi a phrentisiaethau newydd a grëwyd gan ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ogystal â chynaliadwyedd ac effeithiau economaidd ysgolion newydd fel Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn rhagorol a dylai'r rhai sy’n rhan ohono fod yn falch iawn.

Roedd ein tîm Dysgu a Sgiliau hefyd yn cael lle amlwg mewn digwyddiad recriwtio a dysgu llwyddiannus iawn yn Llyfrgell y Barri yr wythnos hon. Roedd y digwyddiad prysur yn dangos llawer o'r cyfleoedd sy'n agored i breswylwyr gyda stondinau yn cefnogi popeth o ddysgu oedolion i Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a Big Fresh. Roedd ein tîm Adnoddau Dynol hefyd wrth law i hyrwyddo cyfleoedd gwaith amrywiol gyda'r Cyngor.
Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wrthi'n recriwtio o'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu a chafodd ein statws fel cyflogwr da ei gryfhau ymhellach yr wythnos hon pan ganmolwyd y sefydliad yn fawr yng Ngwobrau Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro. Mae ein tîm Adnoddau Dynol wedi gweithio'n agos gyda'r undeb credyd ers blynyddoedd lawer, gan helpu cydweithwyr i gael mynediad at gyfrifon cynilo diogel a benthyciadau fforddiadwy. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir i'w cael fel rhan o'n hadran Costau Byw ar StaffNet+.
Un o wirioneddau trist yr argyfwng costau byw yw y bydd yn gwthio llawer o bobl i sefyllfaoedd o fregusrwydd ariannol ac mae unigolion didrugaredd yn aros i fanteisio ar hyn. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r mater hwn, ceir ymgyrch genedlaethol i rybuddio pobl am beryglon benthyca arian yn anghyfreithlon a chynnig cyngor i deulu a ffrindiau ar sut i helpu rhywun a allai fod mewn trafferthion. Gweithiodd ein tîm Cyfathrebu gyda sefydliad Atal Siarcod Benthyg Arian Cymru ar yr ymgyrch a bydd y Cyngor yn mynd ati i'w hyrwyddo dros y misoedd nesaf.

Bydd mentrau fel hyn, sydd wedi'u cynllunio i helpu i leddfu pwysau'r argyfwng costau byw, yn ffocws cynyddol i'r Cyngor wrth i ni symud o'r hydref i'r gaeaf. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi nifer o bartneriaid cymunedol yr wythnos hon yn lansiad Prosiect Bwyd Llanilltud sydd bellach wedi agor i'r cyhoedd. Roedd y digwyddiad lansio ddydd Iau yn llwyddiant ysgubol ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni wrth weithio mewn partneriaeth. Diolch i bawb sydd wedi ei gefnogi.

Fel y bydd nifer ohonoch yn ymwybodol, mae’n Wythnos Ailgylchu yr wythnos hon. Mae Cyfraddau ailgylchu Bro Morgannwg ymhlith yr uchaf yn y wlad. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Cyngor yn hynod falch ohono ac mae'n dyst i ba mor dda y mae ein timau Gwasanaethau Cymdogaeth yn darparu eu gwasanaethau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Fro wedi gwneud newidiadau helaeth i wella ansawdd ein hailgylchu. Nid ar chwarae bach y gwnaed y cynnydd hwn a gallwch ddarllen adolygiad ardderchog o'r gwaith a'r effaith y mae wedi’i chael ar StaffNet+.
Yn olaf, hoffwn eich gwneud chi i gyd yn ymwybodol o gam arall eto ymlaen ar gyfer strategaeth Prosiect Sero y Cyngor; lansiad ein ceir cronfa trydan. Mae ceir trydan bellach ar gael i staff eu defnyddio ar gyfer teithiau hanfodol. Maent yn cael eu pweru gan drydan 100% adnewyddadwy a gellir eu casglu o Ddepo'r Alpau. Ein nod yn y pen draw yw disodli'r holl gerbydau disel gyda thechnoleg cerbydau trydan ac mae hyn yn ein rhoi yn gadarn ar y ffordd i lwyddiant.
Fel bob amser diolch am eich ymdrechion yr wythnos hon. Diolch yn fawr bawb.
Rob.